Digwyddiad Elusennol Tîm Ceredigion 2026

Bob dydd, mae gweithlu Cyngor Sir Ceredigion (Tîm Ceredigion) yn gweithio ledled ein cymunedau, gan ddarparu gwasanaethau a chymorth sy'n helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol. Nawr, maent yn mynd â'r ymrwymiad hwnnw gam ymhellach drwy lansio digwyddiad elusennol blynyddol newydd a fydd yn dod â chydweithwyr, teuluoedd a ffrindiau ynghyd i godi arian hanfodol a chefnogi achosion sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Her 20 milltir
Eleni, bydd cydweithwyr o bob rhan o wasanaethau'r Cyngor yn dod ynghyd ar ddydd Sadwrn, 26 Medi, i ymgymryd â thaith gerdded elusennol 20 milltir gan ymlwybro o Ganolfan Rheidol yn Aberystwyth, pencadlys gweithredol y Cyngor, i Benmorfa yn Aberaeron, ei bencadlys democrataidd.
Bydd y llwybr yn tywys y cerddwyr drwy rai o gymunedau arfordirol harddaf Ceredigion, gan gynnwys Rhydyfelin, Llanddeiniol a Llanrhystud, cyn ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer y rhan olaf o'r daith tuag at Aberaeron.
Cefnogi dau achos pwysig
Cynhelir y digwyddiad yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Lymffoma a bydd yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer dwy elusen sy'n cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan ganser: Lymphoma Action a Young Lives vs Cancer.
Lymffoma yw'r canser gwaed mwyaf cyffredin yn y DU, ac eto mae ymwybyddiaeth o'r cyflwr yn gymharol isel o hyd. Mae digwyddiadau fel hwn yn gyfle i daflu goleuni ar lymffoma, gan godi arian hanfodol i sefydliadau sy'n cefnogi pobl sy'n byw gyda chanser a'u teuluoedd.
Mae Lymphoma Action yn darparu gwybodaeth ddibynadwy, cymorth a chyngor i bobl sy'n byw gyda lymffoma, tra bod Young Lives vs Cancer yn cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd drwy'r heriau y gall canser eu cyflwyno.
Dangos eich cefnogaeth
P'un a ydych yn dewis ymgymryd â'r her, yn mynd i annog y cerddwyr ar hyd y ffordd, neu'n rhoi rhodd ariannol, bydd pob cyfraniad yn helpu i gefnogi pobl a theuluoedd sy'n wynebu rhai o heriau anoddaf bywyd.
Os hoffech ddangos eich cefnogaeth, gallwch wneud rhodd i'r elusennau drwy dudalennau JustGiving Tîm Ceredigion isod.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth.
Lymphoma Action
Mae Tîm Ceredigion yn codi arian ar gyfer Lymphoma Action.
Tudalen JustGiving 'Lymphoma Action' Ceredigion
Young Lives vs Cancer
Mae Tîm Ceredigion yn codi arian ar gyfer Young Lives vs Cancer.
Tudalen JustGiving 'Young Lives vs Cancer' Ceredigion