Beth yw Cymorth Tai?

Os ydych yn ddigartref neu â risg uchel o ddod yn ddigartref, mae Cymorth Tai yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi trigolion Ceredigion , er mwyn cynnal eich tenantiaeth a byw’n annibynnol yn y gymuned. Mae Cymorth Tai wedi’i llunio i’ch cynorthwyo i ddelio ag argyfwng a datblygu eich sgiliau a’ch hyder i gymryd rheolaeth o’ch bywyd a gwneud eich penderfyniadau eich hun

“Cymorth Tai” yw cynllun Ceredigion  wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gomisiynu gan Gyngor Sir Ceredigion, gan ddarparu rhwydwaith o gefnogaeth ledled y sir wrth sefydliadau amrywiol sydd â phrofiad yn cefnogi pobol mewn modd cadarnhaol a’r anghenion gwahanol sydd ganddynt.

Pwy sy’n gallu derbyn Cymorth Tai?

Mae Cymorth Tai ar gael i drigolion Ceredigion sy’n 16 oed a throsodd, sy’n byw mewn unrhyw fath o lety, yn arbennig pobol sy’n ddigartref o dan unrhyw amgylchiadau  neu mewn perygl o ddod yn ddigartref.

Rydym yn cefnogi unigolion, teuluoedd a gofalwyr sy’n ymrwymo i gyd-weithio â ni.

Gall Cymorth Tai eich helpu gydag amrywiaeth o anghenion a phroblemau. Efallai y bydd angen cymorth arnoch oherwydd;

  • Eich bod yn symud i lety newydd neu lety heb gefnogaeth.
  • Eich bod yn cael anawsterau gyda’ch llety presennol ac efallai mewn perygl o golli’ch cartref.
  • Eich bod yn gadael yr ysbyty, y carchar neu gofal ac angen cefnogaeth i fyw’n annibynnol.
  • Eich bod yn ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro.
  • Eich bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl.
  • Bod gennych broblemau gyda chyffuriau neu alcohol.
  • Eich bod yn ffoi rhag trais a cham-drin domestig.

Pa gefnogaeth y gallaf i ei gael i’m helpu?

Gallwn eich helpu i ddelio â sawl agwedd ar denantiaeth fel:

  • Sefydlu a setlo i mewn i'ch cartref newydd.
  • Rhoi gwybod am atgyweiriadau, datrys problemau rhent a thenantiaeth eraill
  • Rheoli eich arian, biliau, dyledion a chyllideb.
  • Llenwi ffurflenni ac ysgrifennu llythyrau.
  • Mynediad budd-daliadau lles
  • Trefnu apwyntiadau a chyfarfodydd.
  • Cael mynediad at wasanaethau eraill a allai fod o gymorth.
  • Datblygu sgiliau bywyd fel bwyta'n iach, coginio, glanhau a siopa.
  • Hyfforddiant, addysg a chyflogaeth
  • Mynediad i weithgareddau hamdden, clybiau a rhwydweithiau
  • Gwneud cyfraniad cadarnhaol i'ch cymuned leol.
  • Cadwch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.

Sylwch nad yw Cymorth Tai yn gallu darparu gofal personol  na gwasanaethau domestig, ac nid yw'n cynnig gwasanaeth cludiant na siopa chwaith.

 

Mae rhestr o’r anghenion cymorth cymwys sy'n gysylltiedig â thai i’w gweld isod:

Anghenion Cymorth Cymwys

Sut ydw i'n gwneud cais am Gymorth Tai?

 Gallwch chi neu rywun ar eich rhan wneud cais am gymorth mewn sawl ffordd;

  • Gallwch lenwi'r ffurflen gais cymorth tai ac anfon e-bost at Cymorthtai@ceredigion.gov.uk

neu

  • Ffoniwch ein canolfan gyswllt (Clic) a fydd yn cynorthwyo gyda'ch ymholiad.

 

Os ydych yn dymuno gwneud cais am Dai Cymdeithasol, gallwch wneud hyn drwy ein porth ar y we yma.

 

Beth sy'n digwydd ar ôl cael eich cyfeirio

 Bydd rhywun o'r tîm Porth Cymorth Tai, neu un o'n hasiantaethau partner yn cysylltu â chi i archwilio'ch sefyllfa ymhellach.

Mae’r holl wasanaethau cymorth yn cael eu darparu gan ystod o sefydliadau sy'n cynnig cymorth i gwrdd ag anghenion gwahanol grwpiau o bobl a gallwch weld eu manylion isod:

Sefydliadau Cymorth

Pa gymorth nad ydyw’n cael ei roi?

Nid yw’r rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu gwasanaeth yn y cartref na gofal personol, ac nid yw ychwaith yn darparu trafnidiaeth na gwasanaeth siopa.

Ni fwriedir cymorth fel gwasanaeth cymorth cyffredinol , y bwriad yw cynorthwyo pobl i ddatblygu sgiliau i wneud tasgau yn y cartref yn annibynnol neu i gael mynediad at wasanaethau eraill.

Pryd neu pam y byddai’r cymorth yn dod i ben?

Bydd y cymorth yn dod i ben:

  • Os byddwch chi neu unrhyw un yn y tŷ adeg yr ymweliad yn troi'n ymosodol tuag at y staff cymorth neu eraill
  • Os byddwch chi neu unrhyw un yn y tŷ adeg yr ymweliad dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau a'u bod yn methu â chwblhau amcanion yr ymweliad
  • Os bernir bod perygl i ddiogelwch y staff cymorth
  • Os byddwch yn gwneud pethau'n anodd iddynt fel nad ydynt yn gallu cyflawni eu rôl, drwy gynnwys pobl eraill neu drwy ymddwyn yn amhriodol
  • Os na fyddwch yn barod i fod yn rhan o’r cymorth a roddir
  • Os bydd yr holl anghenion cymorth sy’n gysylltiedig â thai ar eich cynllun cymorth wedi cael eu bodloni

Beth ddylwn ei wneud os nad wyf yn fodlon â’r gwasanaeth?

Os nad ydych yn hapus â'r modd y mae pethau yn mynd, mae'r opsiynau canlynol ar gael:

Efallai y byddwch am siarad yn y lle cyntaf â'r gweithiwr cymorth a allai datrys pethau yn gyflym

  • Os bydd y broblem yn ymwneud â gweithiwr cymorth neu os bydd yn well gennych beidio â siarad am hynny, gallwch siarad â Rheolwr y darparwr cymorth a fydd yn ystyried eich pryderon ac yn cymryd camau angenrheidiol i ddatrys pethau
  • Os byddai’n well gennych, gallwch siarad ag unrhyw aelod o'r tîm Cefnogi Pobl
  • Os yw'r broblem yn ymwneud â'r tîm Cefnogi Pobl neu os byddai'n well gennych beidio â siarad â hwy, efallai y gallech gysylltu â Swyddog Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol

Faint mae'r gwasanaeth yn ei gostio?

Ystyrir bod rhan fwyaf y cymorth a ddarperir drwy'r rhaglen Cefnogi Pobl yn gymorth dros dro ac felly ni chodir tâl ar ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Mae tâl yn dal i fod ynghlwm wrth y gwasanaethau hirdymor eraill megis pob llety gwarchod, larymau cymunedol yr awdurdod lleol a chartrefi grwpiau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae cost y cymorth yn dibynnu ar y math o wasanaethau a maint y cymorth. Mae’r gallu i dalu cost taliadau cymorth ar gyfer y cynlluniau hyn yn destun prawf modd, felly mae’n bosib y bydd y Grant Rhaglen Cefnogi Pobl yn ariannu hyn.