Bydd y ddarpariaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid yn ehangu yng Ngheredigion yr hydref hwn.

Yn ychwanegol at allu gwneud ymholiadau i Cyngor Sir Ceredigion dros y ffôn, trwy e-bost ac ar-lein, bydd aelodau o’r cyhoedd bellach yn gallu siarad ag ymgynghorydd yn Llyfrgell Aberystwyth, Canolfan Alun R Edwards, a llyfrgelloedd Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi.

Yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, mae tîm Gwasanaethau Cwsmer Clic wedi delio â 10,500 o alwadau a 2,200 o e-byst ar gyfartaledd y mis.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau i Gwsmeriaid: “Mae tîm Clic wedi delio ac ymateb yn rhagorol i anghenion ac ymholiadau aelodau’r cyhoedd yn ystod y misoedd diwethaf. Nawr yw’r amser i gyflwyno’r cyswllt personol, y cysylltiad wyneb yn wyneb, rhwng staff ac aelodau o’r cyhoedd. Gall pobl gael gwybodaeth, cyngor a gwneud ymholiadau yn Llyfrgell Tref Aberystwyth sydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Alun R Edwards, ac yn llyfrgelloedd Aberaeron, Llanbed ac Aberteifi.”

Bydd staff Gwasanaethau i Gwsmeriaid Clic ar gael o 04 Hydref 2022 ymlaen rhwng 9:30am a 4:00pm bob dydd Mawrth, Mercher a Iau ymhob un o’r pedwar llyfrgell. Darparwyd y gwasanaeth hwn yn flaenorol yng Nghanolfan Rheidol yn Aberystwyth.

Gan y bydd y gwasanaeth yn ailagor fesul cam, bydd y gallu i wneud taliadau yn cael ei ailgyflwyno maes o law. Gellir parhau i wneud taliadau dros y ffôn, ar wefan y Cyngor ac mewn swyddfeydd post.

Bydd cyfarfodydd y Cyngor a’r Cabinet yn parhau i gael eu darlledu ar dudalennau Facebook y Cyngor, gallwch ymuno’n rhithiol trwy anfon neges i democratiaeth@ceredigion.gov.uk. Fel arall, gall aelodau o’r cyhoedd ddod i'r Siambr i wylio cyfarfodydd y Cyngor.

Gellir hefyd gwneud ymholiadau trwy Clic, porth Gwasanaethau i Gwsmeriaid Ceredigion, trwy fynd ar wefan y Cyngor, ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost i clic@ceredigion.gov.uk

03/10/2022