Bwriedir darparu gwasanaeth casglu gwastraff yng Ngheredigion fel y trefnwyd yn ystod yr wythnosau o amgylch Dydd Nadolig a Dydd Calan.

Oherwydd effeithiau tywydd gaeafol, a salwch, efallai y bydd yn amser heriol i gael yr holl adnoddau sydd eu hangen arnom fel arfer i ddarparu’r gwasanaethau.

Y Cynghorydd Keith Henson yw’r Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol. Dywedodd: “Yn rhan o Caru Ceredigion, rydym wir yn gwerthfawrogi cefnogaeth barhaus ein trigolion a’u dealltwriaeth os amharir ar wasanaethau am ba bynnag reswm.”

Os nad ydym yn gallu casglu eich gwastraff am ba bynnag reswm, dylech ei ail-gyflwyno ar eich diwrnod casglu nesaf. Gallwch wirio’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag amhariadau yn eich ardal ar wefan y Cyngor.

Nid yw erioed wedi bod yn haws ailgylchu o amgylch eich cartref. Cofiwch, gall ffoil glân, caniau a thuniau, cardbord, papur a'r rhan fwyaf o fathau o blastig i gyd fynd yn eich bag ailgylchu clir sy’n cael ei gasglu bob wythnos.

Gellir rhoi gwastraff bwyd megis pilion llysiau, esgyrn twrci, gweddillion bwyd oddi ar eich plât, bagiau te, gweddillion coffi, ac unrhyw hen fwyd sydd wedi dyddio yn eich bin gwastraff bwyd.

Mae’r Cyngor hefyd yn casglu gwydr wrth ymyl y ffordd. Os oes gennych nifer fawr o wydr, mae modd i chi ei ailgylchu ym manciau gwydr y sir neu mewn safleoedd gwastraff cartref. Am restr llawn o fanciau gwydr ewch i'r dudalen ailgylchu.

Cofiwch ailgylchu eich coeden Nadolig go iawn ar y Safle Gwastraff Cartref neu gallwch ei gompostio gartref.

Bydd Safleoedd Gwastraff Cartref ar agor yn ôl yr arfer ar wahân i Ddydd Nadolig a Dydd Calan.

13/12/2022