Gofal o fewn y Cartref
Ydych chi'n oedolyn neu'n blentyn a fu’n sâl neu sydd wedi cael damwain a bellach yn ei chael hi’n anodd edrych ar ôl eich hun, yn methu ymdopi â thasgau o ddydd i ddydd fel gofal personol, paratoi prydau bwyd neu symud o gwmpas? Os hoffech barhau i fod yn annibynnol yn eich cartref eich hun cyn hired â phosibl, mae cefnogaeth ar gael i chi.
Y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig
Mae Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig Ceredigion (GCCI), sydd wedi ei ariannu ar y cyd gan Gyngor Sir Ceredigion a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn darparu offer i’ch cynorthwyo i gynnal eich gweithgareddau bywyd o ddydd i ddydd a’ch annibyniaeth yn y cartref. Mae cefnogaeth hefyd yn cael ei chynnig i atal yr angen i fynd i’r ysbyty neu gartref gofal, ac i gyflymu’r broses rhyddhau o’r ysbyty. Darperir yr holl offer yn rhad ac am ddim cyhyd ag y bo’u hangen.
Gellir argymell yr offer canlynol:
- Seddi toiled a chomodau
- Offer i godi uchder dodrefn
- Fframiau cerdded
- Teclyn codi
- Gwelyau proffilio
- Matresi gofal pwysau
Oedolion a phlant sydd ag anghenion wedi’u hasesu. Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn y cyfarpar cywir, bydd gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol yn galw i asesu eich anghenion. Os ydych wedi bod yn yr ysbyty, cewch eich asesu cyn cael eich rhyddhau. Os ydych gartref, bydd un o’r gweithwyr proffesiynol canlynol yn eich asesu:
- Nyrs Ardal/Gymunedol sy’n gysylltiedig â’ch meddygfa
- Therapydd Galwedigaethol
- Ffisiotherapydd
- Gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol arall sydd wedi’i asesu fel ‘Asesydd Dibynadwy’ ac sy’n rhan o’ch gofal
Atgyweirio
Ar gyfer achosion brys y tu allan i oriau swyddfa lle mae gwelyau, teclyn codi neu offer trydanol eraill a ddarperir gan y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig wedi torri, cysylltwch â: Cantre Mobility ar 01545 571 390.Sylwer, nid y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig sydd yn gosod nag yn gyfrifol am lifftiau grisiau a chodwyr trac nenfwd.
Angen dychwelyd offer?
Lle bo’n bosibl, anogir dychwelyd offer bach yn uniongyrchol i’r siop. Ar gyfer offer mwy o faint, neu os na allwch ddychwelyd yr offer eich hun, ffoniwch y swyddfa a gellir trefnu eu casglu o’ch eiddo.
Noder y dylid dychwelyd cadeiriau olwyn i’r Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar - 03000 850055.
Cysylltwch â ni
Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 01545 570881, drwy e-bost ar clic@ceredigion.gov.uk neu drwy’r post drwy ysgrifennu at Uned 1, Parc Menter Dyffryn Aeron, Felinfach, SA48 8AG.
Os bernir mai’r Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig yw’r gwasanaeth mwyaf priodol i ddiwallu eich anghenion, yna bydd rhywun o’r Gwasanaeth yn cysylltu â chi.