Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Pont Rhiwarthen, Capel Bangor

Daeth yr ymgyrch hwn i ben 22 o Fawrth 2026.

Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad diweddar ar y cynlluniau i osod pont newydd yn lle Pont Rhiwarthen ym Mhenllwyn, Capel Bangor. Mae eich adborth yn ein helpu i lunio cam nesaf y prosiect.

Pwy gymerodd ran?

Cawsom 74 o ymatebion i'r arolwg, yn bennaf oddi wrth drigolion lleol a phobl sy'n defnyddio'r bont yn rheolaidd. Mae hyn yn golygu bod yr adborth yn adlewyrchu'n gryf farn pobl sy'n adnabod yr ardal orau ac sy'n dibynnu ar y bont o ddydd i ddydd. Cafwyd adborth hefyd oddi wrth randdeiliaid allweddol ar ffurf adborth ysgrifenedig neu drwy gyfarfodydd.

Sut mae pobl yn defnyddio'r bont

Defnyddir y bont mewn llawer o wahanol ffyrdd, ond yn bennaf:

  • Mae'r rhan fwyaf o bobl yn teithio mewn car
  • Mae llawer hefyd yn cerdded neu'n beicio
  • Mae'n bwysig i’r rheiny sy’n marchogaeth a busnesau lleol

Mae hyn yn dweud wrthym fod yn rhaid i unrhyw bont newydd weithio'n dda i bawb, nid dim ond i yrwyr.

Yr hyn a ddywedsoch wrthym am y bont bresennol

Tynnodd llawer o bobl sylw at heriau gyda'r bont bresennol:

  • Mae'n gul, gan ei gwneud hi'n anodd i gerbydau basio
  • Mae'n teimlo'n anniogel i gerddwyr, beicwyr a marchogion ceffylau
  • Mae cerbydau mwy o faint (megis peiriannau amaethyddol neu gerbydau dosbarthu nwyddau) yn cael trafferth wrth ei defnyddio

Er bod rhai pobl yn dweud nad ydyn nhw'n cael anhawster â’r bont, y neges gyffredinol yw nad yw'r bont yn diwallu anghenion ein dydd ni heddiw cystal ag y gallai.

Barn ar yr opsiynau

Roedd tuedd glir o blaid gosod pont newydd yn y lleoliad presennol. Fodd bynnag, dywedodd llawer ohonoch wrthym mai'r hyn sydd bwysicaf yw nid dim ond ble mae'r bont yn mynd, ond sut mae'r gwaith yn cael ei gyflawni, yn enwedig yn ystod y cam adeiladu.

Yr hyn sydd bwysicaf i chi

Ar draws yr ymatebion yn eu crynswth, roedd rhai themâu yn amlwg:

Cadw mynediad yn ystod y gwaith adeiladu

Roedd pobl yn eglur iawn:

  • Bod rhaid cynnal mynediad i breswylwyr, ffermydd a busnesau
  • Bod cau am gyfnod hir a dargyfeirio ar hyd llwybrau anodd yn bryder mawr
  • Y byddai'n well cadw'r bont ar agor yn ystod y gwaith, lle bo'n bosib

Cefnogi busnesau lleol a thwristiaeth

Mae'r bont yn chwarae rhan allweddol yn yr economi leol, gan gynnwys:

  • Canolfan Farchogaeth Rheidol
  • Twristiaeth a safleoedd carafanau
  • Ffermio a busnesau gwledig

Mae mynediad i gerbydau mawr a cherbydau cludo ceffylau yn arbennig o bwysig.

Gwella diogelwch i bawb

Mae cefnogaeth gref i:

  • Bont fwy llydan, mwy diogel
  • Lle gwell ar gyfer cerdded, beicio a marchogaeth

Gwarchod yr amgylchedd

Roedd llawer o ymatebion yn dangos ymwybyddiaeth gref o'r amgylchedd lleol:

  • Pryderon am lifogydd, sut mae'r afon yn llifo a bywyd gwyllt
  • Cefnogaeth i ddyluniadau sy'n lleihau'r effaith ar yr afon, megis pont ag un rhychwant dros yr afon

Parchu cymeriad yr ardal

Hoffai pobl weld pont sydd:

  • Yn cyd-fynd â'r tirwedd lleol
  • Yn parchu nodweddion cyfagos megis Rheilffordd Cwm Rheidol
  • Yn syml, ymarferol ac yn unol â'r ardal

Beth ddywedodd rhanddeiliaid wrthym

Mae sefydliadau a grwpiau cymunedol ar y cyfan yn cefnogi gosod pont newydd, ac fe wnaethant hefyd dynnu sylw at ambell i bwynt allweddol:

  • Yr angen i ddiogelu'r afon a'r amgylchedd cyfagos
  • Mor bwysig yw cadw llwybrau ar agor yn ystod y gwaith adeiladu
  • Bod y bont yn cefnogi bywyd bob dydd, twristiaeth a busnesau lleol

Cwestiynau Cyffredin

Gofynnwyd nifer o gwestiynau penodol yn ystod yr ymgynghoriad hwn. Dyma'r atebion i'r cwestiynau hynny ar sail ble mae’r cynllun arni ar hyn o bryd.

Na fyddant. Bydd pob opsiwn yn cael ei gynllunio i fodloni'r un safonau cyfredol o ran llwyth y briffordd, boed a yw'r strwythur yn un lle mae un rhychwant neu wedi'i gefnogi gan bileri. Byddai unrhyw bont newydd yn cael ei chynllunio i gynnal pwysau cerbydau modern yn ddiogel.

Ar yr adeg hon, disgwylir mai Opsiwn 1 fyddai’r cyflymaf i'w gyflawni. Mae'n debygol y byddai opsiynau sy'n cynnwys cynhaliaeth yn sianel yr afon yn gofyn am ragor o fodelu hydrolig, asesu amgylcheddol, ac ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru.

Disgwylir i opsiynau 3 a 4 hefyd gymryd mwy o amser oherwydd yr angen i fodelu’r effaith ar y gorlifdir a'r angen posib am dir ychwanegol gan gyflwyno cymeradwyaethau pellach a rhagor o gymhlethdod.

Bydd y mynediad i orsaf reilffordd Capel Bangor yn cael ei gynnal o'r ochr ddeheuol, ar hyd yr C1028.

Mae amcangyfrifiadau costau lefel-uchel yn cael eu datblygu ar hyn o bryd fel rhan o arfarniad Cam 2 WelTAG. Yn y cam hwn, mae’r costau yn ddangosol yn unig a byddant yn fanylach unwaith y bydd yr opsiwn a ffefrir yn cael ei nodi a bod gwaith dylunio pellach yn cael ei gyflawni.

Mae'r prosiect yn dal i fod ar y cam datblygu cynnar. Mae’r amserlenni cyffredinol yn dibynnu ar sawl ffactor gan gynnwys dewis yr opsiwn a ffefrir, a oes cyllid ar gael, cwblhau cymeradwyaethau statudol a chytundebau tir, a’r dyluniad manwl.

Darperir rhagor o wybodaeth ynghylch amserlenni tebygol y rhaglen a’r gwaith unwaith y bydd y prosiect wedi symud ymlaen i gamau diweddarach.

Mae gweithrediadau Statkraft ar yr afon yn cael eu rheoli gan Drwydded Tynnu Dŵr sy'n cael ei dyroddi a'i rheoleiddio gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Mae cyfraniadau neu gyfrifoldebau sy'n ymwneud â rheoli afonydd yn dod o dan y fframwaith rheoleiddio hwnnw.

Mae’r trefniadau cyllido ar gyfer prosiect y bont yn cael eu hystyried ar wahân drwy lwybrau’r sector cyhoeddus.

Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am ddyroddi, monitro ac adolygu trwyddedau tynnu dŵr. Mae adolygu amodau'r drwydded yn waith sy’n gorwedd gyda CNC fel y rheoleiddiwr.

Mae opsiynau’r bont yn cael eu cynllunio i fodloni’r safonau modern ar gyfer priffyrdd a diogelwch. Mae hyn yn cynnwys darparu lled priodol i’r ffordd, cyfleusterau i gerddwyr, ac ymylon diogelwch.

Er bod y ffyrdd sy’n myned ati yn gul, mae'r bont ei hun yn bwynt cyfyng lle gellir gwella diogelwch, gwytnwch a hygyrchedd.

Mae hyn yn ystyriaeth allweddol ac mae wrthi’n cael ei asesu fel rhan o'r arfarniad technegol. Bydd asesiadau manwl ynghylch hydroleg, geomorffoleg a newid hinsawdd yn cael eu cynnal i weld a fydd pileri yn yr afon yn briodol ac yn gynaliadwy o dan amodau presennol a dyfodol llif yr afon, gan gynnwys ymchwyddiadau.

Mae cyllid y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi'i sicrhau ar gyfer camau dylunio ac arfarnu'r prosiect. Nid yw’r opsiynau cyllido ar gyfer adeiladu wedi'u cadarnhau eto ac maent yn cael eu hystyried ar hyn o bryd wrth i'r prosiect ddatblygu.

Mae lleoliad 2 ar bwys y bont bresennol. Er mwyn adeiladu strwythurau cynnal newydd, ffyrdd dynesu, a gwaith cysylltiedig mewn modd diogel, rhagwelir y byddai angen cau'r bont a'r ffordd bresennol yn ystod y gwaith adeiladu.

Nac ydy. Mae'r delweddau a ddarperir yn rhai dangosol yn unig. Yn ymarferol, byddai'r gerbytffordd a'r cyfleusterau i gerddwyr ar yr un lefel, gyda gwahanu priodol a nodweddion diogelwch wedi'u cynllunio.

Ydy mae’n bosib. Dyma un o'r opsiynau sy'n cael eu hystyried. Gellir dylunio pont un rhychwant i ddarparu yn ddiogel ar gyfer traffig dwy-ffordd, yn amodol ar asesiad peirianegol manwl.

Ydyn. Casglwyd data traffig ac mae'n cael ei ddefnyddio i lywio'r arfarniad o’r opsiynau a datblygiad y dyluniadau.

Mae'r ddau leoliad yn cael eu hasesu i ddeall y gwahanol gyfyngiadau peirianegol, amgylcheddol, adeiladol a thirol. Er y bydd angen cau'r bont bresennol dros dro yn achos y ddau leoliad, maent yn cyflwyno risgiau, effeithiau a chyfleoedd gwahanol y mae angen eu gwerthuso cyn dewis yr opsiwn a ffefrir.

Gellir ystyried hyn fel rhan o’r gwaith ymgysylltu yn y dyfodol. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu os bydd cyfleoedd ymgysylltu ychwanegol yn cael eu trefnu.

Mae arolygon ecolegol yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd, gan gynnwys asesu rhywogaethau gwarchodedig a nodedig. Bydd y canfyddiadau yn llywio'r arfarniad o’r opsiynau ac unrhyw ofynion dylunio neu liniaru yn y dyfodol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar y cyfan, mae'r ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth gref i osod pont newydd ac yn tynnu sylw at yr hyn sy'n bwysig i'r gymuned. Wrth i'r prosiect fynd rhagddo, byddwn yn canolbwyntio ar:

  • Leihau aflonyddwch yn ystod y gwaith adeiladu
  • Gwneud yn siŵr bod y dyluniad yn gweithio i bob defnyddiwr
  • Diogelu'r amgylchedd a’r cymeriad lleol

Bydd eich adborth yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth i gynlluniau gael eu datblygu ymhellach.

 

Ymgysylltiad Gwreiddiol

Mae Pont Rhiwarthen yn bont ar draws Afon Rheidol ar y ffordd C1082, wedi’i lleoli yn union i’r de o Benllwyn  Capel Bangor (SN 64935 79820).

Mae angen pont newydd oherwydd cyflwr strwythurol gwael y bont bresennol.

Er bod amryw o waith  atgyweirio a chynnal a chadw wedi’u cynnal dros y blynyddoedd, mae’r strwythur bellach wedi dirywio i’r  graddau y byddai angen gwaith adfer sylweddol i’w gadw’n ddiogel ac yn addas at y diben.

Mae cyfyngiad pwysau o 3 tunnell wedi’i weithredu i reoli cyflwr y bont ac i leihau dirywiad pellach. Mae cyflwr  y bont yn golygu nad yw unrhyw waith trwsio pellach yn ymarferol, ac mae angen pont newydd i’w disodli.

Map

Mae opsiynau’r cynllun yn cael eu datblygu gan ddefnyddio WelTAG, sef canllawiau Llywodraeth Cymru ar  gyfer cynllunio a gwerthuso trafnidiaeth. Mae WelTAG yn nodi dull strwythuredig o gynllunio prosiectau, gan ddechrau gyda’r achos dros newid ac yna symud drwy gamau rhesymegol o ddatblygu, cyflawni a gwerthuso.

Cafodd WelTAG Cam 0 (Yr Achos dros Newid) ei gwblhau yn 2023, ac yna WelTAG Cam 1 (Achos Strategol Bras) yn 2024. Rydym bellach yn cynnal WelTAG Cam 2 (Achos Busnes Bras) i leihau’r opsiynau a datblygu’r opsiwn a ffefrir i symud ymlaen gydag ef.

Amcanion y Cynllun

  1. Gwella cysylltiadau trafnidiaeth i bob defnyddiwr ar y ddwy ochr i’r afon.
  2. Cynnal llwybr beicio presennol Rheidiol ar gyfer pob defnyddiwr di-fodur.
  3. Cynnal mynediad at brif atyniadau teithio gan gynnwys ardaloedd preswyl, a safleoedd busnes a  chyflogaeth.
  4. Gwella cydnerthedd y rhwydwaith trafnidiaeth lleol. Annog dulliau trafnidiaeth cynaliadwy i gefnogi’r agenda lleihau carbon.
  5. Lleihau effaith ar dreftadaeth ac amgylchedd, gan anelu at ennill bioamrywiaeth net.

Datblygu Opsiynau

Drwy ein dealltwriaeth o'r materion cyfredol a'r heriau yn y dyfodol, mae opsiynau posibl wedi’u hadnabod sy'n anelu at gyflawni amcanion y Cynllun. Mae'r opsiynau hyn wedi'u datblygu drwy broses WelTAG, ac unwaith y byddant wedi’u lleihau, bydd achos busnes ar gyfer yr opsiwn a ffefrir yn cael ei baratoi.

Roedd cam 1 WelTAG yn asesu rhestr hir o opsiynau, sydd wedi’i chyfyngu i’r 4 lleoliad canlynol. Caiff y pedwar lleoliad eu hystyried yn WelTAG Cam 2.

Lawrlwythwch copïau o'r cynlluniau arfaethedig yma:

Neu, cliciwch ar y pedwar lleoliad isod i weld cynlluniau arfaethedig ar gyfer bont un rhychwant a phont dwy golofn:

Pont un rhychwant

Pont dwy golofn

Pont un rhychwant

Pont dwy golofn

Pont un rhychwant

Pont dwy golofn

Pont un rhychwant

Pont dwy golofn

 

Delwedd Pont Rhiwarthen

Pont Fodiwlaidd yn y Lleoliad Presennol (Lleoliad 1)

Cynigion Teithio Llesol

Mae gwella cysylltiadau trafnidiaeth i bob defnyddiwr, cynnal llwybr beicio Rheidol ac annog teithio cynaliadwy yn brif amcanion y cynllun.

Mae'r holl opsiynau yn cynnwys dod â’r bont i fyny i Safonau Teithio Llesol cyfredol, gan ddarparu gofodau ar gyfer cerdded a beicio ar wahân. Bydd y gwelliannau hyn yn galluogi Cyngor Ceredigion i ehangu llwybrau teithio llesol yn y dyfodol. Bydd croesfan fwy diogel dros Afon Rheidol yn helpu trigolion a  busnesau ar y ddwy ochr i gysylltu’n fwy cynaliadwy.

Effeithiau Amgylcheddol

Mae deall effaith y Cynllun ar yr amgylchedd a'r gymuned leol yn rhan bwysig o'n gwaith, fel ein bod yn lleihau effeithiau negyddol ac yn nodi cyfleoedd i wella'r amgylchoedd lle gallwn.

Mae'r ardal o amgylch y bont wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd ei nodweddion geomorffolegol a biolegol.

Mae asesiadau amgylcheddol yn parhau ac yn mynd rhagddynt, er mwyn datblygu gwell dealltwriaeth o ba effeithiau tebygol y gall y cynllun ei gael ar Afon Rheidol a’r amgylchedd lleol. Bydd mesurau lliniaru yn cael  eu hystyried a’u cyflwyno yn ôl yr angen ar gyfer unrhyw effeithiau amgylcheddol andwyol.

Effeithiau Adeiladu

Mae deall yr angen i leihau effaith adeiladu ar y rhwydwaith priffyrdd lleol yn ystyriaeth allweddol yn asesiad opsiynau’r Cynllun.

Mae'n debygol y bydd gan bob un o’r opsiynau rywfaint o effaith yn ystod y cyfnod adeiladu. Bydd angen tynnu’r bont bresennol ar gyfer Opsiwn 1 ac Opsiwn 2 cyn y gellir adeiladu’r bont newydd. Bydd Opsiwn 3 ac Opsiwn 4 yn galluogi’r bont bresennol i aros ar agor; fodd bynnag, bydd aflonyddwch wrth gysylltu’r aliniad newydd â’r rhwydwaith presennol.

Ar hyn o bryd amcangyfrifir y bydd y gwaith adeiladu yn cymryd 6 mis i'w gwblhau. Yn dibynnu ar leoliad a math o bont.

Sut i roi Sylwadau

Hoffem glywed eich barn am y cynllun arfaethedig. Bydd eich adborth yn ein helpu i lunio’r dyluniad terfynol.

Dolen ar gyfer holiadur ar-lein: Pont Rhiwarthen - WelTAG Stage 2.

Gallwch lawrlwytho copi o'r cwestiynau yma: Arolwg Pont Rhiwarthen.

Gallwch lawrlwytho copi o'r pecyn wybodaeth yma: Pecyn Wybodaeth Ymgynghoriad - Pont Rhiwarthen.

Gallwch hefyd gasglu copi papur o'r arolwg o'ch Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol, drwy ffonio 01545 570881 neu anfonwch e-bost atom: clic@ceredigion.gov.uk.

Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch ag Ymgynghoriaeth Gwynedd: ygc@gwynedd.llyw.cymru neu 01286  679426.

Gellir hefyd anfon sylwadau drwy e-bost i: ygc@gwynedd.llyw.cymru.

Diogelu Data

Darllenwch sut mae'r Cyngor yn trin data a gesglir drwy ymgynghoriadau - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.

Camau Nesaf

  • Datrysiad Dewisol a Nodwyd
  • Dyluniad Manwl
  • Negodiadau Tir
  • Asesiad Amgylcheddol
  • Cydsyniadau
  • Cynllunio (os oes ei angen)
  • Ymgysylltu â Phrif Rhanddeiliaid
  • Caffael
  • Adeiladu