Mae’r ymgynghoriad ar Gynllun Strategol Drafft y Gymraeg mewn Addysg Ceredigion 2022-2032 bellach yn fyw. Mae’r ddogfen ddrafft statudol hon yn amlinellu sut y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn datblygu darpariaeth Gymraeg mewn Addysg dros y degawd nesaf.

Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r canlyniadau a'r targedau yn y ddogfen ddrafft. Mae'n cynnwys llawer o flaenoriaethau sy'n deillio o bolisïau a strategaethau cenedlaethol megis Cymraeg 2050 – Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac wrth gwrs y Cwricwlwm i Gymru; mae pob un ohonynt wedi cael eu defnyddio fel sail i’r ddogfen ddrafft. 

Y Cynghorydd Catrin Miles yw’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Cymorth ac Ymyrraeth. Dywedodd: “Mae ein hysgolion yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i gynnal iaith Gymraeg lewyrchus yn ein cymunedau. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ategu gweledigaeth y Cwricwlwm newydd i Gymru, lle un o'r prif ddibenion yw sicrhau bod dysgwyr yn gallu cyfathrebu'n effeithiol yn y Gymraeg a'r Saesneg ym mhob lleoliad ac ar bob ffurf. Mae'n gyfle i bawb ddweud eu dweud ar sut y maent yn credu y dylai'r Gymraeg yn Addysg Ceredigion edrych dros y 10 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn ein helpu i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi'i wneud a sicrhau bod y Gymraeg yn gallu cael ei gweld, ei chlywed a’i mwynhau gan blant ac yn rhoi'r sgiliau iddynt atgyfnerthu dyfodol lle mae'r Gymraeg yn amlwg ym myd gwaith, bywyd cartref a busnesau."

Mae dogfennau’r ymgynghoriad i’w gweld ar wefan y cyngor: https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/cynllun-strategol-y-gymraeg-mewn-addysg/. Bydd copïau papur neu fersiynau print bras hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd lleol ac yn swyddfeydd y cyngor. Os hoffech i ni anfon copi atoch chi drwy’r post, cysylltwch â Clic ar 01545 570 881 neu anfonwch e-bost at clic@ceredigion.gov.uk.

Daw’r ymgynghoriad i ben am hanner nos ar 12 Tachwedd. Bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a bydd pwyllgorau priodol y Cyngor yn ystyried unrhyw welliannau posibl. Bydd y drafft terfynol yna’n cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i ofyn am sylwadau erbyn 31 Ionawr 2022.

 

20/09/2021