Deddfwriaeth Rheoli Adeiladu a Dogfennau Cymeradwy (Cymru)
Rheoliadau Adeiladu 2010 (Cymru)
Mae Rheoliadau Adeiladu 2010 (Offeryn Statudol) yn nodi’r safonau lleiaf ar gyfer dylunio, adeiladu ac addasu adeiladau yng Nghymru. Fe'u gwneir o dan Ddeddf yr Adeiladau 1984 ac maent yn rhan allweddol o'r fframwaith cyfreithiol sy’n sicrhau iechyd, diogelwch, effeithlonrwydd ynni a hygyrchedd mewn adeiladau. Yng Nghymru, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw’r rheoliadau adeiladu.
Pwyntiau Allweddol am Reoliadau Adeiladu 2010 – Strwythur a Chynnwys
Caiff y rheoliadau eu rhannu’n:
- Y prif reoliadau (y ddogfen gyfreithiol graidd)
- Atodlen 1: y gofynion swyddogaethol y mae'n rhaid i adeiladau eu bodloni, a
- Atodlenni 2–6: eithriadau, cynlluniau hunan-ardystio, disgrifiadau o waith lle nad oes angen Hysbysiad Adeiladu nac unrhyw gais am gymeradwyaeth gyda Chynlluniau Llawn, ynghyd â ffynonellau eraill o wybodaeth ddefnyddiol.
Ble i Gael Mynediad at y Rheoliadau Adeiladu 2010
Gallwch gael mynediad at y ddeddfwriaeth drwy ymweld a wefan Legislation.
Sicrhewch eich bod, wrth edrych o dan y tab ‘content’, yn ticio ‘show geographical extent’ er mwyn amlygu’r rhannau perthnasol i Gymru a Lloegr!
Canllawiau Dogfennau Cymeradwy (Cymru)
Mae Dogfennau Cymeradwy (rhestrir isod) yn gyfres o gyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu canllawiau ar sut i fodloni gofynion swyddogaethol Atodlen 1 o’r Rheoliadau Adeiladu.
Mae pob dogfen yn cynnig enghreifftiau ac atebion ar gyfer senarios adeiladu cyffredin er mwyn helpu dylunwyr, adeiladwyr a pherchnogion tai i gyflawni cydymffurfiaeth. Maent yn helpu i sicrhau bod gwaith adeiladu yn cael ei gynnal i safon dderbyniol o ran diogelwch, effeithlonrwydd ynni, hygyrchedd a pherfformiad cyffredinol.
Yn ogystal, rhoddir canllawiau cyffredinol ar y safonau perfformiad a ddisgwylir ar gyfer deunyddiau a chrefftwaith, dylunio ac adeiladu.
- Rhan A: diogelwch strwythurol
- Rhan B: diogelwch tân
- Rhan C: gwrthsefyll halogion a lleithder
- Rhan D: sylweddau gwenwynig
- Rhan E: gwrthsefyll trosglwyddiad sain
- Rhan F: awyru
- Rhan G: glanweithdra, diogelwch dŵr poeth ac effeithlonrwydd dŵr
- Rhan H: draenio a gwaredu gwastraff
- Rhan J: offer cynhyrchu gwres
- Rhan K: diogelwch rhag cwympo, gwrthdrawiad ac effaith
- Rhan L: cadwraeth tanwydd a phŵer
- Rhan M: mynediad at ac i ddefnyddio adeiladau
- Rhan N: diogelwch gwydrau
- Rhan P: diogelwch trydanol
- Rhan Q: diogelwch
- Rhan R: seilwaith corfforol ar gyfer rhwydweithiau cyfathrebu electronig cyflym
Ble i Gael Mynediad at y Dogfennau
Gallwch gael mynediad at y Dogfennau Cymeradwy ar gyfer Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru a’u lawrlwytho fel PDFs am ddim, drwy ddilyn y ddolen.