Mae’r tywydd mewn rhannau helaeth o Geredigion wedi gwaethygu dros nos.
Mae hyn wedi effeithio ar amodau’r ffyrdd i’r graddau sydd wedi effeithio ar weithgareddau cynnal a chadw dros y gaeaf y Cyngor. Nid yw wedi bod yn bosib i drin yr holl brif ffyrdd.
Y rhagolygon ar gyfer dydd Sadwrn yw glaw ac eirlaw a fydd yn gwneud amodau teithio hyd yn oed yn fwy peryglus.
Cynghorir y cyhoedd yn gryf felly i beidio a theithio oni bai ei fod yn hanfodol ac i fod yn hynod ofalus. Bydd y Cyngor yn parhau yn ei ymdrechion i ddelio â’r sefyllfa fel y bydd adnoddau ac amodau’n caniatáu yn unol â Chynllun Gwasanaeth Dros y Gaeaf.
Mae’r Safleoedd Gwastraff Cartref canlynol hefyd ar gau oherwydd amodau tywydd gwael: Cilmaenllwyd ger Aberteifi; Rhydeinon, Llanarth; a Llanbedr Pont Steffan.
Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: Cadw Ceredigion yn ddiogel yn y tywydd oer a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.
17/12/2022