Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn nodi beth yw gweledigaeth Cyngor Sir Ceredigion wrth ddatblygu’r Gymraeg yn ei hysgolion dros y deng mlynedd nesaf o fis Medi 2022 hyd 2032.

Mae’n ofyniad statudol i gyhoeddi Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg.

Nodir hynny yn neddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 Llywodraeth Cymru.

Mae’r gofyniad yn cynnwys cynigion a thargedau awdurdod lleol er mwyn:

  1. Gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (“addysg cyfrwng Cymraeg”) yn cael ei darparu yn ei ardal;
  2. Gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal.

Targed Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i Sir Ceredigion i gynyddu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer plant Blwyddyn 1. Yn bresennol mae oddeutu 73% o’n disgyblion mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Erbyn 2032 y disgwyliad, yn unol â’r targed yw bod 87% o’n disgyblion yn derbyn addysg cyfrwng Cymraeg pan yn 5 oed.

Cymraeg 2050: Miliwn Siaradwyr Llywodraeth Cymru

Hon yw’r sylfaen ar gyfer gweld y Gymraeg yn ffynnu. Mae cyfraniadau heddiw a chyfraniad y Cyngor tuag at y strategaeth 10 mlynedd nesaf yn helpu wrth gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg (a Saesneg) erbyn 2050.

Cwricwlwm i Gymru

Mae dilyniant ym maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn y cwricwlwm newydd wedi’i seilio ar gontinwwm dysgu sy'n galluogi dysgwyr â sgiliau Cymraeg, hyd yn oed rhywfaint bach, i ddatblygu ac adeiladu ar eu sgiliau a'u hyder. Mae gan bawb y potensial i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, fel y mae ganddynt y potensial i ddatblygu ieithoedd eraill. Mae Cymraeg 2050 yn glir mai trochi cyfrwng Cymraeg - sef lle mae cyfrwng yr addysgu a'r dysgu yn cael ei gyflwyno'n gyfan gwbl neu'n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg - yw'r model mwyaf dibynadwy ar gyfer creu siaradwyr Cymraeg gyda'r sgiliau a'r hyder i ddefnyddio'r iaith yn gyfforddus yn eu bywydau bob dydd.

Deddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol

Daeth y ddeddf i rym ym mis Ebrill 2015. Er mwyn creu Cymru sy’n fwy cynaliadwy, rhaid i gyrff cyhoeddus weithio tuag at saith Nod Llesiant a gweithredu'r pum Ffordd o Weithio. Mae gweld Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu yn un o’r nodau creiddiol.

Gweledigaeth Ceredigion

Erbyn mis Medi 2032, dyhead Cyngor Sir Ceredigion yw y bydd pob disgybl yn ysgolion yr awdurdod yn derbyn addysg drochi cyfrwng Cymraeg hyd nes y bydd yn saith oed. Bydd derbyn sylfaen ragorol wrth siarad a chyfathrebu yn y Gymraeg yn cynyddu ar ddewis a hyder y disgybl i ddilyn trywydd cwbl ddwyieithog drwy weddill ei yrfa addysgol ac wrth wynebu byd gwaith a bywyd cymdeithasol y dyfodol. Bydd hyn nid yn unig yn llesol i’r unigolyn ac i sefyllfa’r Gymraeg yng Ngheredigion fel iaith gymunedol, bydd hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol iawn tuag at nodau llesiant cenedlaethol Cymru ac at nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Mae yma gydnabyddiaeth felly bod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu’r Gymraeg a’r Saesneg. Mae manteision dwyieithrwydd ac amlieithrwydd wedi eu cofnodi ar draws y byd ac mae bod felly yn norm yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop a’r byd.

Mae’r ymgynghoriad hwn felly’n gyfle i gyrchu eich barn ac i ddylanwadu ar y strategaeth am y deng mlynedd nesaf. Cofiwch mai dogfen ddrafft yw hon ar hyn o bryd. Bydd eich barn yn dylanwadu ar y strategaeth ar gyfer y deng mlynedd nesaf.

Sut mae ymateb?

Unwaith y byddwch wedi darllen y ddogfen ymgynghorol yna gallwch gwblhau’r ffurflen ymateb sydd mewn ffurf electronig (‘Forms’) drwy glicio ar y ddolen.

Fel arall gallwch wneud cais am gopi drwy e-bost i’r cyfeiriad isod a’i ddychwelyd i’r un cyfeiriad: clic@ceredigion.gov.uk neu os am gopi caled, gallwn bostio un i chi ynghyd â’r ffurflen ymateb. Bydd copïau caled ar gael yn ein llyfrgelloedd yn ogystal. Dylid dychwelyd y ffurflenni ymateb i’r cyfeiriad hyn:

CLIC/Ymgynghoriad CYSGA, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE

Os ydych yn cael unrhyw anawsterau wrth ymateb yna, unwaith eto cysylltwch gyda’r cyfeiriad e-bost uchod i nodi hynny.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich sylwadau.

Y Cynghorydd Catrin Miles (Aelod Cabinet dros Addysg a Dysgu Gydol Oes)
Y Cynghorydd Ellen ap Gwyn (Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion)

Rydym wedi rhannu ‘Ffurflen Monitro Cydraddoldeb’ Cyngor Sir Ceredigion. Nid yw’n orfodol i chi ymateb i’r cwestiynau fel rhan o’r broses ymgynghori hwn ond bydd cynnig y wybodaeth yn gymorth i ni wrth weld pa mor llwyddiannus yr ydym wrth ymgysylltu ag amrywiol rannau o gymunedau a phoblogaeth Ceredigion.

Gallwch weld copi o’r Asesiad Effaith Integredig hefyd o dan y sectiwn I'w lawrlwytho. I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut ydym yn rheoli a diogelu’r wybodaeth rydych yn ei darparu yn ein telerau Defnyddio a Pholisi Preifatrwydd, ewch i'n tudalen Hysbysiad Preifatrwydd.