Mae disgybl 16 mlwydd oed o Ysgol Penglais wedi ennill bri iddo’i hun am gyhoeddi ystadegau ar y we yn ystod cyfnod pandemic y Coronafeirws.

Creodd Lloyd Warburton coronaviruscymru.wales ar ôl cyhoeddi gwybodaeth a graffiau yn dadansoddi ystadegau Coronavirus ar ei dudalen Twitter. Dechreuodd gyhoeddi gwybodaeth ar Twitter fel hobi a gan ddilyn ei ddiddordeb mewn Technoleg Gwybodaeth.

Roedd Lloyd a’i deulu wedi’u synnu gan y diddordeb y mae’r wefan wedi’i ddenu. Dywedodd Lloyd, “Rwyf wastad wedi bod â diddordeb mewn mapiau ac ystadegau ac roeddwn i’n credu y byddai hyn yn ffordd dda o basio’r amser. Fe wnes i ddechrau eu rhannu ar fy nhudalen Twitter tua 10 diwrnod cyn i’r ysgol gau, a daeth yn beth dyddiol. Roedd hi’n ymddangos bod fy nilynwyr wir yn gwerthfawrogi fy ngwaith, ac mae wedi tyfu o hynny. Penderfynais greu gwefan a’i lansio ar 29 Mawrth fel bod modd i mi roi’r holl ddata mewn un lle a’i gwneud hi’n hawdd dod o hyd iddo a’i ddehongli. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth rydw i wedi’i derbyn, yr holl gyngor a’r argymhellion, a’r holl goffi!”

Gan ddefnyddio’r wybodaeth y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei chyhoeddi’n ddyddiol, mae Lloyd yn defnyddio’r rhifau i greu graffiau ac ystadegau mewn ffordd sy’n syml i bawb. Mae’n cymryd oddeutu hanner awr i greu’r graffiau a’u cyhoeddi ar y wefan. Mae’r holl wybodaeth wedyn ar gael yn yr un lle.

Mair Hughes yw Pennaeth Ysgol Penglais. Dywedodd, “Rydym ni wrth ein boddau ac wedi ein syfrdanu gan yr hyn y mae Lloyd wedi’i greu. Mae wedi cyfuno ei sgiliau, ei ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, ei greadigrwydd a’i reddf i greu gwefan a chyfrif Twitter sydd yn amlwg wedi bod o ddiddordeb i filoedd o bobl ledled Cymru. Mae’n amlwg bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol i bob disgybl ym Mlwyddyn 11, ac mae creu rhywbeth mor broffesiynol a defnyddiol â hyn yn ystod y cyfnod hwn yn glod i Lloyd. Llongyfarchiadau mawr i Lloyd – rydym yn falch iawn ohono.”

Roedd Lloyd yn siomedig nad oedd yn gallu sefyll ei arholiadau TGAU, ond mae ganddo angerdd dros y gwyddorau ac mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd i wneud ei Lefel A mewn Bioleg, Daearyddiaeth a Chymdeithaseg.

Roedd Lloyd yn derbyn rhoddion o goffi i ddechrau, ond ers hynny mae wedi derbyn cyfraniadau, wedi cefnogi elusennau a phrynu llyfrau yn barod ar gyfer ei astudiaethau yn y dyfodol.

21/04/2020