Mae’r sefyllfa yng Nghartref Gofal MHA Hafan y Waun, Waunfawr, Aberystwyth yn dal i fod yn heriol ac mae sefydliadau partner yn parhau i ddelio ag achos sylweddol yn y cartref.

Mae Tîm Rheoli Achosion amlasiantaeth wedi cael ei sefydlu i ymateb i'r digwyddiad hwn ac mae Cyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i ddarparu cymorth i'r cartref.

Mae adnoddau sylweddol wedi cael eu darparu gan y Cyngor i gefnogi’r preswylwyr a’r staff, gan gynnwys darparu 12 gwely proffilio, sgrybs, biniau â phedal ar gyfer pob ystafell wely, trolïau ar gyfer PPE, darpariaeth gwastraff ychwanegol a llety ar gyfer staff. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi galluogi’r Cartref i fanteisio ar wasanaethau nyrsys ardal a chwnsela rhithiol ar gyfer staff, a hynny’n ychwanegol at y Gwasanaethau Cynradd a Chymunedol.

Mae MHA yn cyfeirio staff ychwanegol i gefnogi’r tîm cyfredol gyda’r bwriad o ddarparu mwy o staff i fod ar ddyletswydd na’r hyn sy’n arferol.

Mae’r Cyngor wedi cysylltu â theuluoedd y preswylwyr ac mae gan MHA rif ffôn penodedig 24 awr y dydd iddynt siarad ag un o’u caplaniaid. Mae’r preswylwyr yn parhau i gael eu cefnogi i gadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’u teuluoedd trwy gyfrwng galwadau ffôn a fideo-gynadledda.

Yn ychwanegol at hyn, mae trefniadau wedi cael eu gwneud i alluogi aelodau o’r teulu, ffrindiau ac ewyllyswyr da i fynd ag unrhyw roddion neu gyfraniadau i Ganolfan Gymunedol Waunfawr, Brynceinion, Waunfawr, Aberystwyth SY23 3PN ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 10am a 12pm.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor am y coronafeirws ar gael ar ein gwefan

Diolch am gadw hyd braich i leddfu’r baich. Gyda’n gilydd, gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

13/11/2020