
Asesiad Effaith Integredig - Polisi Trwyddedu
Mae'n declyn Asesiad Effaith Integredig wedi'i gynllunio i helpu ein proses benderfynu a sicrhau bod y cynnig:
- yn cyd-fynd ag Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor
- yn cydymffurfio â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys ein dyletswydd economaidd-gymdeithasol
- yn cydymffurfio â Mesur y Gymraeg 2011 (gofynion Safonau'r Gymraeg)
- yn cyfrannu at nodau Llesiant Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cynnwys egwyddorion Datblygu Cynaliadwy
- yn ystyried rheoli risg a data.
Mae'r teclyn Asesiad Effaith Integredig hwn wedi'i gategoreiddio yn y 7 Nod Llesiant Cenedlaethol i Gymru:
- Cymru lewyrchus - lle mae gan bawb swyddi a does dim tlodi.
- Cymru gydnerth - lle rydym yn barod am bethau fel llifogydd.
- Cymru iachach - lle mae pawb yn iachach ac yn gallu gweld y meddyg pan fo angen.
- Cymru sy’n fwy cyfartal - lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo'u cefndir.
- Cymru o gymunedau cydlynus - lle gall cymunedau fyw'n hapus gyda'i gilydd.
- Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu - lle mae gennym lawer o gyfleoedd i wneud gwahanol bethau a lle mae pobl yn gallu siarad Cymraeg os maen nhw eisiau.
- Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang - lle rydym yn gofalu am yr amgylchedd ac yn meddwl am bobl eraill ledled y byd.
Manylion y Cynnig
Teitl y Polisi / Cynnig / Menter
- Adolygiad o Ddatganiad Cyngor Sir Ceredigion o Bolisi Trwyddedu.
Maes Gwasanaeth
- Diogelu’r Cyhoedd / Trwyddedu.
Enw'r swyddog sy'n cwblhau'r Asesiad Effaith Integredig
- Lawrence Martin, Rheolwr Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Swyddog Arweiniol Corfforaethol
- Alun Williams
Rhowch ddisgrifiad cryno o bwrpas y cynnig
Adolygiad statudol arferol pum mlynedd o bolisi trwyddedu.
Ar bwy fydd y cynnig hwn yn effeithio’n uniongyrchol?
Bydd y newidiadau cyfyngedig yn effeithio’n bennaf ar drwyddedwyr presennol ac yn y dyfodol, eu staff, cleientiaid, ac eraill yng nghyffiniau eiddo trwyddedig, gan gynnwys busnesau a phreswylwyr.
A yw’r rhai y bydd y cynnig yn effeithio arnynt wedi cael cyfle i wneud sylwadau arno?
Mae’r drafft hwn o’r asesiad effaith integredig yn cael cynhyrchu i gyd-fynd â’r ymgynghoriad ar y newidiadau.
Rheoli Fersiynau
Rhif y Fersiwn | Awdur | Cam yn y broses benderfynu | Dyddiad yr Ystyriwyd | Disgrifiad o unrhyw newidiadau a wnaed |
1.0 | Lawrence Martin | Cyn ymgynghoriad ffurfiol. | 09/10/2025 | Amherthnasol |
Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor
Pa un o Amcanion Llesiant Corfforaethol y Cyngor y mae’r cynnig hwn yn mynd i’r afael ag ef a sut?
Strategaeth Corfforaethol Cyngor Ceredigion 20222-27
Hybu'r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth
- Mae’r newidiadau hyn yn egluro ac yn symleiddio prosesau trwyddedu ac yn darparu canllawiau cliriach i fusnesau.
Creu cymunedau gofalgar ac iach
- Mae’r newidiadau mewn perthynas â diogelwch personol, gwerthiannau dirprwyol a Chyfraith Martyn yn helpu i amddiffyn pobl a chymunedau.
Darparu’r dechrau gorau mewn bywyd a galluogi i bobl o bob oed ddysgu
- Mae canllawiau ar gyflogi plant a gwerthiannau dirprwyol yn helpu i amddiffyn pobl ifanc ac atal gwerthiannau dan oed.
Creu cymunedau cynaliadwy sy’n fwy gwyrdd ac sydd wedi’u cysylltu’n dda â’i gilydd
- Mae cynnwys gofynion ailgylchu yn y gweithle yn cael ei ddwyn i sylw’r trwyddedwyr.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Lewyrchus
Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel lle mae gan bawb gwaith addas a lle nad oes tlodi.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Effeithiau cadarnhaol
- Amodau trwyddedu cliriach (e.e. amodau enghreifftiol, goruchwylwyr eiddo dynodedig) a fydd yn cefnogi cydymffurfiaeth busnes ac yn lleihau’r baich gweinyddol.
- Mae gofynion ailgylchu yn y gweithle yn hyrwyddo arferion carbon isel.
- Mae canllawiau ar gyflogaeth plant yn helpu i sicrhau amodau gwaith cyfreithlon a diogel i bobl ifanc.
Effeithiau negyddol
- Mwy o gostau cydymffurfio i fusnesau bach (e.e. seilwaith ailgylchu, cynllunio diogelwch digwyddiadau).
- Gall amodau llymach atal newydd-ddyfodiaid neu weithredwyr llai rhag gwneud cais am drwyddedau.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae’r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effaith y newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?
Sicrhau bod canllawiau mor glir â phosibl ac yn cefnogi trwyddedwyr presennol neu rhai newydd yn y dyfodol sy’n dymuno anelu at gydymffurfiaeth lawn.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Gydnerth
Cymdeithas lle mae bioamrywiaeth yn cael ei chynnal a'i gwella a lle mae ecosystemau yn iach ac yn gweithredu.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Effeithiau cadarnhaol
- Mae gofynion ailgylchu yn y gweithle yn cyfrannu at gynaliadwyedd amgylcheddol ac yn lleihau gwastraff tirlenwi.
Effeithiau negyddol
- Gall gweithredu fod yn anghyson os nad oes gan adeiladau llai adnoddau neu ymwybyddiaeth.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae’r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau’r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?
Sicrhau bod y canllawiau mor glir â phosibl ac yn cefnogi trwyddedwyr presennol neu rhai newydd yn y dyfodol sy’n dymuno anelu at gydymffurfiaeth lawn.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru Iachach
Cymdeithas lle mae pobl yn gwneud dewisiadau iach ac yn mwynhau iechyd corfforol a meddyliol da.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Effeithiau cadarnhaol
- Mae pwyslais ar ddiogelwch personol a bregusrwydd (e.e. diogelu, gwrth-aflonyddu) yn gwella canlyniadau iechyd cyhoeddus.
- Mae gwerthiannau dirprwyol yn helpu i atal yfed dan oed.
- Mae Cyfraith Martyn yn gwella diogelwch mewn lleoliadau cyhoeddus.
Effeithiau negyddol
- Efallai y bydd angen hyfforddiant a chefnogaeth ychwanegol ar gyfer cyfrifoldebau cynyddol i staff.
- Efallai y bydd rhai lleoliadau yn ei chael hi'n anodd gweithredu mesurau diogelwch heb arweiniad allanol.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae’r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau’r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y Nod Llesiant Cenedlaethol hwn?
Sicrhau bod canllawiau mor glir â phosibl ac yn cefnogi trwyddedwyr presennol neu rhai newydd yn y dyfodol sy’n dymuno anelu at gydymffurfiaeth lawn.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n Fwy Cyfartal
Cymdeithas lle mae gan bawb gyfle cyfartal beth bynnag fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau.
Mae'r adran hon yn hirach oherwydd gofynnir i chi asesu effaith eich cynnig ar bob grŵp sydd wedi'i ddiogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Os nad ydych wedi nodi mwy o effaith ar y grwpiau a restrir nag ar y boblogaeth gyffredinol, dylech ddewis 'Dim/Fawr Ddim'.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hoedran?
Plant a Phobl Ifanc hyd at 18 oed
- Cadarnhaol
Pobl 18-50
- Dim/Fawr Ddim
Pobl hŷn 50+
- Dim/Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Effeithiau cadarnhaol
- Mae darpariaethau diogelu a bregusrwydd yn cefnogi’r rhai sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio.
- Mae canllawiau cyflogi plant yn helpu i atal amodau gwaith anghyfreithlon neu anniogel.
- Mae darpariaethau gwerthiannau dirprwyol yn amddiffyn pobl ifanc rhag niwed.
Effeithiau negyddol
- Dim a rhagwelir.
Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi hyn?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Nid oes unrhyw effeithiau negyddol disgwyliedig.
Bydd gweithredu Cyfraith Martyn yn cynnwys camau i sicrhau nad yw ei chymhwyso yn arwain at wahaniaethu anghyfreithlon.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu hanabledd?
Amhariad ar y clyw
- Dim/Fawr Ddim
Amhariad corfforol
- Dim/Fawr Ddim
Amhariad ar y golwg
- Dim/Fawr Ddim
Anabledd Dysgu
- Dim/Fawr Ddim
Salwch hirdymor
- Dim/Fawr Ddim
Iechyd Meddwl
- Dim/Fawr Ddim
Arall
- Dim/Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Dim a rhagwelir.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol yn hyn o beth.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n drawsryweddol?
Menywod Traws
- Dim/Fawr Ddim
Dynion Traws
- Dim/Fawr Ddim
Pobl Anneuaidd
- Dim/Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Effaith dibwys yn hyn o beth.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol yn hyn o beth.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol gyfeiriadedd rhywiol?
Pobl Ddeurywiol
- Dim / Fawr Ddim
Dynion Hoyw
- Dim / Fawr Ddim
Menywod hoyw / lesbiaid
- Dim / Fawr Ddim
Pobl Heterorywiol
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Effaith dibwys yn hyn o beth.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol yn hyn o beth.
Ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil?
Pobl sy'n briod
- Dim / Fawr Ddim
Pobl mewn partneriaeth sifil
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Effaith dibwys yn hyn o beth.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol yn hyn o beth.
A ydych chi’n meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy’n feichiog neu ar absenoldeb mamolaeth?
Beichiogrwydd
- Dim / Fawr Ddim
Mamolaeth
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Effaith dibwys yn hyn o beth.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu y byddai'r grŵp hwn yn cael ei effeithio'n wahanol i unrhyw grŵp arall.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
A ydych yn meddwl y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl oherwydd eu tarddiad ethnig?
Asiaidd / Asiaidd Prydeinig
- Dim / Fawr Ddim
Du / Affricanaidd / Caribïaidd / Du Prydeinig
- Dim / Fawr Ddim
Grwpiau Ethnig Cymysg/ Aml-ethnig
- Dim / Fawr Ddim
Gwyn
- Dim / Fawr Ddim
Grwpiau ethnig eraill
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Effaith dibwys yn hyn o beth.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol yn hyn o beth.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl â gwahanol grefyddau, credoau neu ddim cred?
Bwdhaidd
- Dim / Fawr Ddim
Cristion
- Dim / Fawr Ddim
Hindŵaidd
- Dim / Fawr Ddim
Dyneiddiwr
- Dim / Fawr Ddim
Iddewig
- Dim / Fawr Ddim
Mwslim
- Dim / Fawr Ddim
Sikh
- Dim / Fawr Ddim
Pobl heb gred
- Dim / Fawr Ddim
Eraill
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Effaith dibwys yn hyn o beth.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol yn hyn o beth.
Ydych chi’n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar ddynion neu fenywod?
Dynion
- Dim / Fawr Ddim
Menywod
- Cadarnhaol
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Effaith ddibwys yn hyn o beth ar ddynion.
Gall y darpariaethau diogelu a bregusrwydd bwysleisio'r angen i fangreoedd trwyddedig sicrhau eu bod yn cyflwyno mesurau i gefnogi menywod y mae'n cael eu hawgrymu sy'n fwy tebygol o fod yn destun sbeicio diodydd.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Spiking: factsheet - GOV.UK (wefan allanol, Saesneg yn unig): Mewn arolwg YouGov ym mis Rhagfyr 2022, dywedodd 10% o fenywod a 5% o ddynion eu bod wedi cael eu sbeicio.
Drink Spiking Report | Drinkaware (wefan allanol, Saesneg yn unig): Roedd 9% o ddynion a 13% o fenywod yn nodi eu bod yn meddwl eu bod erioed wedi bod yn ddioddefwyr sbeicio diodydd.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol yn hyn o beth.
A ydych yn credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl o Gymuned y Lluoedd Arfog?
Aelodau o'r Lluoedd Arfog
- Dim / Fawr Ddim
Cyn-filwyr
- Dim / Fawr Ddim
Gwŷr/gwragedd
- Dim / Fawr Ddim
Plant
- Cadarnhaol
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Mae'n debygol y bydd y darpariaethau i bwysleisio gwerthiannau dirprwyol a chyfrifoldebau cyflogi plant yn cael effaith gadarnhaol uniongyrchol ar blant.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol yn hyn o beth.
Dyletswydd economaidd-gymdeithasol
Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn golygu byw ar incwm isel o'i gymharu ag eraill yng Nghymru, gydag ychydig neu ddim cyfoeth cronedig, sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau sylfaenol.
Mae cefndir teuluol neu lle mae person yn cael ei eni yn dal i effeithio ar ei fywyd. Er enghraifft, mae plentyn o deulu cyfoethog yn aml yn gwneud yn well yn yr ysgol na phlentyn o deulu tlawd, hyd yn oed os yw'r plentyn tlotach yn fwy naturiol academaidd. Gelwir hyn weithiau yn anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol.
Ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar bobl sy'n profi anfantais economaidd-gymdeithasol?
- Dim / Fawr Ddim
Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol
Effaith dibwys yn hyn o beth.
Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
A oes cyfle i ddefnyddio'r cynnig hwn i gael gwared â gwahaniaethu anghyfreithlon, hyrwyddo cyfle cyfartal neu annog cysylltiadau da rhwng pobl yn y grŵp hwn a gweddill y boblogaeth?
Ni ragwelir unrhyw effeithiau negyddol yn hyn o beth.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru o Gymunedau Cydlynus
Cymdeithas gyda chymunedau deniadol, hyfyw, diogel, sydd â chysylltiadau da.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Effeithiau cadarnhaol
- Gall darpariaethau ar gyfer gerddi cwrw a digwyddiadau ar raddfa fawr gyfrannu at reoli sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Mae Cyfraith Martyn a diweddariadau diogelwch personol yn hyrwyddo mannau cyhoeddus mwy diogel.
Effeithiau negyddol
- Gall rhai grwpiau cymunedol neu fusnesau ystyried rheolaethau llymach yn gyfyngol.
- Potensial am fwy o gwynion neu gamau gorfodi yn ystod y cyfnod pontio.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?
Sicrhau bod unrhyw reolaethau newydd yn cael eu cymhwyso'n deg ac yn dryloyw, gyda'r nod o gymhwyso'r rheolaethau hyn yn gymesur ar draws y sector trwyddedig.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn amddiffyn diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Effeithiau cadarnhaol
- Gall diweddariadau polisi trwyddedu gefnogi digwyddiadau a lleoliadau diwylliannol yn anuniongyrchol.
- Mae gofynion iaith Gymraeg (os ydynt wedi'u hymgorffori mewn cyfathrebu trwyddedu) yn hyrwyddo dwyieithrwydd.
Effeithiau negyddol
- Dim darpariaethau newydd penodol yn y polisi ynglŷn â hyrwyddo'r Gymraeg neu’r diwylliant.
- Risg o golli cyfle os nad yw'r Gymraeg yn cael ei hystyried yn weithredol wrth weithredu.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at yr egwyddor hon?
Sicrhau bod Safonau'r Gymraeg yn cael eu bodloni wrth weithredu'r elfennau newydd.
Gan gyfeirio at y canlynol, a ydych chi'n credu y bydd y cynnig hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar y Gymraeg?
Cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg
- Dim / Fawr Ddim
Trin y Gymraeg, dim llai ffafriol na'r Saesneg
- Dim / Fawr Ddim
Pa dystiolaeth sydd gennych i gefnogi'r safbwynt hwn?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gamau y gallwch eu cymryd i gynyddu'r effaith gadarnhaol neu liniaru unrhyw effaith negyddol ar y Gymraeg?
Fel uchod, sicrhau bod Safonau'r Gymraeg yn cael eu bodloni wrth weithredu'r elfennau newydd.
Nod Llesiant Cenedlaethol: Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cymdeithas sy'n ystyried sut y gallai ein gweithredoedd effeithio ar wledydd a phobl eraill ledled y byd.
Ydy’r cynnig yn cyfrannu at y nod hwn? Disgrifiwch yr effeithiau cadarnhaol neu negyddol.
Effeithiau cadarnhaol
- Mae mesurau ailgylchu a chynaliadwyedd yn cyd-fynd â nodau amgylcheddol byd-eang.
- Mae Cyfraith Martyn yn adlewyrchu safonau rhyngwladol ar wrthderfysgaeth a diogelwch y cyhoedd.
Effeithiau negyddol
- Gall mwy o faich rheoleiddio fod yn heriol i leoliadau llai.
Pa dystiolaeth sydd gennych i ategu’r farn hon?
Mae'r rhain yn ddadleuon rhesymegol a bydd effeithiau'r newidiadau yn cael eu mesur dros amser yn unig.
Pa gam(au) allwch chi ei gymryd/eu cymryd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol neu i gyfrannu’n well at y nod?
Sicrhau bod y canllawiau mor glir â phosibl a chefnogi trwyddedai presennol neu rai yn y dyfodol sy'n dymuno'n gadarnhaol at gydymffurfiaeth lawn.
Cryfhau’r Cynnig
Os ydych wedi nodi unrhyw effeithiau negyddol yn yr adrannau uchod, rhowch fanylion am unrhyw newidiadau a chamau gweithredu ymarferol a allai helpu i ddileu neu leihau'r effeithiau negyddol.
Beth fyddwch chi'n ei wneud? | Pryd? | Pwy sy'n gyfrifol? | Cynnydd |
Sicrhau bod canllawiau mor glir â phosibl ac yn cefnogi trwyddedwyr presennol neu rhai newydd yn y dyfodol sy’n dymuno anelu at gydymffurfiaeth lawn. | Wrth fabwysiadu’r polisi newydd. | Gwasanaeth Trwyddedu | |
Sicrhau bod Safonau'r Gymraeg yn cael eu bodloni wrth weithredu'r elfennau newydd. | Wrth fabwysiadu’r polisi newydd. | Gwasanaeth Trwyddedu a'r Swyddog Polisi Iaith | |
Sicrhau bod unrhyw reolaethau newydd yn cael eu cymhwyso'n deg ac yn dryloyw, gyda'r nod o gymhwyso'r rheolaethau hyn yn gymesur ar draws y sector trwyddedig. | Wrth fabwysiadu’r polisi newydd. | Gwasanaeth Trwyddedu |
Os na chymerir camau i ddileu neu liniaru effeithiau negyddol, a fyddech cystal â chyfiawnhau pam. (Os ydych wedi nodi unrhyw wahaniaethu anghyfreithlon yna mae’n rhaid newid neu ddiwygio’r cynnig.)
Amherthnasol.
Sut fyddwch chi'n monitro effaith ac effeithiolrwydd y cynnig?
Bydd y gweithrediad yn destun adroddiad i'r Pwyllgor Trwyddedu ac, lle bo angen, pwyllgorau craffu.
Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: 5 Ffordd o Weithio
Disgrifiwch isod sut rydych wedi gweithredu'r pum ffordd o weithio yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Hirdymor
Sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr ac anghenion tymor hir a’r angen i gynllunio ar gyfer y dyfodol.
- Mae Cyfraith Martyn a darpariaethau diogelwch personol yn helpu i atal niwed yn y dyfodol a gwella hyder y cyhoedd mewn lleoliadau trwyddedig.
- Mae gofynion ailgylchu yn y gweithle yn cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol hirdymor.
- Mae amodau model a chanllawiau cliriach yn lleihau beichiau gweinyddol ac anghydfodau cyfreithiol yn y dyfodol.
Cydweithio
Cydweithio â phartneriaid eraill i gyflawni canlyniadau.
Yn benodol:
- Mae Cyfraith Martyn a darpariaethau diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau trwyddedu, gwasanaethau brys, a gweithredwyr lleoliadau gynllunio ar y cyd.
- Mae rheolaethau digwyddiadau ar raddfa fawr yn hyrwyddo ymdrechion cydlynol gyda threfnwyr digwyddiadau, yr heddlu, a thimau iechyd amgylcheddol.
Cynnwys
Cynnwys pobl sydd â buddiant a gofyn am eu barn.
- Mae'r broses asesu effaith ac ymgynghori hon yn estyn allan i'r rhai sydd â diddordeb ac yn ceisio eu barn.
Atal
Darparu adnoddau i atal problemau rhag codi neu waethygu.
- Mae darpariaethau gwerthu dirprwyol a chyflogi plant yn helpu i atal yfed dan oed a chyflogaeth anghyfreithlon.
- Mae rheolaethau digwyddiadau ar raddfa fawr yn helpu i atal cwynion sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
- Mae diweddariadau goruchwylwyr safle dynodedig yn sicrhau atebolrwydd ac yn lleihau risgiau rheolaeth wael.
Integreiddio
Ystyried effaith eich cynnig ar bedwar piler llesiant (cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a'r amgylchedd), amcanion cyrff cyhoeddus eraill ac ar draws meysydd gwasanaeth yn y Cyngor.
Mae’r newidiadau’n effeithio ar:
- Llesiant cymdeithasol: drwy ddiogelu a diogelwch cymunedol.
- Llesiant economaidd: drwy gefnogi gweithrediadau busnes cydymffurfiol.
- Llesiant amgylcheddol: drwy fesurau ailgylchu a chynaliadwyedd.Llesiant diwylliannol: drwy gefnogaeth bosibl i'r iaith Gymraeg a digwyddiadau lleol.
Risg
Crynhowch y risg sy'n gysylltiedig â'r cynnig.
1 | 2 | 3 | 4 | 5 | |
Meini prawf asesu effaith |
Isel iawn | Isel | Canolig | Uchel | Uchel iawn |
Meini prawf asesu tebygolrwydd |
Annhebygol o ddigwydd | Llai tebygol o ddigwydd | Yr un mor debygol o ddigwydd ag o beidio digwydd | Mwy tebygol o ddigwydd | Tebygol o ddigwydd |
Disgrifiad o'r Risg | Effaith | Tebygolrwydd | Sgôr (Effaith x Tebygolrwydd) |
Mwy o faich rheoleiddio, yn enwedig o ran Cyfraith Martyn a gofynion ailgylchu yn y gweithle. | 1 | 5 | 5 |
Gweithredu anghyson. | 2 | 2 | 4 |
Rheoli Data
A fydd y cynnig yn golygu unrhyw newid newydd neu arwyddocaol i ddulliau prosesu data presennol?
Dim newid newydd neu sylweddol.