Mewn rhannau o ganol trefi Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan ac Aberteifi mae cyfyngiadau ar yfed yn gyhoeddus. Fe welwch chi arwyddion yn yr ardaloedd hynny ymhob tref sy’n destun Gorchymyn Gwarchod Gwagleoedd Cyhoeddus.

Poster: Yfed Alcohol mewn Mannau Cyhoeddus

Beth yw Gorchymyn Gwarchod Gwagleoedd Cyhoeddus?

Mae Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 yn cymryd lle’r hen Orchmynion Mannau Cyhoeddus Dynodedig trwy’r Gorchmynion Gwarchod Gwagleoedd Cyhoeddus newydd, sy’n galluogi Awdurdodau Lleol i ddynodi mannau cyhoeddus lle bydd cyfyngiadau ar yfed diod feddwol. Mae pobl hefyd yn galw’r ardaloedd dan sylw’n ‘barthau di-alcohol’ a’r gorchmynion yn ‘orchmynion yfed ar y stryd’.

Mae’r pwerau hyn yn helpu’r Heddlu i fynd i’r afael â niwsans, aflonyddwch ac anhrefn sy’n gysylltiedig ag yfed diod feddwol yn yr ardaloedd dan sylw. Y nod yw lleihau troseddau sy’n ymwneud ag alcohol, a chadw Ceredigion yn le diogel a braf i fyw, gweithio ac ymweld ag ef.

Daeth y Gorchmynion i rym ar 20 Hydref 2017 am gyfnod o dair blynedd i ddechrau. Yn dilyn penderfyniad gan y Cyngor i adnewyddu'r Gorchmynion yn y lle cyntaf yn 2020, ac eto yn 2023, bydd y PSPOs cyfredol yn parhau i fod ar waith tan 19 Hydref 2026. Bydd y Gorchmynion yn parhau i gael eu hadolygu'n rheolaidd drwy ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a dadansoddi data perthnasol yr heddlu.

Ble sy’n cyfrif fel man cyhoeddus?

Unrhyw le y mae’r cyhoedd yn medru mynd iddo, gan gynnwys strydoedd, ffyrdd, palmentydd, lleiniau glaswellt, mannau i gerddwyr, seddi, mannau amwynder, parciau a meysydd parcio.

Ni fydd rhai mannau penodol byth yn dod yn fannau cyhoeddus gwarchodedig. Lleoedd yw’r rhain sydd wedi’u hawdurdodi drwy drwydded, gan gynnwys tafarndai a chlybiau nos. Caiff safleoedd sy’n destun Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro eu heithrio hefyd.

Pa bwerau sydd gan yr Heddlu mewn ardal sy’n destun Gorchymyn Gwarchod Gwagleoedd Cyhoeddus?

Er bod PSPO yn targedu yfed alcohol mewn ardaloedd dynodedig, nid yw'n drosedd yfed alcohol yn yr ardaloedd hynny. Pŵer disgresiwn yw gorfodi'r Gorchymynion i fynd i'r afael ag yfed gwrthgymdeithasol. Fodd bynnag, mae'n drosedd methu â chydymffurfio â chais gan yr heddlu i roi'r gorau i yfed neu ildio alcohol, heb esgus rhesymol. Bydd methu â chydymffurfio â cheisiadau o'r fath yn gyfystyr â thorri'r Gorchymynion a gall unigolion gael eu harestio a gall arwain at ddirwy o hyd at £500.