O ddydd Llun, 06 Tachwedd 2023 ymlaen, bydd rheolau newydd yn cael eu cyflwyno ar Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion.

Un o’r newidiadau mwyaf yw’r posibilrwydd y bydd y gweithwyr yn gofyn i’r sawl sy’n defnyddio’r gwasanaeth am brawf eu bod yn byw yng Ngheredigion. Cyflwynir y newid hwn am fod y safleoedd hyn ar gyfer trigolion sy’n talu Treth y Cyngor yng Ngheredigion. Er mwyn profi eich bod yn byw yng Ngheredigion, bydd angen dangos dogfen swyddogol sy’n cynnwys enw a chyfeiriad e.e. bil Treth y Cyngor / bil cyfleustodau (heb fod yn hŷn na 3 mis) neu drwydded yrru.

Mae’r newidiadau i reolau’r Safleoedd Gwastraff Cartref hefyd yn cynnwys canllawiau cliriach ynglŷn â’r deunyddiau y gellir eu gadael ar y safleoedd ynghyd â’r cyfyngiadau sy’n bodoli ar gyfer rhai deunyddiau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd at y dudalen Safle Gwastraff Cartref ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/saflegwastraffcartref

Mae’r system o ran Trwyddedau Dydd hefyd wedi’i diweddaru a’i nodi’n gliriach er mwyn sicrhau nad yw gwastraff yn cael ei adael ar y safleoedd mewn modd anghyfreithlon. Bydd hyn o gymorth i sicrhau bod pob un o’r cynwysyddion ar gael i bob un sydd â’r hawl i ddefnyddio’r safleoedd drwy gydol yr adeg y byddant ar agor. Cyn eich ymweliad, gwiriwch pa gerbydau y mae angen trwyddedau dydd arnynt ar dudalen We y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Henson, Aelod Cabinet dros Briffyrdd a’r Gwasanaethau Amgylcheddol: “Mae’r Safleoedd Gwastraff Cartref yn gyfleusterau gwerthfawr iawn. Mae angen i ni sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n iawn ac yn gyfreithlon gan bawb sydd â’r hawl i’w defnyddio nhw. Bydd y newidiadau a gyflwynir o gymorth i wneud hyn a byddant hefyd yn sicrhau ein bod ni’n ymdrin â’r gwastraff sy’n cael ei adael ar y safleoedd yn y ffordd fwyaf effeithlon yn ariannol ac yn amgylcheddol. Fel rhan o ymgyrch Caru Ceredigion, hoffem ddiolch i drigolion y sir am gydweithio â ni wrth i ni gyflwyno’r newidiadau hyn a fydd o fudd i’n cymunedau a’r amgylchedd.”

Mae rhagor o wybodaeth am y Safleoedd Gwastraff Cartref a’r rheolau newydd ar gael drwy fynd at: www.ceredigion.gov.uk/saflegwastraffcartref   

27/10/2023