Gwneud cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu
Mae rhan fwyaf o brosiectau adeiladu, boed yn adeiladau newydd, estyniadau, neu addasiadau i adeilad presennol, yn gofyn am gydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Adeiladu. Mae rhai adeiladau a mathau o waith yn eithriedig rhag y Rheoliadau Adeiladu – fel arfer mae hyn yn cynnwys phortsh bach, tŷ haul a adeiladau ar wahân – mae yna amodau'n berthnasol.
Mathau o geisiadau Rheoliadau Adeiladu
Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith adeiladu, dyma’r dull mwyaf trylwyr i sicrhau bod popeth yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu.
Yn gyntaf, byddwn yn gwirio’ch cynlluniau manwl cyn i unrhyw waith ddechrau. Ar ôl i’r gwaith ddechrau, byddwn yn cynnal archwiliadau safle mewn camau allweddol i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn ddiogel ac yn gywir.
Bydd angen i chi gyflwyno cynlluniau manwl a gwybodaeth adeiladu. Bydd ein Arolygwyr Adeiladau Cofrestredig yn adolygu’ch cynlluniau’n fanwl. Os bydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol, byddwn yn cysylltu â chi neu’ch asiant penodedig.
Ar ôl adolygu’ch cynlluniau, byddwn yn rhoi penderfyniad – naill ai cymeradwyaeth, cymeradwyaeth amodol (mae rhai amodau'n berthnasol), neu wrthod. Fel arfer, bydd hyn yn digwydd o fewn pum wythnos, neu hyd at ddau fis os ydych yn cytuno. Rydym yn anelu at ymateb yn gynt os oes gennym bopeth sydd ei angen.
Wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen, byddwn yn archwilio’r gwaith ar y safle i sicrhau ei fod yn bodloni’r safonau gofynnol.
Ffioedd
Mae’r gost wedi’i rhannu’n ddwy ran:
- Tâl cynllun – i’w dalu pan fyddwch yn cyflwyno eich cais
- Tâl arolygu – yn cael ei anfonebu ar ôl ein hymweliad cyntaf â’r safle
Unwaith y bydd y gwaith wedi'i gwblhau'n foddhaol, byddwn yn cyhoeddi tystysgrif cwblhau, sy'n cadarnhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, fod y gwaith yn cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Adeiladu. Mae hon yn ddogfen bwysig pan yn gwerthu eich eiddo.
Os ydych yn bwriadu gwneud gwaith adeiladu syml ar eich cartref, mae Hysbysiad Adeiladu yn opsiwn cyflymach.
Gallwch ddechrau’r gwaith o fewn diwrnodau ar ôl cyflwyno’ch hysbysiad. Yn wahanol i gais Gynlluniau Llawn, ni fyddwn yn gwirio’ch cynlluniau ymlaen llaw gan nad oes angen unrhyw rai – ond byddwn yn arolygu’r gwaith wrth iddo fynd yn ei flaen i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu.
Cyn belled â bod popeth yn cydymffurfio, byddwn yn cyhoeddi tystysgrif cwblhau ar ddiwedd y prosiect.
Sylwer: Ni ellir defnyddio Hysbysiad Adeiladu ar gyfer prosiectau masnachol nac os yw’r gwaith yn agos at neu’n croesi dros garthffos gyhoeddus – yn yr achosion hynny, bydd angen i chi wneud cais trwy’r llwybr Gynlluniau Llawn gan fod angen cynnal ymgynghoriadau amrywiol.
Ffioedd
Bydd angen i chi dalu ffi Hysbysiad Adeiladu wrth gyflwyno’ch cais.
Os yw gwaith adeiladu eisoes wedi’i wneud ar eich cartref heb gymeradwyaeth gan Reoliadau Adeiladu, efallai y bydd modd dal i’w gymeradwyo drwy broses o’r enw Rheoleiddio.
Mae hyn yn ein galluogi i asesu’r gwaith ar ôl iddo gael ei wneud. Byddwn yn arolygu’r hyn sydd ar waith ac yn eich hysbysu os oes angen gwneud unrhyw newidiadau neu welliannau. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen dadorchuddio rhannau o’r gwaith fel y gallwn wirio sut y cwblhawyd. Gall fod oblygiadau iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â’r gwaith a wnaed hefyd.
Dim ond gwaith a gwblhawyd ar neu ar ôl 11 Tachwedd 1985 y gallwn ei gymeradwyo drwy’r broses hon.
Os yw’r gwaith yn cydymffurfio â’r Rheoliadau Adeiladu (neu’n cael ei addasu i gydymffurfio), byddwn yn cyhoeddi Tystysgrif Rheoleiddio, sydd yn gallu bod yn ddefnyddiol os ydych yn gwerthu neu’n ail-forgeisio’ch cartref.
Ffioedd
Rhaid talu ffi cais Rheoleiddio wrth wneud cais, ac mae’r ffi’n gyfwerth â’r ffi safonol ar gyfer Hysbysiad Adeiladu ynghyd ag ychwanegiad o 50%. Nid oes TAW yn berthnasol.
Ffurflen Gais Rheoliadau Adeiladu
Sut i dalu ar-lein
Sylwer: Nid yw cais yn cael ei ystyried wedi’i gyflwyno’n ffurfiol nes bod y ffurflen gais wedi’i chyflwyno a bod y taliad wedi’i gwblhau.
Cyflwynwch eich cais drwy e-bostio at buildingcontrol@ceredigion.gov.uk a thrwy drefnu taliad wrth gyflwyno eich cais o'r dudalen Taliadau Ar-lein a dilyn y camau hyn:
- Cliciwch ar Taliadau Ar-lein
- Cliciwch ar Arall
- Cliciwch ar Rheoli Adeiladu
- Dewiswch yr opsiwn sy’n berthnasol i chi
- Llenwch y manylion
Porth Cynllunio – dull arall o gyflwyno eich cais Rheoli Adeiladu
Gallwch gyflwyno eich cais Rheoli Adeiladu i'w gymeradwyo gan ddefnyddio gwasanaethau ar-lein y Porth Cynllunio.
Noder: Mae cost yn gysylltiedig â defnyddio'r Porth Cynllunio, yn ogystal ag unrhyw ffioedd a godir gan yr awdurdod Rheoli Adeiladu.
Y Porth Cynllunio yw'r gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer ceisiadau cynllunio a rheoli adeiladu. Mae'n symleiddio mynediad at wybodaeth a gwasanaethau. Mae'r platfform yn cynnig ffordd symlach a chyfleus o gyflwyno a rheoli eich cais yn ddigidol.
Mae llawer o fanteision i gyflwyno ceisiadau rheoli adeiladu drwy'r Porth Cynllunio:
- Gallwch weithio ar eich ceisiadau mewn drafft cyn eu cyflwyno
- Cyflwyno a chydnabod ceisiadau ar unwaith
- Swyddogaethau cymorth ar-lein ar gyfer cwblhau ceisiadau
- Cofnod ar-lein o geisiadau wedi'u cwblhau
- Mewngofnodi sengl ar gyfer cynllunio a rheoli adeiladu
- Y gallu i dynnu gwybodaeth allweddol o geisiadau cynllunio
- Ceisiadau sy'n cydymffurfio'n llawn, bob amser yn gyfredol â'r ddeddfwriaeth ddiweddaraf
- Taliad ar-lein syml
I greu cais Rheoli Adeiladu, bydd angen i chi fewngofnodi i wefan y Porth Cynllunio yn gyntaf, neu greu cyfrif trwy ymweld â thudalen Building Control Portal Planning Portal.