Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynnydd Arfaethedig i Brisiau Tacsi yng Ngheredigion

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ar yr 8fed o Fai 2026. 

Mae cwmni tacsis lleol wedi gofyn i'r Cyngor gynyddu prisiau tacsis yng Ngheredigion, gan nodi costau gweithredu cynyddol - tanwydd, cynnal a chadw, cyflogau a chostau cerbydau.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd gyfreithiol i edrych ar geisiadau fel hyn. Nid yw Ceredigion wedi newid prisiau tacsis ers 2022, felly mae'n amser priodol i'w hadolygu. 

 

Yr hyn a awgrymodd y cwmni tacsi

Gofynnodd y cwmni tacsi am: 

• £1 ychwanegol i’w ychwanegu i’r hanner milltir gyntaf; a 
• 2c ychwanegol ar gyfer 1/10th milltir ar ôl hynny. 

Ar y cyfan, byddai hyn yn golygu: 

• cynnydd cyfartalog o 23.7% ar draws pob pris 
• y cynnydd mwyaf fyddai yn y pris cychwynnol 
• byddai cyfraddau pellter yn codi 10.6% 
• byddai ffioedd amser aros yn codi 32% 


Mae'r cynnydd hwn yn adlewyrchu costau cynyddol a byddai'n gwneud prisiau Ceredigion yn debycach i gynghorau cyfagos fel Sir Gaerfyrddin a Gwynedd. 

 

Sut mae Ceredigion yn cymharu'n genedlaethol 

Bob mis, mae ‘Taxi Fare League Table’ yn graddio cynghorau yn ôl pris taith ddwy filltir. Gellir gweld hyn ar-lein yn https://www.phtm.co.uk/taxi-fares-league-tables.  


Ar hyn o bryd mae Ceredigion yn safle 226 allan o 341 o gynghorau. Mae taith ddwy filltir yma yn costio £6.80 ar hyn o bryd. Cyfartaledd y DU yw £7.40 


Pe bai'r cynnydd a awgrymwyd gan y cwmni tacsi yn cael ei dderbyn byddai taith ddwy filltir yn costio £8.25. Byddai Ceredigion yn symud i fyny i safle 64. Byddai felly’r pris drytaf yng Nghymru. 

 

Cymhariaeth â Chynghorau Cyfagos 

Cyngor Pris Cychwynnol Cost y 
filltir 

Ffioedd Amser
 Aros (y funud)

Adolygiad 
diwethaf

Ceredigion (presennol)  £3.50 (½ milltir 
gyntaf) 
£2.20  £0.25  2022
Sir Gâr  £4.50 (y filltir 
gyntaf) 
£2.50  £0.30 2023
Sir Benfro  £4.00 (y filltir 
gyntaf)
£3.00  £0.42 2022
Powys  £4.00 (y filltir 
gyntaf)
£2.00  £0.20 2022

 

Pwysau Costau Byw a Gweithredu

Mae prisiau cyfartalog tanwydd wedi gostwng ers 2022 (Yn gywir ar 12fed Chwefror 2026): 

• Petrol: o £1.65 i £1.35 
• Disel: o £1.79 i £1.43 

Ond mae costau eraill wedi codi: 

• Mae chwyddiant cyffredinol wedi cynyddu 13.9% 
• Mae yswiriant ar gyfer tacsis yn ddrud — fel arfer rhwng £1,800 i £4,500+ 

 

Beth ddywedodd gyrwyr tacsi lleol 

Anfonwyd arolwg at yr holl yrwyr a gweithredwyr tacsi yng Ngheredigion:

• gwahoddwyd 275 (265 ar-lein a 10 papur). 
• ymatebodd 50. 


Dangosodd yr adborth fod:

• 88% o blaid codi’r pris. 
• O’r rheiny oedd o blaid, roedd 44.7% eisiau cynnydd o oddeutu 10%. 
• Nododd gyrwyr bod costau’n cynyddu ond nid yw enillion yn cadw i fyny.  
• Mae rhai gyrwyr yn ennill yn agos at yr isafswm cyflog hyd yn oed wrth weithio oriau hir. 
• Mae llawer yn teimlo bod angen cynnydd mewn prisiau fel y gall gyrwyr aros yn y fasnach, cynnal a chadw eu cerbydau, a chynnig gwasanaeth diogel a dibynadwy. 
• Roedd nifer fach o yrwyr yn poeni am gostau i deithwyr agored i niwed, ond roedd y mwyafrif yn teimlo bod y cynnydd yn angenrheidiol.

 

Argymhelliad y Cyngor 

Pan gyfarfu'r Pwyllgor Trwyddedu ar 12 Chwefror 2026, awgrymwyd cynnydd o 7% yn hytrach na'r codiadau uwch y gofynnwyd amdanynt. Fe wnaethant hefyd argymell ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn ehangach. 

 

Enghraifft o'r cynnydd o 7% (wedi’i symleiddio) 

Tariff

½ Milltir 
Cyntaf 
Presennol 

Cynnydd 7% 
i’r ½ Milltir 
Cyntaf

Fesul 1/10 
milltir ar hyn o 
bryd 

Cynnydd o 7% Fesul 
1/10 milltir  

1 £3.50 £3.70 £0.22  £0.25
2 £4.00 £4.20 £0.25  £0.25
3 £4.00 £4.20 £0.28  £0.30
4 £6.00 £6.40 £0.37 £0.40
5 £4.00 £4.20 £0.31  £0.35
6 £5.00 £5.30 £0.37  £0.40
7 £7.00 £7.40 £0.49 £0.50
Ffioedd Amser
 Aros (y funud)

£0.25 


£0.25 


-

-

 

Taliadau Ychwanegol 
(dewisol) 
Presennol  Cynnydd 7%
Cases (each) £1.00 £1.05 
Trunks (each) £1.50 £1.60 
Fouling £100 £107.00 

 

Sut i rannu eich barn

Cwblhewch arolwg ar-lein - Arolwg ar-lein

Lawrlwythwch gopi papur - Copi papur

 

Os hoffech dderbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

Gallwch hefyd ofyn am gopi papur o’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol drwy ffonio ni ar 01545 570 881 neu e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk.

 

Dychwelwch gopïau papur i’ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol, neu i:
Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol, Cyngor Sir Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA

 

Diogelu data 

Darllenwch sut mae'r Cyngor yn trin data a gesglir drwy ymgynghoriadau - Hysbysiad Preifatrwydd Ymgynghoriadau.

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael eu dadansoddi a'u cyflwyno i bwyllgor trwyddedu'r Cyngor ar gyfer penderfyniad terfynol. 


Gallwch ddarllen mwy am y pwyllgor trwyddedu yma - Cyngor Sir Ceredigion.