Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Asesiad Effaith Integredig - Polisi Drafft Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Ymarfer Cyfyngol

Mae'n declyn Asesiad Effaith Integredig wedi'i gynllunio i helpu ein proses benderfynu a sicrhau bod y cynnig:

  • yn cyd-fynd ag Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor
  • yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys ein dyletswydd economaidd-gymdeithasol
  • yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 (gofynion Safonau'r Gymraeg)
  • yn cyfrannu at nodau Llesiant Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cynnwys egwyddorion Datblygu Cynaliadwy
  • yn ystyried rheoli risg.

Mae'r teclyn Asesiad Effaith Integredig hwn wedi'i gategoreiddio yn y 7 Nod Llesiant Cenedlaethol i Gymru:

  1. Cymru lewyrchus - lle mae gan bawb swyddi a does dim tlodi.
  2. Cymru gydnerth - lle rydym yn barod am bethau fel llifogydd.
  3. Cymru iachach - lle mae pawb yn iachach ac yn gallu gweld y meddyg pan fo angen.
  4. Cymru sy’n fwy cyfartal - lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo'u cefndir.
  5. Cymru o gymunedau cydlynus - lle gall cymunedau fyw'n hapus gyda'i gilydd.
  6. Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - lle mae gennym lawer o gyfleoedd i wneud gwahanol bethau a lle mae pobl yn gallu siarad Cymraeg os maen nhw eisiau.
  7. Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang - lle rydym yn gofalu am yr amgylchedd ac yn meddwl am bobl eraill ledled y byd.

 

Manylion y Cynnig

Teitl y Polisi / Cynnig / Menter

  • Polisi Drafft Cefnogaeth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Ymarfer Cyfyngol.

Maes Gwasanaeth

  • Porth Gofal, Gwasanaethau Uniongyrchol

Enw'r swyddog sy'n cwblhau'r Asesiad Effaith Integredig

  • Nerys Lewis.

Swyddog Arweiniol Corfforaethol

  • Donna Pritchard.

Rhowch ddisgrifiad cryno o bwrpas y cynnig

Mae'r cynnig yn cyflwyno Polisi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Ymarfer Cyfyngol corfforaethol sy'n cyd-fynd â Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol Llywodraeth Cymru. Diben y polisi yw cryfhau trefniadau diogelu, gwella ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac ymgorffori dull cyson ar draws y sefydliad i atal a lleihau ymddygiadau sy’n peri pryder ar draws gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Addysg a Llesiant Gydol Oes. Mae’r polisi hwn yn sicrhau cysondeb, urddas, parch at hawliau dynol a dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar draws pob lleoliad.  

Ar bwy fydd y cynnig hwn yn effeithio’n uniongyrchol?

  • Plant, pobl ifanc ac oedolion ar draws Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, Addysg a gwasanaethau a gomisiynir.
  • Teuluoedd, gofalwyr, eiriolwyr a chylchoedd cefnogaeth.
  • Staff yn y Gwasanaethau Uniongyrchol, Dysgu a Datblygu, Addysg, darpariaeth breswyl, gwasanaethau Llesiant Gydol Oes a phartneriaid a gomisiynir.
  • Timau amlddisgyblaethol gan gynnwys iechyd, arbenigwyr ymddygiadol a gweithwyr allweddol.

A yw’r rhai y bydd y cynnig yn effeithio arnynt wedi cael cyfle i wneud sylwadau arno?

  • Datblygwyd y polisi ar y cyd â gwasanaethau Addysg, Llesiant Gydol Oes, a Phobl a Threfniadaeth, ynghyd ag arbenigwyr ymarfer allanol.
  • Adolygwyd drwy wasanaethau Llesiant Gydol Oes, Bwrdd y Rhaglen a’r Grŵp Arweiniol.
  • Ymgysylltu’n gynnar ag ysgolion, darpariaeth gofal preswyl, cynhwysiant addysgol, Gwasanaethau Anabledd Arbenigol a datblygu’r gweithlu.

 

Rheoli Fersiynau

Rhif y Fersiwn Awdur Cam yn y broses benderfynu Dyddiad yr Ystyriwyd Disgrifiad o unrhyw newidiadau a wnaed
1.0 Nerys Lewis Drafftio'r Polisi/Datblygu 'r Model Gydol Oes a Llesiant. Hydref 2025 Drafft cychwynnol yn seiliedig ar ofynion Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Atal.
2.0 Nerys Lewis Grŵp Arweiniol. Tachwedd 2025 Atodiad hyfforddiant wedi'i ychwanegu a fframweithiau uwch gyfeirio wedi'u hegluro.
3.0 Nerys Lewis Yn barod ar gyfer ymgynghoriad. Ionawr 2026 Wedi'i ddiweddaru yn unol â gofynion ymgynghori a chanllawiau cenedlaethol wedi'u diweddaru.
4.0 Nerys Lewis Yn barod ar gyfer ymgynghoriad. Chwefror 2026 Adolygiad terfynol cyn cynnal yr ymgynghoriad.

 

Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor

Pa un o Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor y mae’r cynnig hwn yn mynd i’r afael ag ef a sut?

Strategaeth Corfforaethol Cyngor Ceredigion 2022-27

Hybu'r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth

  • Meithrin gweithlu hyfforddedig, hyderus a diogel.
  • Lleihau anafiadau i staff, straen a throsiant staff drwy ymarfer ataliol.
  • Hyrwyddo llwybr sgiliau cyson a datblygiad proffesiynol.

Creu cymunedau gofalgar ac iach

  • Diogelu llesiant a hawliau dynol.
  • Lleihau’r defnydd o arferion cyfyngol a’r niwed sy’n gysylltiedig â hwy.
  • Gwella ansawdd bywyd a chanlyniadau iechyd i bobl sy'n agored i niwed. 

Darparu’r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi i bobl o bob oed ddysgu

  • Sicrhau cysondeb ar draws ysgolion, Unedau Cyfeirio Disgyblion, Gwasanaethau Plant a gwasanaethau cynhwysiant addysg.
  • Cefnogi ymarfer sy’n ystyriol o drawma a dulliau o ddad-ddwysáu mewn amgylcheddau dysgu. 

Creu cymunedau cynaliadwy sy’n fwy gwyrdd ac sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd

  • Lleihau uwchgyfeirio mewn argyfwng sy’n galw am leoliadau y tu allan i’r Sir.
  • Cefnogi teuluoedd gwydn a gwaith ataliol yn y gymuned. 

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Lewyrchus

Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel lle mae gan bawb gwaith addas a lle nad oes tlodi.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

 

Cadarnhaol. Mae dull cyson o Gymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn lleihau lleoliadau argyfwng, yn gwella hyder y gweithlu, yn lleihau anafiadau ac absenoldebau, ac yn cefnogi defnydd effeithlon o adnoddau ar draws Addysg a Gofal Cymdeithasol. Mae strategaethau ataliol yn lleihau’r angen am ymatebion adweithiol costus.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Datblygu’r gweithlu a fframwaith cymhwysedd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol.
  • Cynllun ar gyfer hyfforddiant a sicrhau ansawdd.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?

  • Ymgorffori hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Rheoli Ymddygiad Corfforol cyson a gorfodol ar draws rolau.
  • Datblygu rôl cydlynydd Rheoli Ymddygiad Corfforol mewnol er mwyn lleihau costau comisiynu.
  • Cynnal ymarfer myfyriol parhaus, goruchwylio a monitro data.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Gydnerth

Cymdeithas lle mae bioamrywiaeth yn cael ei chynnal a'i gwella a lle mae ecosystemau yn iach ac yn gweithredu.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Cadarnhaol. Mae lleihau ymyriadau argyfwng ac arferion cyfyngol yn arwain at amgylcheddau mwy sefydlog, ecosystemau cefnogaeth iachach a llai o ddibyniaeth ar wasanaethau brys

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Fframwaith ataliol Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol.
  • Cefnogi lleoliadau cymunedol cynaliadwy.
  • Model arweinyddiaeth ymarfer sy’n lleihau uwchgyfeirio.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?

  • Cynnal offer monitro ymddygiad a systemau rhybuddio cynnar.
  • Cryfhau llwybrau cydweithio timau amlddisgyblaethol ac ar draws gwasanaethau.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Iachach

Cymdeithas lle mae pobl yn gwneud dewisiadau iach ac yn mwynhau iechyd corfforol a meddyliol da.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Cadarnhaol iawn. Mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn gysylltiedig â gwell llesiant meddyliol a chorfforol, llai o ofid, a mwy o sefydlogrwydd mewn lleoliadau gofal ac ysgolion.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Lleihad yn y niwed seicolegol a chorfforol sy’n gysylltiedig ag atal corfforol.
  • Fframwaith Lleihau Arferion Cyfyngol Llywodraeth Cymru.
  • Tystiolaeth o gynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol ac adroddiadau canlyniadau unigol.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?

  • Sicrhau hyfforddiant ar ymarfer sy’n ystyriol o drawma ac sy’n seiliedig ar hawliau i bob aelod o staff.
  • Cryfhau prosesau adrodd yn ôl, goruchwylio ac ymarfer myfyriol.
  • Hyrwyddo cyd-gynhyrchu gydag unigolion a theuluoedd.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n Fwy Cyfartal

Cymdeithas lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.

Mae'r adran hon yn hirach oherwydd gofynnir i chi asesu effaith eich cynnig ar bob grŵp sydd wedi'i ddiogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os nad ydych wedi nodi mwy o effaith ar y grwpiau a restrir nag ar y boblogaeth gyffredinol, dylech ddewis 'Dim/Fawr Ddim'.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hoedran?

 

Plant a Phobl Ifanc hyd at 18 oed

  • Cadarnhaol

Pobl 18-50

  • Cadarnhaol

Pobl hŷn 50+

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Lleihau niwed ac yn hyrwyddo urddas, diogelwch a chysondeb ymhlith plant, oedolion o oedran gweithio a phobl hŷn.

Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi hyn?

  • Mae dyletswyddau cydraddoldeb yn cael eu hadlewyrchu yn y polisi.
  • Model cynllun Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Hyfforddiant parhaus i'r gweithlu ar gydraddoldeb, hawliau a niwroamrywiaeth.
  • Cydgynhyrchu ac ymgysylltu rheolaidd â’r rhai yr effeithir arnynt.
  • Monitro digwyddiadau yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hanabledd?

 

Amhariad ar y clyw

  • Cadarnhaol

Amhariad corfforol

  • Cadarnhaol

Amhariad ar y golwg

  • Cadarnhaol

Anabledd Dysgu

  • Cadarnhaol

Salwch hirdymor

  • Cadarnhaol

Iechyd Meddwl

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Oherwydd dulliau ataliol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar gyfathrebu.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Mae dyletswyddau cydraddoldeb yn cael eu hadlewyrchu yn y polisi.
  • Model cynllun Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth? 

  • Hyfforddiant parhaus i'r gweithlu ar gydraddoldeb, hawliau a niwroamrywiaeth.
  • Cydgynhyrchu ac ymgysylltu rheolaidd â’r rhai yr effeithir arnynt.
  • Monitro digwyddiadau yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n drawsryweddol?

 

Menywod Traws

  • Dim/Fawr Ddim

Dynion Traws

  • Dim/Fawr Ddim

Pobl Anneuaidd

  • Dim/Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae’r polisi yn cryfhau cydraddoldeb, hawliau a diffyg gwahaniaethu.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Mae dyletswyddau cydraddoldeb yn cael eu hadlewyrchu yn y polisi.
  • Model cynllun Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Hyfforddiant parhaus i'r gweithlu ar gydraddoldeb, hawliau a niwroamrywiaeth.
  • Cydgynhyrchu ac ymgysylltu rheolaidd â’r rhai yr effeithir arnynt.
  • Monitro digwyddiadau yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol gyfeiriadedd rhywiol?

 

Pobl Ddeurywiol

  • Dim / Fawr Ddim

Dynion Hoyw

  • Dim / Fawr Ddim

Menywod hoyw / lesbiaid

  • Dim / Fawr Ddim

Pobl Heterorywiol

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae’r polisi yn cryfhau cydraddoldeb, hawliau a diffyg gwahaniaethu.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Mae dyletswyddau cydraddoldeb yn cael eu hadlewyrchu yn y polisi.
  • Model cynllun Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth? 

  • Hyfforddiant parhaus i'r gweithlu ar gydraddoldeb, hawliau a niwroamrywiaeth.
  • Cydgynhyrchu ac ymgysylltu rheolaidd â’r rhai yr effeithir arnynt.
  • Monitro digwyddiadau yn ôl nodweddion gwarchodedig.

Ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil?

 

Pobl sy'n briod

  • Dim / Fawr Ddim

Pobl mewn partneriaeth sifil

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y Polisi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Atal yn effeithio ar bobl yn wahanol oherwydd eu bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Mae’r polisi yn berthnasol i bawb ac yn canolbwyntio ar hawliau dynol, diogelu, a dulliau cyson sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i atal arferion cyfyngol. Mae’r manteision hyn yn berthnasol yn gyfartal i bob unigolyn gwaeth beth fo’i statws priodasol.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Mae’r polisi yn seiliedig ar ddyletswyddau cydraddoldeb, egwyddorion hawliau dynol ac arferion sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac nid yw’r un o’r rhain yn nodi statws priodasol neu statws partneriaeth fel ffactor perthnasol sy’n dylanwadu ar risg neu ar ddefnydd arferion cyfyngol.
  • Nid oes unrhyw effaith anghymesur wedi'i nodi trwy ymgysylltu â staff, gwasanaethau, undebau neu randdeiliaid.
  • Mae disgwyliadau’r polisi, gofynion hyfforddi a dulliau o ddad-ddwysáu yn berthnasol yn gyfartal i bob aelod o staff a defnyddiwr gwasanaeth gwaeth beth fo’i statws priodasol.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol? 

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Parhau i ddarparu hyfforddiant sy’n ymgorffori cydraddoldeb, hawliau a diffyg gwahaniaethu ar draws pob grŵp o’r gweithlu.
  • Sicrhau bod cyfleoedd cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu yn hygyrch i bobl o bob statws priodasol neu statws partneriaeth.
  • Parhau i fonitro data digwyddiadau yn ôl nodweddion gwarchodedig er mwyn sicrhau nad oes unrhyw anfantais anuniongyrchol yn dod i'r amlwg.
  • Cynnal cyfleoedd i roi adborth er mwyn llywio diweddariadau i hyfforddiant, arweinyddiaeth ymarfer a gweithredu’r polisi.

A ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth?

 

Beichiogrwydd

  • Dim / Fawr Ddim

Mamolaeth

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y Polisi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Atal yn effeithio ar bobl yn wahanol oherwydd eu bod yn feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth. Mae’r polisi yn berthnasol i bawb ac yn canolbwyntio ar ddiogelu, ymarfer sy’n seiliedig ar hawliau a dulliau cyson o atal arferion cyfyngol. Mae’r manteision hyn yn berthnasol i bob unigolyn yn gyfartal gwaeth beth fo’i statws o ran beichiogrwydd neu famolaeth.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Mae’r polisi yn nodi safonau sefydliadol sy’n seiliedig ar hawliau dynol, ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a dyletswyddau cydraddoldeb, ac nid yw’r un o’r rhain yn nodi beichiogrwydd na mamolaeth fel ffactor sy’n dylanwadu ar risg neu ar ddefnydd arferion cyfyngol.
  • Nid oes unrhyw effaith anghymesur ar y grŵp hwn wedi'i nodi trwy ymgysylltu â gwasanaethau, staff neu randdeiliaid.
  • Mae disgwyliadau hyfforddi a dulliau o ddad-ddwysáu yn berthnasol i bawb yn gyfartal ac nid ydynt yn creu rhwystrau i bobl sy’n feichiog neu sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod absenoldeb mamolaeth.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?

  • Sicrhau bod pob aelod o staff, gan gynnwys y rhai sy’n feichiog neu sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod absenoldeb mamolaeth, yn cael mynediad teg at hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Rheoli Ymddygiad Corfforol, sesiynau adnewyddu a goruchwylio.
  • Darparu addasiadau rhesymol o fewn trefniadau hyfforddi (e.e. egwyl tŷ bach, opsiynau eistedd a hyblygrwydd o ran amserlennu) lle bo angen.
  • Parhau i fonitro digwyddiadau a data'r gweithlu yn ôl nodweddion gwarchodedig (gan gynnwys mamolaeth) i sicrhau nad oes anfantais anuniongyrchol yn dod i'r amlwg.
  • Cynnal cyfleoedd cyd-gynhyrchu cynhwysol fel y gall adborth gan bob grŵp o staff lywio diweddariadau i hyfforddiant, arweinyddiaeth ymarfer a gweithredu’r polisi.

A ydych yn meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu tarddiad ethnig?

 

Asiaidd / Asiaidd Prydeinig

  • Dim / Fawr Ddim

Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig

  • Dim / Fawr Ddim

Grwpiau Ethnig Cymysg/ Aml-ethnig

  • Dim / Fawr Ddim

Gwyn

  • Dim / Fawr Ddim

Grwpiau ethnig eraill

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Nid oes tystiolaeth i awgrymu bod y Polisi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Atal yn effeithio ar bobl yn wahanol ar sail tarddiad ethnig. Mae’r polisi yn berthnasol i bawb, yn seiliedig ar hawliau, ac yn seiliedig ar ddulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’n cryfhau tegwch, urddas a diffyg gwahaniaethu drwy sicrhau safonau cyson, lleihau arferion niweidiol neu gyfyngol, a hyrwyddo ymarfer sy’n ystyriol o drawma sy’n berthnasol i bob unigolyn gwaeth beth fo’i ethnigrwydd. Mae natur ataliol Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol, sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd a chyfathrebu, yn cefnogi tegwch ac yn lleihau’r risg o ymatebion rhagfarnllyd neu anghyson i ymddygiadau sy’n peri pryder ar draws cymunedau amrywiol.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Mae’r polisi yn cyd-fynd â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac wedi’i lunio’n benodol o amgylch cydraddoldeb, diogelu, hawliau dynol a diffyg gwahaniaethu.
  • Ni nodwyd unrhyw effeithiau anghymesur sy'n ymwneud â tharddiad ethnig wrth ymgysylltu â gwasanaethau, ysgolion, undebau neu randdeiliaid.
  • Mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn fframwaith sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac mae’n cymhwyso egwyddorion cyson gwaeth beth fo’u cefndir diwylliannol neu ethnig.
  • Mae trefniadau arweinyddiaeth ymarfer, goruchwylio myfyriol a monitro yn helpu i sicrhau nad yw rhagfarn neu anghyfiawnder yn dylanwadu ar arferion.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Sicrhau bod hyfforddiant parhaus ar gydraddoldeb, ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac ymarfer gwrthwahaniaethol ar gael ac wedi’i ymgorffori ar draws y gweithlu.
  • Cynnal cyfleoedd cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu â grwpiau o gefndiroedd ethnig amrywiol er mwyn sicrhau bod profiadau ac ystyriaethau diwylliannol yn cael eu hadlewyrchu yn ymarferol.
  • Monitro digwyddiadau, data atal corfforol a chanlyniadau yn ôl nodweddion gwarchodedig er mwyn nodi a mynd i’r afael ag unrhyw anghydraddoldebau sy’n codi.
  • Sicrhau bod deunyddiau hyfforddi, adnoddau a chynlluniau dwyieithog a hygyrch ar gael, a sicrhau bod cyfieithwyr neu gymorth cyfathrebu sy’n briodol yn ddiwylliannol yn cael eu defnyddio lle bo angen.
  • Cryfhau dealltwriaeth y gweithlu o batrymau ymddygiad, anghenion ac arddulliau cyfathrebu sy’n cael eu llywio gan ddiwylliant drwy ymarfer myfyriol a goruchwylio.

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol grefyddau, credoau neu ddim cred?

 

Bwdhaidd

  • Dim / Fawr Ddim

Cristion

  • Dim / Fawr Ddim

Hindŵaidd

  • Dim / Fawr Ddim

Dyneiddiwr

  • Dim / Fawr Ddim

Iddewig

  • Dim / Fawr Ddim

Mwslim

  • Dim / Fawr Ddim

Sikh

  • Dim / Fawr Ddim

Pobl heb gred

  • Dim / Fawr Ddim

Eraill

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod Polisi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Atal yn effeithio ar bobl yn wahanol oherwydd eu crefydd, eu cred, neu eu diffyg cred. Mae’r polisi yn berthnasol i bawb ac yn seiliedig ar hawliau dynol, urddas ac ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Nid yw’n cyflwyno unrhyw arferion, gofynion na disgwyliadau sy’n gwrthdaro ag anghenion crefyddol neu anghenion sy’n deillio o gredoau. Mae ei ffocws ar ddulliau cyson, ataliol a moesegol yn cefnogi tegwch ac yn sicrhau bod unigolion o bob cefndir ffydd (neu heb ffydd) yn cael eu trin yn deg ac yn barchus.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Mae’r polisi yn cyd-fynd â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac yn cynnwys ymrwymiad i beidio â gwahaniaethu ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys crefydd a chred.
  • Ni nodwyd unrhyw rwystrau penodol sy’n ymwneud â chrefydd nac unrhyw effeithiau gwahaniaethol drwy ymgysylltu â staff, undebau, ysgolion, gwasanaethau neu randdeiliaid.
  • Mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn fodel sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n pwysleisio parch, cyfathrebu, personoli a chyd-gynhyrchu — ac mae’r rhain i gyd yn cefnogi’r gallu i ddiwallu anghenion diwylliannol, crefyddol neu anghenion sy’n deillio o gredoau unigolion.
  • Mae arweinyddiaeth ymarfer a goruchwylio myfyriol yn cefnogi ymarfer teg a diduedd ymhellach.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Sicrhau bod hyfforddiant ar gydraddoldeb, diwylliant ac amrywiaeth yn cynnwys ymwybyddiaeth grefyddol a pharch at systemau cred.
  • Sicrhau bod cynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a dulliau cefnogi ymddygiad yn cydnabod ac yn integreiddio dewisiadau crefyddol neu ddiwylliannol unigolion (e.e. trefn ddyddiol, gwisg, gofynion dietegol, amseroedd gweddi a gwyliau crefyddol).
  • Darparu cyfleoedd cyfathrebu a chyd-gynhyrchu hygyrch i unigolion a theuluoedd o gefndiroedd crefyddol amrywiol.
  • Parhau i fonitro data i nodi a mynd i'r afael ag unrhyw anghydraddoldebau anuniongyrchol neu sy'n dod i'r amlwg sy'n gysylltiedig â chrefydd neu gred.
  • Defnyddio ymarfer a goruchwyliaeth fyfyriol i atgyfnerthu dulliau cymorth ymddygiad sy’n sensitif ac yn barchus tuag at ddiwylliant. 

Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar ddynion neu fenywod?

 

Dynion

  • Dim / Fawr Ddim

Menywod

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod Polisi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a’r polisi Lleihau Atal yn effeithio ar ddynion a menywod yn wahanol. Mae’r polisi yn berthnasol i bawb, yn seiliedig ar hawliau ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’n canolbwyntio ar leihau arferion cyfyngol, gwella diogelwch a chryfhau trefniadau diogelu i bob unigolyn gwaeth beth fo’i ryw. Mae’r dull yn pwysleisio cysondeb, urddas, ymyrraeth gynnar ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma, sydd o fudd ddynion a menywod yn gyfartal ar draws lleoliadau gofal, addysg a chymunedol.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Mae’r polisi yn cyd-fynd â dyletswyddau cydraddoldeb a deddfwriaeth hawliau dynol, sy’n ei gwneud yn ofynnol trin pob nodwedd warchodedig yn deg.
  • Ni nodwyd unrhyw effeithiau penodol sy’n ymwneud â rhyw yn ystod ymgysylltu â staff, undebau, ysgolion, lleoliadau preswyl na rhanddeiliaid eraill.
  • Mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn fframwaith sy’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n dibynnu ar ddeall ymddygiad, cyfathrebu ac anghenion unigolion — nid ar nodweddion demograffig megis rhyw.
  • Mae prosesau monitro digwyddiadau o fewn trefniadau hyfforddi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Rheoli Ymddygiad Corfforol a fframweithiau ymarfer myfyriol yn cefnogi cymhwyso cyson ar draws dynion a menywod.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Parhau i ymgorffori hyfforddiant ar gydraddoldeb, hawliau ac ymarfer gwrthwahaniaethol ar draws y gweithlu.
  • Sicrhau bod staff yn deall ac yn cymhwyso dulliau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn gyson, heb unrhyw ragdybiaethau sy’n ymwneud ag ymddygiadau sy’n gysylltiedig â rhyw.
  • Parhau i fonitro data digwyddiadau a chanlyniadau yn ôl nodweddion gwarchodedig (gan gynnwys rhyw) er mwyn nodi a mynd i’r afael ag unrhyw batrymau anghyfartal.
  • Cynnal cyfleoedd hygyrch ar gyfer cyd-gynhyrchu, ymgynghori a rhoi adborth fel bod profiadau dynion a menywod yn llywio adolygiad polisi, hyfforddiant ac arweinyddiaeth ymarfer.

A ydych yn credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl o Gymuned y Lluoedd Arfog?

 

Aelodau o'r Lluoedd Arfog

  • Dim / Fawr Ddim

Cyn-filwyr

  • Dim / Fawr Ddim

Gwŷr/gwragedd

  • Dim / Fawr Ddim

Plant

  • Dim / Fawr Ddim

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod Polisi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a Lleihau Atal yn effeithio ar aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn wahanol i’r boblogaeth gyffredinol. Mae’r polisi yn berthnasol i bawb ac yn cael ei gymhwyso’n gyfartal ar draws pob grŵp, gan ganolbwyntio ar ddiogelu, hawliau dynol, arferion ataliol cyson, a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae hyn yn golygu y bydd personél sy'n gwasanaethu, cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a'u teuluoedd yn elwa o'r un gwelliannau o ran diogelwch, cysondeb ac urddas ag unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth neu grŵp staff arall.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Mae’r polisi yn seiliedig ar ddeddfwriaeth cydraddoldeb ac nid yw’n cyflwyno unrhyw feini prawf gwahaniaethol sy’n gysylltiedig â statws yn y Lluoedd Arfog.
  • Ni nodwyd unrhyw anghenion, rhwystrau na risgiau penodol sy’n ymwneud â chymuned y Lluoedd Arfog drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws Gofal Cymdeithasol, Addysg, gwasanaethau Llesiant Gydol Oes a grwpiau’r gweithlu.
  • Mae egwyddorion ataliol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n ystyriol o drawma o fewn Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn sicrhau cysondeb gwaeth beth fo’u cefndir neu hanes personol.
  • Mae prosesau hyfforddi, goruchwylio, monitro digwyddiadau a chynllunio cymorth ymddygiad yn cael eu cymhwyso’n gyfartal ar draws yr holl nodweddion gwarchodedig a nodweddion nad ydynt yn warchodedig.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

  • Sicrhau bod hyfforddiant yn ymgorffori ymwybyddiaeth o brofiadau bywyd amrywiol, gan gynnwys y rhai a allai fod wedi profi trawma sy'n gysylltiedig â’u cyfnod yn gwasanaethu.
  • Cynnal cyfleoedd cynhwysol ar gyfer cyd-gynhyrchu fel y gall cyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu neu eu teuluoedd roi adborth os dymunant.
  • Parhau i fonitro data a chanlyniadau digwyddiadau ar draws nodweddion i nodi unrhyw anghydraddoldebau anfwriadol neu sy'n dod i'r amlwg.
  • Sicrhau bod cyfathrebu yn glir, yn hygyrch ac yn gyson i bawb, gan gynnwys teuluoedd a allai fod yn symud yn rheolaidd neu’n profi aflonyddwch oherwydd ymrwymiadau sy'n gysylltiedig â gwasanaethu.

 

Dyletswydd economaidd-gymdeithasol

Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn golygu byw ar incwm isel o'i gymharu ag eraill yng Nghymru, gydag ychydig neu ddim cyfoeth cronedig, sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau sylfaenol.

Mae cefndir teuluol neu lle mae person yn cael ei eni yn dal i effeithio ar ei fywyd. Er enghraifft, mae plentyn o deulu cyfoethog yn aml yn gwneud yn well yn yr ysgol na phlentyn o deulu tlawd, hyd yn oed os yw'r plentyn tlotach yn fwy naturiol academaidd. Gelwir hyn weithiau yn anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol. 

Ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol?

  • Cadarnhaol

Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol

Mae'r cynnig yn debygol o gael effaith gadarnhaol ar bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae unigolion ar incwm is yn aml yn fwy agored i argyfwng, allgáu, ac ansefydlogrwydd o fewn gwasanaethau. Mae dull ataliol Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn lleihau’r risg o sefyllfaoedd yn gwaethygu, yn hyrwyddo cymorth cyson sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac yn gwella mynediad at ddarpariaeth sefydlog ar draws gwasanaethau addysg, gofal cymdeithasol a chymunedol. Drwy leihau’r angen am leoliadau cost uchel sy’n cael eu gyrru gan argyfwng neu leoliadau y tu allan i’r sir, mae’r polisi yn cefnogi mwy o degwch ac yn lleihau’r effaith anghymesur y gall tarfu ar wasanaethau ei chael ar deuluoedd incwm is.

Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r farn hon?

Mae’r dystiolaeth mewn adroddiadau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn dangos gwell canlyniadau i deuluoedd sy’n wynebu anfanteision lluosog, gan gynnwys llai o ddigwyddiadau, mwy o sefydlogrwydd a chynllunio cymorth ymddygiad mwy effeithiol. Mae llwybrau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn y gymuned yn lleihau’r ddibyniaeth ar ddarpariaeth allanol cost uchel, sy’n aml yn anoddach i deuluoedd sydd â llai o adnoddau ei chyrchu. Mae ymarfer ataliol sy’n seiliedig ar berthnasoedd yn gysylltiedig â gwell cynhwysiant, llai o straen ar ofalwyr, a gwell mynediad at wasanaethau prif ffrwd. Mae papurau craffu yn tynnu sylw at y ffaith bod unigolion sy’n profi anfantais mewn mwy o berygl yn ystod digwyddiadau argyfwng ac yn elwa fwyaf o fodelau cefnogi rhagweithiol a chyson.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?

  • Sicrhau mynediad teg at gymorth drwy ddull Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol gwaeth beth fo'u hincwm neu eu lleoliad.
  • Parhau i flaenoriaethu ymyrraeth gynnar a dulliau ataliol er mwyn lleihau sefyllfaoedd yn gwaethygu ac osgoi lleoliadau costus ac ansefydlog y tu allan i’r sir.
  • Cynnal ymgysylltiad parhaus â theuluoedd i sicrhau bod y polisi yn ymateb i anghenion y rhai sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
  • Monitro canlyniadau a data digwyddiadau yn ôl dangosyddion economaidd-gymdeithasol (lle bo’n briodol ac yn foesegol) er mwyn nodi unrhyw anghydraddoldebau sy’n dod i’r amlwg.
  • Sicrhau bod hyfforddiant, gwybodaeth a chanllawiau ar gael mewn iaith glir, mewn sawl fformat ac mewn fformatau dwyieithog er mwyn osgoi allgáu.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru o Gymunedau Cydlynus

Cymdeithas gyda chymunedau deniadol, hyfyw, diogel, sydd â chysylltiadau da.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Cadarnhaol. Mae’n lleihau sefyllfaoedd argyfwng rhag gwaethygu, yn gwella sefydlogrwydd mewn cartrefi, ysgolion a lleoliadau cymunedol, ac yn cryfhau sefydlogrwydd lleoliadau.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn  hon?

  • Lleihau lleoliadau y tu allan i'r sir.
  • Datblygu gweithlu Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol.
  • Gwell perthnasoedd a chynhwysiant cymunedol.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?

  • Cynnal llwybrau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn y gymuned.
  • Sicrhau cydweithio rhwng asiantaethau wrth gynllunio ac adolygu.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu

Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn amddiffyn diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Cadarnhaol. Mae Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn cael ei ddarparu trwy gyfrwng iaith o ddewis unigolion. Gellir darparu hyfforddiant, dogfennaeth a chynlluniau yn ddwyieithog.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Cymhwyso safonau’r Gymraeg ar draws y gwasanaethau.
  • Cynlluniau Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn cael eu llunio yn Gymraeg ar gyfer unigolion.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?

  • Sicrhau bod pob aelod o staff yn gallu cael mynediad at ddeunydd hyfforddi dwyieithog.
  • Cynnal darpariaeth a dull Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gan gyfeirio at y canlynol, a ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar y Gymraeg?

Cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg

  • Dim / Fawr Ddim

Trin y Gymraeg, dim llai ffafriol na'r Saesneg

  • Dim / Fawr Ddim

Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r safbwynt hwn?

Wedi’i seilio ar fframwaith Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol a hawliau dynol y DU a rhyngwladol.

Pa gamau y gallwch eu cymryd i gynyddu'r effaith gadarnhaol neu liniaru unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg?

  • Parhau i werthuso yn erbyn arferion gorau a fframweithiau cenedlaethol.
  • Gweithredu goruchwyliaeth llywodraethu drwy’r model Llesiant Gydol Oes a’r Grŵp Arweiniol.

 

Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Cymdeithas sy'n ystyried sut y gallai ein gweithredoedd effeithio ar wledydd a phobl eraill ledled y byd.

Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.

Cadarnhaol. Mae unigolion sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yn fwy agored i argyfyngau ac allgáu. Mae dull ataliol Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn gwella mynediad at gymorth sefydlog, yn lleihau’r angen am leoliadau cost uchel, ac yn hyrwyddo mwy o degwch.

Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?

  • Lleihad yn nifer y lleoliadau sy’n chwalu o ganlyniad i argyfwng.
  • Adroddiad chwe mis Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn dangos gwelliannau mewn canlyniadau i deuluoedd.

Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?

  • Sicrhau mynediad teg at ddull Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol waeth beth fo’u hincwm.
  • Parhau i leihau dibyniaeth ar leoliadau cyfyngol cost uchel.
  • Cryfhau cynigion ymyrraeth gynnar ac atal.

 

Cryfhau’r Cynnig

Os ydych wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol yn yr adrannau uchod, rhowch fanylion am unrhyw newidiadau a chamau gweithredu ymarferol a allai helpu i ddileu neu leihau'r effeithiau negyddol.

Beth fyddwch chi'n ei wneud? Pryd? Pwy sy'n gyfrifol? Cynnydd
Cwblhau'r ymgynghoriad a diwygio'r polisi. Rhagfyr 2025-Ionawr 2026 Grŵp Tasg y Prosiect Wedi'i gwblhau.
Ymgorffori rôl cydlynydd Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol newydd. 2026 Grŵp Tasg y Prosiect Ar y gweill.
Gweithredu cynllun hyfforddi Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol/Rheoli Ymddygiad Corfforol Cwarter 4 2026 Grŵp Tasg y Prosiect Fframwaith wedi'i drafftio.
Sefydlu cylch adrodd data ar gyfer lleihau'r defnydd o arferion atal. 2026 Grŵp Tasg y Prosiect Wedi'i gynllunio.

Os na chymerir camau i ddileu neu liniaru effeithiau negyddol, a fyddech cystal â chyfiawnhau pam. (Os ydych wedi nodi unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yna mae’n rhaid newid neu ddiwygio’r cynnig.)

Mae gan bob effaith negyddol gamau lliniaru y gellir eu nodi.

Sut fyddwch chi'n monitro effaith ac effeithiolrwydd y cynnig?

  • Adrodd ar ddata Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol.
  • Darparu diweddariadau i'r tîm Llesiant Gydol Oes bob chwe mis.
  • Dadansoddiad digwyddiadau parhaus a gwiriadau cydymffurfiaeth hyfforddiant.

 

Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: 5 Ffordd o Weithio

Disgrifiwch isod sut rydych wedi gweithredu'r pum ffordd o weithio yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Hirdymor - sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr ac anghenion tymor hir a’r angen i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

  • Lleihau'r galw am wasanaethau hirdymor a lleoliadau cost uchel trwy ymgorffori ymarfer ataliol.

Cydweithio - cydweithio â phartneriaid eraill i gyflawni canlyniadau.

  • Wedi’i ddatblygu ar y cyd ag Addysg, Llesiant Gydol Oes, fframweithiau hyfforddi Gofal Cymdeithasol Cymru ac arbenigwyr ymddygiad.

Cynnwys - cynnwys pobl sydd â buddiant a gofyn am eu barn.

  • Ymgynghoriadau cyhoeddus gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, teuluoedd, ysgolion ac undebau.

Atal - darparu adnoddau i atal problemau rhag codi neu waethygu.

  • Prif nod: atal sefyllfaoedd rhag gwaethygu, ymddygiadau argyfwng, a’r angen am arferion cyfyngol.

Integreiddio - ystyried effaith eich cynnig ar bedwar piler llesiant (cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a'r amgylchedd), amcanion cyrff cyhoeddus eraill ac ar draws meysydd gwasanaeth yn y Cyngor.

  • Yn cyd-fynd â dyletswyddau Addysg, Llesiant Gydol Oes, Diogelu, datblygu'r gweithlu, Deddf Cydraddoldeb a Lles Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Risg

Crynhowch y risg sy'n gysylltiedig â'r cynnig.

  1 2 3 4 5

Meini prawf asesu effaith

Isel iawn Isel Canolig Uchel Uchel iawn

Meini prawf asesu tebygolrwydd

Annhebygol o ddigwydd Llai tebygol o ddigwydd Yr un mor debygol o ddigwydd ag o beidio digwydd Mwy tebygol o ddigwydd Tebygol o ddigwydd

 

Disgrifiad o'r Risg Effaith Tebygolrwydd Sgôr (Effaith x Tebygolrwydd)
Ymarfer anghyson os na chaiff y polisi ei fabwysiadu. 4 4 16
Parhau i ddefnyddio arferion cyfyngol. 4 4 16
Cyfyngiadau capasiti a hyfforddiant y gweithlu. 3 4 12

 

Rheoli Data

A fydd y cynnig yn golygu unrhyw newid newydd neu arwyddocaol i ddulliau prosesu data presennol?

Bydd. Mae offer monitro Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol yn gofyn am gasglu data ymddygiadol yn strwythuredig, ffurflenni digwyddiadau a chofnodion hyfforddi.

A oes angen Asesiad Effaith Diogelu Data ar Raddfa Fach?

Oes.