Mae’r sefyllfa bresennol o ran y Coronafeirws yn datblygu’n ddyddiol.
Mae’r canlynol wedi cau:
- Amgueddfa Ceredigion.
- Theatr Felinfach.
- Archifdy Ceredigion.
- Cered, Menter iaith.
- Canolfannau Croeso.
- Canolfannau Hamdden.
Bydd y canlynol yn cau ddiwedd y dydd yfory, 20 Mawrth.
- Swyddfeydd y cyngor i’r cyhoedd.
- Swyddfeydd Arian Parod. Gellir gwneud taliadau, megis Treth y Cyngor, drwy ffonio 01545 570881 neu ar-lein ceredigion.gov.uk
- Ni fydd unrhyw ffioedd ar gyfer llyfrau sy’n cael eu dychwelyd i lyfrgelloedd Ceredigion yn hwyr am dri mis.
Bydd Marchnad Ffermwyr Aberystwyth ar agor ddydd Sadwrn yr wythnos hon am y tro olaf hyd nes yr hysbysir fel arall.
Mae gwaith yn dod yn ei flaen ar weithredu'r rhyddhad mewn ardrethi busnes yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.
Mae meysydd gwasanaeth yn dechrau meddwl am ffyrdd creadigol o ddefnyddio’r we i gynnig ystod o wasanaethau o bell ac yn electronig.
Mae cynlluniau ar waith ar gyfer yr wythnos nesaf.
- Mae staff wedi derbyn cyngor i aros gartref a pharhau i weithio lle bo hynny’n bosib. Dim ond staff sgerbwd allweddol fydd i mewn yn y gwaith.
- Bydd pump canolfan benodol yn agor ddydd Llun 23 Mawrth i gynnig darpariaeth gofal plant i weithwyr allweddol o Gartrefi Gofal, Gofal Cartref, Yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Gwasanaethau Cymdeithasol neu Wasanaethau Gofal, a staff y GIG.
- Bydd dosbarthiadau ar gyfer y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) yn cael eu darlledu’n fwy drwy’r wefan o ddechrau’r wythnos nesaf.
Mae rhestr o adnoddau ar gyfer y sir, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â phwy sydd ar gael i gyflenwi bwyd a chasglu moddion ar gael yma: http://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/coronafeirws-covid-19/rhestr-o-adnoddau-yng-ngheredigion/
Mae’r wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://phw.nhs.wales/coronavirus.
Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yng Ngheredigion ar gael ar wefan y Cyngor: www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws ac mae’n rhannu gwybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ei dudalennau cyfryngau cymdeithasol. Medrir cysylltu a’r Cyngor drwy’r wefan www.ceredigion.gov.uk, ar e-bost clic@ceredigion.gov.uk neu drwy ffôn 01545 570881.
19/03/2020