Yn dilyn cadarnhau nifer o achosion positif o’r coronafeirws mewn Cartref Gofal yn Aberystwyth, atgoffir y cyhoedd i beidio ag ymweld â’r safle.

Mae staff a phreswylwyr Cartref Gofal MHA Hafan y Waun yn ddiolchgar am y caredigrwydd a ddangoswyd iddynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Fodd bynnag, gofynnir i bobl sy’n dymuno cynnig anrhegion a pharseli i beidio â mynd â nhw i'r Cartref Gofal eu hunain. Mae trefniadau’n cael eu gwneud i alluogi pobl i'w gadael yng Nghanolfan Gymunedol Waunfawr, Brynceinion, Waunfawr, Aberystwyth SY23 3PN ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 10am a 12pm, a hynny o ddydd Gwener 13 Tachwedd 2020 ymlaen.

Dylai pobl ofalu eu bod yn nodi enw’r sawl y mae’r parsel ar ei gyfer ar y pecyn. Ni dderbynnir bwyd ffres na blodau am y tro.

Mae Tîm Rheoli Achosion amlddisgyblaethol wedi cael ei sefydlu i ymateb i’r digwyddiad yn y Cartref Gofal ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio’n agos â’r Cartref, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i atal lledaeniad y feirws.

Mae rhagor o wybodaeth a chyngor am y coronafeirws ar gael ar ein gwefan: www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws.

Diolch am gadw hyd braich i leddfu’r baich. Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

12/11/2020