Mae Cyngor Sir Ceredigion yn adolygu ei pholisi Hapchwarae cyfredol.

Mae'r Cyngor yn holi barn trigolion lleol, busnesau, grwpiau â diddordeb, sefydliadau perthnasol, deiliaid trwyddedau presennol a'u cynrychiolwyr ar y polisi newydd sy'n cynnwys betio, hapchwarae, casinos, loterïau a bingo.

Adolygwyd y polisi hapchwarae presennol ddiwethaf ym mis Ionawr 2019 a rhaid ei adolygu bob tair blynedd. 

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau Diogelu'r Cyhoedd: “Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i drigolion a busnesau fynegi eu barn ar y Polisi Gamblo. Rydym yn annog adborth adeiladol fel y gellir gwneud gwelliannau neu newidiadau lle bo hynny'n briodol. Mae Ceredigion yn ymfalchïo mewn rhwydwaith o gymunedau sy'n gallu cyfathrebu ac ymuno â'i gilydd i fynd i'r afael â materion.

Hoffwn amlygu dylech gysylltu â’r Cyngor os oes problemau sy'n gysylltiedig â gamblo yn eich ardal; os ydych chi'n teimlo bod mynediad i gamblo gan bobl sy'n agored i niwed yn eich ardal yn broblem neu os ydych chi o'r farn bod mynediad i gamblo gan blant neu bobl ifanc yn eich ardal yn broblem."

Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd adroddiad yn cael ei gwblhau ac yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Sir Ceredigion ac yna gan y Cyngor llawn.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 18 Tachwedd 2021. Gallwch ddweud eich dweud a darllen am y polisi yma: https://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/ymgynghoriadau/adolygur-polisi-hapchwarae-2021/

Fe allwch hefyd Anfon unrhyw sylwadau trwy e-bost at publicprotection@ceredigion.gov.uk cyn gyda theitl y pwnc "Ymgynghoriad ar Bolisi Gamblo", neu gallwch hefyd anfon eich sylwadau yn ysgrifenedig at Anne-Louise Davies, Rheolwr Safonnau Masnach a Thrwyddedu,  Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd,  Neuadd Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.

19/10/2021