Mae Ceredigion yn cadw i symud yn ystod y tywydd oer presennol y rhagwelir i barhau tan o leiaf ddydd Sul 18 Rhagfyr.

Yn ystod y cyfnod hwn, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn brysur yn cadw’r prif ffyrdd yn ddiogel, yn ogystal ag ailgyflenwi blychau graean sy’n rhoi modd i fodurwyr a cherddwyr helpu eu hunain. Lle bo modd, mae ysgolion hefyd wedi cael eu trin i ganiatáu mynediad diogel i ddisgyblion, staff a rhieni. Byddwn yn parhau i wneud y gwaith hwn cyhyd ag y bo angen a bod adnoddau ar gael.

Ers 07 Rhagfyr mae’r Cyngor wedi:

  • Cynnal 34 rhediad graeanu
  • Taenu 1,080 tunnell o halen
  • Graeanu 19,400 milltir o’r priffyrdd
  • Derbyn nifer fawr o geisiadau yn ymwneud â Gwasanaeth y Gaeaf

Ymatebir i bob cais am gymorth ar sail blaenoriaeth fel y bo adnoddau'n caniatáu ac mewn modd mor amserol â phosibl.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Argyfyngau Sifil: “Mae ein gweithlu a thimau cymorth yn gweithio’n galed i wneud teithio mor ddiogel â phosibl yn y sir. Diolch yn fawr i drigolion Ceredigion am eu gwerthfawrogiad a’u cefnogaeth yn ystod y cyfnod hwn.”

Mae’n bosib y bydd gwasanaethau megis casglu gwastraff yn cael eu amharu arnynt oherwydd y tywydd. Cadwch olwg ar y dudalen we am aflonyddwch i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff.

Meddyliwch am eich taith cyn mentro allan ac ystyriwch a yw'r daith yn hanfodol. Gall teithiau nad ydynt yn hanfodol eich peryglu chi ac eraill.

14/12/2022