Bydd siopwyr Nadolig ac ymwelwyr â Cheredigion yn gallu parcio am ddim ym meysydd parcio Talu ac Arddangos y cyngor ar y tri dydd Sadwrn cyn y Nadolig eleni.
Bydd costau parcio ym meysydd parcio Talu ac Arddangos y cyngor yn cael eu hepgor ar 10, 17 a 24 Rhagfyr 2022.
Y Cynghorydd Keith Henson yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol. Dywedodd: “Rwy’n falch ein bod ni'n gallu agor ein meysydd parcio yn rhad ac am ddim i helpu i gefnogi siopau a busnesau lleol yng Ngheredigion yn y cyfnod cyn y Nadolig. Gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i siopa o fusnesau lleol dros cyfnod yr ŵyl.”
Mae'r taliadau yn ein meysydd parcio Talu ac Arddangos yn rhesymol ac yn cael eu gwneud yn gyfleus trwy ddulliau di-arian. Mae'r incwm a gynhyrchir yn cyfrannu tuag at y gost o gynnal a rheoli'r meysydd parcio yn ogystal â chefnogi gwasanaethau eraill y Cyngor.
Ewch i www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/teithio-ffyrdd-a-pharcio/parcio-a-gorfodi-parcio-sifil/meysydd-parcio-talu-ac-arddangos/ i weld rhestr lawn o feysydd parcio Talu ac Arddangos y Cyngor.
04/11/2022