Ar hyn o bryd, mae ychydig dros 40 o unigolion yng Ngheredigion yn chwilio am gymorth a fydd yn rhoi'r dewis iddynt fyw bywyd yn fwy annibynnol.

Ydych chi'n berson cyfeillgar, caredig ac amyneddgar a hoffai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd rhywun yn eich cymuned? Os felly, efallai mai rôl cynorthwyydd personol yw'r rôl berffaith i chi.

Mae llawer o wahanol resymau pam y gallai fod angen cynorthwyydd personol ar rywun, a gallai fod angen cymorth arnyn nhw gyda llawer o wahanol agweddau ar eu bywyd – mae rhai ohonynt yn deuluoedd sy'n ceisio cymorth gyda gofal seibiant, mae rhai'n dymuno cael cynorthwyydd gofal i helpu gyda gweithgareddau ar ôl ysgol, ac mae rhai’n chwilio am gymorth i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac ymarferol megis coginio neu ddal bws.

Gall y person cywir – ac mae’n bosib mai chi fydd y person hwnnw - ddarparu cymorth iddynt fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain, yn y gymuned, yn eu hamser hamdden neu efallai yn y gwaith, gan helpu gyda gwahanol agweddau ar eu bywyd bob dydd.

Fel Cynorthwyydd Personol, byddech yn cael eich cyflogi'n uniongyrchol gan unigolyn sy'n rheoli ac yn talu am eu gofal eu hunain drwy daliad uniongyrchol gofal cymdeithasol. Mae Gwasanaeth Cymorth Taliadau Uniongyrchol Cyngor Sir Ceredigion yn darparu gwybodaeth, cefnogaeth a chymorth, i unigolion sy’n gymwys am y gwasanaeth, wrth recriwtio a chyflogi staff, talu cyflog a chynorthwyo gyda thaliadau treth ac Yswiriant Gwladol.

Efallai eich bod chi'n rhywun sydd â dim ond ychydig oriau yn sbâr yr wythnos ond a hoffai dreulio'r amser hwnnw'n helpu eraill. Dim ond am gwpl o oriau'r wythnos y mae angen rhai cynorthwywyr personol, ond mae angen rhai eraill am hyd at 18 awr yr wythnos.

Catherine Hughes yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Porth Ceredigion, Ymyrraeth Gynnar, Canolfannau Lles a Diwylliant. Dywedodd: "Rydyn ni weithiau'n cymryd llawer o bethau mewn bywyd yn ganiataol, megis cerdded, bwyta, mynd yn y car i fynd i siopa, a bod gyda'n ffrindiau. I rai, gall bywyd fod yn fwy heriol ac mae eu dewis i fod yn annibynnol yn cael ei leihau. Mae gweithio fel cynorthwyydd personol a gwybod eich bod yn cael effaith gadarnhaol ar fywyd rhywun arall yn rhoi boddhad mawr. Ar hyn o bryd, mae unigolion o bob cwr o’r sir, o Aberystwyth i Aberteifi, yn chwilio am rywun fel chi."

Erbyn hyn, mae gan Gynorthwywyr Personol fynediad at gyrsiau e-ddysgu a ddarperir gan y Cyngor ar amrywiaeth o bynciau pwysig megis Diogelu, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Iechyd a Diogelwch, Diogelwch Gwybodaeth a llawer mwy.

Ewch i http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/recriwtio-taliadau-uniongyrchol/ heddiw i weld a oes unigolyn y gallech ddarparu cymorth, annibyniaeth, a dewis iddynt.

 

29/11/2021