Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Pryd mae angen gwneud cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu

Rhaid i chi wneud cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu os ydych yn bwriadu gwneud unrhyw un o’r canlynol – nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr:

Adeilad newydd

  • Codi adeilad newydd, fel cartref newydd neu adeilad annomestig

Estyniadau

  • Estyn adeilad presennol boed yn ddomestig neu’n annomestig, oni bai mai portsh neu tŷ haul yw’r estyniad, (mae amodau’n berthnasol)
  • Adeiladu tŷ haul mawr
    Mae angen cymeradwyaeth os:
    Mae arwynebedd y llawr yn fwy na 30m², neu nad yw’r cynfastror yn bodloni’r holl amodau eithrio canlynol:
    • Mae o leiaf 75% o’r to a 50% o’r waliau wedi’u gwneud o ddeunydd tryloyw
    • Mae’n cael ei wahanu’n thermol oddi wrth y prif annedd gan ddrysau, waliau, a ffenestri gyda gwerthoedd U cyfwerth ag atal drafftiau
    • Nid yw system wresogi’r tŷ wedi’i hymestyn i’r tŷ haul
  • Trawsnewid llofft a newidiadau i ofod y to i greu ystafell newydd yn y gofod to

Newidiadau mewnol/allanol

  • Newid adeilad presennol trwy gael gwared ar neu addasu elfennau strwythurol, fel waliau sy'n dwyn llwyth, simneiau, waliau strwythurol neu waliau amddiffyn rhag tân (e.e. i ffurfio agoriadau newydd), newid y cynllun mewnol trwy dynnu waliau i lawr
  • Tanseilio’r adeilad yn gyfan neu’n rhannol
  • Newidiadau i systemau draenio, systemau gwresogi a systemau dŵr poeth
  • Gwaith ar Elfennau Thermol
    Yn cynnwys gwaith fel:
    • Ail-doi
    • Ailrendro neu gosod cladin allanol trwy ychwanegu haen or newydd neu haen amnewid
    • Amnewid llawr gwaelod
    • Ail-blastro'n fewnol trwy ychwanegu haen or newydd neu haen amnewid

Newid defnydd deunydd adeilad

  • Lle mae newid yn y dibenion y defnyddir adeilad ar eu cyfer neu'r amgylchiadau y mae'n cael ei wneud, fel ar ôl y newid hwnnw:
    • mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel annedd, (mae "annedd" yn cynnwys tŷ annedd a fflat)
    • mae'r adeilad yn cynnwys fflat
    • nad yw'r adeilad yn adeilad eithriedig mwyach
    • mae'r adeilad, sy'n cynnwys o leiaf un annedd, yn cynnwys nifer fwy neu lai o anheddau mae'r adeilad yn cael ei ddefnyddio fel siop
    • (Mae eraill yn berthnasol)

Mynediad i bobl anabl a chyfleusterau - mae yna eithriadau

  • Gwaith i wella mynediad i bobl anabl neu osod cyfleusterau addas

Cynlluniau hunan-ardystio ac eithriadau o'r gofyniad i gyflwyno cais

  • Gellir cynnal rhai mathau o waith gan unigolion o dan gynlluniau hunan-ardystio.
    Sefydlwyd cynlluniau hunan-ardystio gan y Llywodraeth i ganiatáu i grefftwyr a chwmnïau cymeradwy ardystio eu gwaith eu hunain fel bod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu. Mae hyn yn golygu nad oes angen gwneud cais ar wahân i Reoli Adeiladu na thalu ffi ychwanegol
  • Mae llawer o gynlluniau hunan-ardystio ar gael, yn cwmpasu ystod eang o waith – o ddisodli ffenestri, gosod boeleri, i waith trydanol. Ceir rhestr lawn o’r cynlluniau cymeradwy ar wefan y Llywodraeth
  • Pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau, mae gan y gosodwr cofrestredig 30 diwrnod i hysbysu darparwr y cynllun, a fydd wedyn yn trosglwyddo’r wybodaeth i dîm Rheoli Adeiladu’r awdurdod lleol. Bydd y perchennog hefyd yn derbyn tystysgrif i’w chadw, a bydd y gwaith yn cael ei gofnodi’n swyddogol gan yr awdurdod lleol

Gwaith adeiladu heb awdurdod

  • Weithiau, mae gwaith adeiladu wedi’i wneud heb gais Rheoliadau Adeiladu. Pan fo hyn wedi digwydd, gallwn o bosib gyhoeddi Tystysgrif Rheoleiddio i gyfreithloni’r gwaith heb awdurdod