Pan fydd rhywun wedi marw, bydd angen i chi roi gwybod i lawer o adrannau'r llywodraeth a sefydliadau am y farwolaeth.

Yng Ngheredigion, mae'r gwasanaeth gwirfoddol Dywedwch Wrthym Unwaith yn gwneud y broses hon yn haws. Dim ond unwaith y bydd angen i chi roi'r manylion i'r Adran Gwaith a Phensiynau, a byddant yn hysbysu'r holl sefydliadau sy'n cymryd rhan y mae angen iddynt wybod am y farwolaeth.

Sut mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn gweithio?

Pan fyddwch chi'n cofrestru marwolaeth, bydd y cofrestrydd yn ychwanegu manylion yr ymadawedig at gronfa ddata genedlaethol Dywedwch Wrthym Unwaith. Yna bydd y cofrestrydd yn rhoi llythyr i chi sy'n cynnwys cyfeirnod unigryw Dywedwch Wrthym Unwaith a chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r gwasanaeth.

Ewch i wefan Llywodraeth y DU – Dywedwch Wrthym Unwaith i ddarganfod pa wybodaeth neu ddogfennau y bydd angen i chi fod â nhw pan fyddwch chi'n cwblhau ail ran y gwasanaeth. Mae'r rhain yn cynnwys, er enghraifft, pasbort yr ymadawedig, trwydded yrru, rhif yswiriant gwladol, a manylion unrhyw fudd-daliadau neu hawliau yr oeddent yn eu cael.

Sut i gael gafael ar y gwasanaeth?

Ar ôl i'r farwolaeth gael ei chofrestru, gallwch gwblhau ail ran y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith naill ai:

Gallwch chi roi'r manylion i'r Adran Gwaith a Phensiynau ar-lein.

Rhaid i chi ddefnyddio cyfeirnod unigryw Dywedwch Wrthym Unwaith i fewngofnodi:

Dywedwch Wrthym Unwaith Ar-lein

Neu

Gallwch chi roi'r manylion i'r Adran Gwaith a Phensiynau trwy eu ffonio. Bydd y Cofrestrydd yn darparu’r rhif ffôn wedi i chi gofrestru’r farwolaeth.

Neu

Os ydych chi'n mynychu ein swyddfa i gofrestru marwolaeth, efallai caiff y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith ei gynnig i chi yn ystod yr apwyntiad cofrestru.

Pwy mae Dywedwch Wrthym Unwaith yn eu hysbysu am y farwolaeth?

Gellir hysbysu llawer o wasanaethau ac mae'r rhain yn cynnwys:

  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) – i ddelio â threthi a chanslo budd-daliadau
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau – i ganslo budd-daliadau a hawliau fel Pensiwn y Wladwriaeth
  • Swyddfa Basbort – i ganslo pasbort Prydeinig
  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau – i ganslo trwydded yrru
  • Y cyngor lleol – i ganslo Budd-dal Tai, Budd-dal y Dreth Gyngor, Bathodyn Glas a thynnu’r unigolyn oddi ar y Gofrestr Etholiadol

Bydd Dywedwch Wrthym Unwaith yn hysbysu'r adrannau a'r sefydliadau perthnasol sy’n cymryd rhan a fydd yn cysylltu â chi'n uniongyrchol os oes angen mwy o wybodaeth arnynt.