Gall peryglon godi os yw rhywun yn cael ei ddal mewn lluwch. Fodd bynnag, gall pobl ddiogelu eu hunain, eu cerbydau a'u tai rhag amrhyw beryglon y gaeaf dryw gynllunio ymlaen llaw.

Gyrru yn y Gaeaf

  • Pob gaeaf mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynllunio pa ffyrdd fydd yn cael eu graeanu pan fydd yn darogan eira a rhew. Rhoddwyd hysbysebion tudalen lawn mewn papurau newydd lleol yn dweud wrth bobl pa ffyrdd oedd y rhain. Mae'r wybodath hefyd are gael ar wefan y Cyngor Sir yn www.ceredigion.gov.uk
  • Cofiwch sicrhau beth yw rhagolygon y tywydd cyn cychwyn ar eich taith
  • Gofynnwych "A ydyw fy siwrne yn angenrhidiol?" Os nad yw, peidiwch â teition. Os ydyw, cynlluniwch eich siwrne drwy deithio are hyd y rhwydwaith a brif ffyrdd
  • Ceisiwch aros hyd nes y bydd y ffyrdd wedi eu graeanu cyn teithio
  • Holwch i weld a allwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Dylech ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer eich siwrne
  • Cofiwch roi gwybod i rywun pryd yr ydych yn disgwyl curraedd, a pha ffordd y byddwch yn dod
  • Cofiwch wneud yn siŵr bod y ffenestri'n glir cyn cychwyn
  • Cofiwch sicrhau eich bod wedi ychwanegu hylif gwrth-rewi at y dŵr yn yr injan, a bod gennych hylif golchi sgrîn gwrth-rewi. Meddyliwch am gario hylif golchi sgrîn gwrth-rewi ychwanegol yn eich cerbyd
  • Cofiwch sicrhau bod eich berbyd yn gwethio'n dda - golchwch yr holl ddarnau sy'n goleuo ar y tu allan yn aml
  • Ar dywydd oer, cofiwch yrru'n fwy gofalus nag arfer a pheidiwch byth â chymryd bod ffordd wedi'i graeanu neu fod halen wedi'i wasgaru
  • Trowch eich gorsaf radio leol ymlaen i dderbyn y newyddion teithio diweddaraf
  • Cofiwch gadw eich prif oleuadau wedi eu dipio wrth yrru glaw, eira neu niwl
  • Cofiwch gadw digon a danwydd yn eich tanc.

Os oes rhaid i chi yrru, edrychwch ar Reolau'r Ffordd Fawr i gael cyngor am yrru pan fydd eira ac iâ. Dyma grynodeb o'r cyngor:

  • Byddwch yn ofalus o gwmpas lorïau graeanu. Peidiwch â chael eich temtio i'w pasio
  • Gyrrwch yn ddigon araf; gall gymryd 10 gwaith yn fwy o amser i stopio ar rew ac eira, felly cofiwch adael digon o le o'ch blaen
  • Defnyddiwch y gêr uchaf posibl fel nad yw'r olwynion yn sbinio
  • Dylech droi'n araf deg ac osgoi brecio'n sydyn na chyflymu'n sydyn. Os dechreuwch sgidio, tynnwch eich troed yn araf oddi ar y sbardun a cheisiwch osgoi brecio
  • Os oes raid ichi frecio, pwmpiwch y brêcs, peidiwch â brecio'n galed.

Cadwch becyn argyfwng yn y car sy'n cynnwys:

  • Dillad gaeaf ac esgidiau addas, a blanced neu sach gysgu
  • Ffôn symudol, fflachlamp a batris ychwanegol
  • Rhaw a chrafwr ar gyfer y sgrîn wynt
  • Dŵr a byrbrydau
  • Cadwyn neu raff i dynnu; a
  • Gwifrau 'sboncio'.

Os byddwch yn cael eich hun yn sownd mewn storm aeaf mewn ardal anghysbell:

  • Tynnwch i un ochr oddi ar y ffordd. Trowch eich goleuadau fflachio ymlaen a hongian baner mewn trybini o'r ffenestr neu o erial y radio
  • Arhoswch yn eich cerbyd. Dylech ond gadael y car os oes adeiladau gerllaw lle gwyddoch y gallwch gysgodi rhag y tywydd. Mae pellter yn dwyllodrus mewn lluwch - gall adeilad ymddangos yn ago, ond gall fod yn rhy bell i gerdded ato mewn eira trwchus
  • Dylech redeg yr injan a'r gwresogydd am tua 10 munud pob awr i gadw'n gynnes. Pan fydd yr injan yn rhedeg, dylech gadw ffenestr yn gil-agored i osgoi gwenwyn carbon monocsid. O bryd i'w gilydd, cliriwch yr eira o'r beipen egsôst
  • Symudwch o gwmpas i gadw'n gynnes, ond dylecj osgoi gorwneud pethau
  • Swatiwch gyda theithwyr eraill
  • Gwnewch yn siŵr fod rhywun yn y car yn aros yn effro i gadw llygad allan am dimau achub
  • Cofiwch yfed i osgoi i diffyg hylif ar y corff
  • Peidiwch â gwastraffu batri'r car.

Diogelu'ch cartref ar gyfer y gaeaf:

Dylech baratoi i oroesi yn eich pen eich hun, heb unrhyw gymorth o'r tu allan, am dri diwrnod a leiaf. Bydd cit argyfwng cartref yn helpu mewn achosion o'r fath. Os yw eich cartref mewn ardal anghysbell:

  • Dylech sicrhau bod gennych ddigon o danwydd i wresogi'r tŷ. Trefnwch fod gennych gyfarpar gwresogi arall a digon o danwydd ar ei gyfed rhag ofn y bydd y trydan yn cael ei dorri
  • Cadwch lygad ar faint o olew yr ydych yn ei ddefnyddio - os tybiwch eich bod yn defnyddio peipiau diffygiol yn y ddaear yw'r drwg. Gall gosodwyr sustemau gwresogi olew brofi pwysedd peipiau i weld a ydynt yn gollwng. Y cyngor yw eich bod yn darllen eich yswiriant tŷ i wel a oes gennych yswiriant ar gufer y math yma o ddigwyddiad
  • Dylech sicrhau bod digon o awyru wrth ddefnyddio gwresogyddion cerosîn fel nad oes mygdarthau gwenwynig yn hel. Cadwch ddiffoddydd tân wrth law a gwnewch yn siŵr fod pawb yn y tŷ yn gwybod sut i'w ddefnyddio
  • Cofiwch wrando ar y radio neu'r teledu lleol am adroddiadau ar y tywydd a gwybodaeth frys
  • Cofiwch fwyta'n rheolaidd ac yfed digon (ceisiwch osgoi caffîn ac alcohol
  • Rhowch grit neu wasarn ar gyfer cathod ar y llwybrau neu ar y dreif er mwyn gostwng y risg o lithro ar eira caled
  • Cymrwch ofal wrth rawio eira. Mae aer oer yn ei gwneud yn anoddach gweithio ac anadlu, sy'n rhoi mwy o straen ar y corff
  • Cofiwch wisgo'n driodol. Mae sawl haen o ddillad llac ysgafn yn well nag un haen drwchus. Dylai'r haen allanol fod yn un wrth-ddŵr. Mae menig heb fysedd yn gynhesach na rhai gyda bysedd. Cofiwch wisgo het bob amser oherwydd mai drwy'r pen y collir y rhan fwyaf o wres y corff.
  • Cadwch lygad allan am arwyddion o ewinrhew: colli teimlad ym mysedd eich traed a'ch dwylo ac edrychiad gwyn neu welw. Os gwelwch symptomau ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith
  • Cadwch lygad allan am arwyddion o hypothermia: crynu'n afreolus, y cof yn pylu, dryswch, mwydro, siarad yn aneglur, teimlo'n gysglyd ac wedi ymladd. Os gwelwch symptomau, symudwch y person i rywle cynnes, tynnwch unrhys ddillad gwlyb, cynheswch y corff o'r tu mewn yn gyntaf drwy roi diod cynnes di-alcohol iddynt (os ydynt yn ymwybodol). Ewch i nôl cymorth meddygol ar unwaith
  • Cofiwch alw heibio teulu a ffrindia bregus, fel pobl mewn oed.