Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Etholiad Senedd Cymru – 7 Mai 2026: Etholaeth Ceredigion Penfro

Gwybodaeth i’r ymgeiswyr a’r asiantiaid

Sesiynau briffio

Bydd Eifion Evans, y Swyddog Canlyniadau, yn cynnal sesiynau briffio cyn ac ar ôl y cyfnod enwebu:

  • Y cyfnod cyn-enwebu – bydd y Swyddog Canlyniadau yn darparu gwybodaeth bwysig am y broses enwebu, gan gynnwys gwybodaeth am daliadau ernes, ymgyrchu, gwariant a rhoddion.

Cynhelir y sesiwn briffio ar 26 Chwefror 2026 am 5.30pm. I ymuno’r sesiwn briffio:
Ymuno â’r cyfarfod nawr
ID Cyfarfod: 319 095 352 125 67
Cod cyfrin: nZ73jY28
Cysylltwch â CRO-SCE@ceredigion.gov.uk os ydych am rhagor o wybodaeth.

  • Y cyfnod ar ôl enwebu – bydd y Swyddog Canlyniadau yn rhannu gwybodaeth ynghylch y broses a’r amserlen ar gyfer pleidleisiau post, diwrnod yr etholiad a chyfrif y pleidleisiau.

Cynhelir y sesiwn briffio ar 13 Ebrill 2026 am 5.30pm.

Y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig - ymgeiswyr anabl 

Gall ymgeiswyr anabl ar gyfer y Senedd neu Lywodraeth Leol nawr wneud cais am gyllid o dan y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig, a weithredir gan Anabledd Cymru. Diben y cyllid yw helpu ymgeiswyr anabl gyda chostau ychwanegol, anochel - fel trafnidiaeth hygyrch, offer arbenigol, neu gymorth personol. Mae’n cynnwys:

  • Help i nodi'r cymorth angenrheidiol.
  • Cymorth i gwblhau ceisiadau.
  • Asesiad teg o geisiadau i sicrhau tegwch.
  • Darparu cyllid neu wasanaethau cymeradwy.

Mae'r gronfa yn darparu cymorth ariannol i ymgeiswyr anabl sydd â chostau sy'n gysylltiedig ag amhariad, gan gynnwys cyllid ar gyfer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain, cynorthwywyr personol, trafnidiaeth hygyrch, a thechnoleg gynorthwyol. Mae'r gronfa yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gweithredu gan Anabledd Cymru, gan sicrhau bod y cynllun yn cael ei weinyddu'n annibynnol gyda didueddrwydd a chyfrinachedd. Bydd y cynllun yn cynorthwyo ymgeiswyr trwy gydol cyfnod yr etholiad - o enwebu i gyhoeddi canlyniadau. 

Gall ymgeiswyr wneud cais drwy Anabledd Cymru neu lawrlwythwch y ffurflen gais yma. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn 

Canllawiau ac adnoddau ar gyfer yr ymgeiswyr a’u hasiantiaid

Mae gan y Comisiwn Etholiadol wybodaeth ddefnyddiol os ydych chi’n ystyried sefyll yn yr etholiad, gan gynnwys gwybodaeth am bwy sy’n gymwys i sefyll mewn etholiad.

Enwebiadau

Mae ffurflenni enwebu a gwybodaeth am y broses enwebu ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Noder – bydd gwahaniaethau yn y ffurflenni enwebu os ydych chi’n ymgeisydd ar restr plaid neu’n ymgeisydd unigol. Cyfeiriwch at wefan y Comisiwn Etholiadol am restr lawn o’r gofynion ar gyfer y broses enwebu.

Bydd enwebiadau’n cael eu derbyn o 24 Mawrth 2026 hyd at 4.00pm, 9 Ebrill 2026 (ac eithrio ar benwythnosau a Gwyliau’r Banc).

Gwirio’r Papurau Enwebu’n Anffurfiol

 Byddwn yn cynnig gwirio papurau enwebu yn anffurfiol cyn i chi eu cyflwyno’n swyddogol.

 Gallwch anfon eich papurau enwebu ddrafft dros e-bost i CRO-SCE@ceredigion.gov.uk er sylwadau.

Cyflwyno eich Papurau Enwebu

Gallwch gyflwyno eich ffurflenni enwebu wyneb yn wyneb neu’n electronig:

  • Wyneb yn wyneb – gellir trefnu apwyntiadau rhwng 9.00am a 5.00pm i gyflwyno’r papurau enwebu. Gellir trefnu apwyntiadau drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon e-bost i CRO-SCE@ceredigion.gov.uk
  • Yn electronig –
    • Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu drwy anfon e-bost i CRO-SCE@ceredigion.gov.uk ;
    • Ni dderbynnir enwebiadau os cânt eu cyflwyno i gyfeiriad e-bost gwahanol;
    • Dylai llinell pwnc yr e-bost nodi’n glir beth yw enw’r blaid gofrestredig neu enw’r ymgeisydd unigol;
    • Wedi i ni dderbyn y papurau, byddwn yn anfon e-bost i gydnabod ein bod wedi eu derbyn. Ni fydd yr e-bost hwnnw’n cadarnhau bod yr enwebiad yn ddilys;
    • Bydd e-bost arall yn cael ei anfon i gadarnhau a yw’r enwebiad yn ddilys neu a oes unrhyw broblemau o ran yr wybodaeth a gyflwynwyd;
    • Bydd angen i’r taliadau ernes priodol gael eu gwneud cyn y ceir cadarnhad bod yr enwebiad wedi’i gadarnhau fel un dilys;
    • Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau bod y papurau enwebu wedi eu cyflwyno a bod eu dilysrwydd wedi ei gadarnhau, a hynny heb fod yn hwyrach na 4.00p.m. ar 9 Ebrill 2026.

Talu’r Ernes

Gellir talu’r ernes i’r Swyddog Canlyniadau erbyn 4.00pm ddydd Iau, 9 Ebrill 2026, drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol, drafft banc (banciau sy’n weithredol yn y Deyrnas Unedig yn unig) neu ar ffurf arian parod (punnoedd Prydeinig yn unig). Mae'r taliadau ernes sydd eu hangen fel a ganlyn:

  • Ymgeisydd unigol –  ernes o £500.00;
  • Ymgeiswyr rhestr plaid – ernes o £500.00 ar gyfer yr ymgeisydd cyntaf ar restr y blaid; ac ernes o £200.00 ar gyfer pob un o'r pum ymgeisydd nesaf sy'n ymddangos ar restr y blaid gofrestredig.

Ni fydd y Swyddog Canlyniadau yn derbyn eich papurau enwebu oni bai eich bod wedi talu’r ernes cywir.

Fforffedu’r ernes

  • Bydd ernes ymgeisydd unigol yn cael ei fforffedu os, ar ôl cyfrif y pleidleisiau, y caiff lai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth.
  • Bydd ernes plaid wleidyddol gofrestredig yn cael ei fforffedu os, ar ôl cyfrif y pleidleisiau, y caiff lai na 5% o gyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth. 

Cod ymddygiad i ymgyrchwyr

Mae ymgyrchwyr yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth iach, a dylid cefnogi a diogelu eu hawl i gyflwyno eu dadleuon i bleidleiswyr. Fodd bynnag, mae yr un mor bwysig sicrhau nad yw gweithgareddau ymgyrchwyr yn codi amheuaeth ynghylch uniondeb y broses etholiadol. 

Ceir manylion pellach ar wefan y Comisiwn Etholiadol

Dyddiadau pwysig

Digwyddiad Nifer y dyddiau gwaith cyn yr etholiad (amser cau os nad yw’n ganol nos) Dyddiad (amser cau os nad yw’n ganol nos)

Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad

Heb fod yn llai na 25 o ddiwrnodau

Dydd Llun, 23 Mawrth

Cyflwyno papurau enwebu

Unrhyw ddiwrnod ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad tan 4pm ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn diwrnod yr etholiad

O 24 Mawrth tan 4pm ddydd Iau 9 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu

19 diwrnod (4pm)

4pm ddydd Iau 9 Ebrill

Gwneud gwrthwynebiadau i’r papur enwebu

19 diwrnod (5pm) cyn yr etholiad, yn amodol ar y canlynol:

Cyn 12 canol dydd gellir gwneud gwrthwynebiadau i bob enwebiad a gyflwynwyd erbyn 4pm, 20 diwrnod cyn yr etholiad.

Rhwng 12 canol dydd a 5pm, dim ond i enwebiadau a gyflwynwyd ar ôl 4pm, 20 diwrnod cyn yr etholiad y gellir gwneud gwrthwynebiadau.




Cyn 12 canol dydd, ddydd Iau 9 Ebill, gellir gwneud gwrthwynebiadau i bob enwebiad a gyflwynwyd erbyn 4pm ddydd Mercher 8 Ebrill.

Rhwng 12 canol dydd a 5pm ddydd Iau 9 Ebrill, dim ond i enwebiadau a gyflwynwyd ar ôl 4pm ddydd Mercher 8 Ebrill y gellir gwneud gwrthwynebiadau.

Y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl

19 diwrnod (4pm)

4pm ddydd Iau 9 Ebrill

Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiad

19 diwrnod

Dydd Iau 9 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi

Dim hwyrach na 18 diwrnod (4pm)

Dim hwyrach na 4pm ddydd Gwener 10 Ebrill

Cyhoeddi datganiad am y sawl a enwebwyd, gan gynnwys hysbysiad o etholiad a lleoliad y gorsafoedd pleidleisio

Dim hwyrach na 18 diwrnod (4pm)

Dim hwyrach na 4pm ddydd Gwener 10 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru

12 diwrnod

Dydd Llun 20 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes

11 diwrnod (5pm)

5pm ddydd Mawrth 21 Ebrill

Cyhoeddi’r ail hysbysiad interim o newid i etholiad

Rhwng 18 diwrnod a 6 diwrnod

Dydd Mercher 22 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidleisiau dirprwy drwy’r post na phleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng)

6 diwrnod (5pm)

5pm ddydd Mawrth 28 Ebrill

Cyhoeddi’r hysbysiad olaf o newid i etholiad

5 diwrnod

Dydd Mercher 29 Ebrill

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio ac asiantiaid cyfrif wedi’u penodi.

5 diwrnod

Dydd Mercher 29 Ebrill

Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwyd

4 diwrnod

Dydd Iau 30 Ebrill

Y dyddiau cau ar gyfer penodi is-asiantiaid

2 ddiwrnod

Dydd Mawrth 5 Mai

Diwrnod yr etholiad

0 (7am tan 10pm)

7am tan 10pm ddydd Iau 7 Mai

Yr amser olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd

0 (5pm)

5pm ddydd Iau 7 Mai

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng

0 (5pm)

5pm ddydd Iau 7 Mai

Yr amser olaf y gellir newid y gofrestr oherwydd gwall clerigol neu apêl gan y llys

0 (9pm)

9pm ddydd Iau 7 Mai

Dilysu a chyfrif

 

9am ddydd Gwener 8 Mai

Manylion Cyswllt

Os ydych chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Canlyniadau drwy e-bostio CRO-SCE@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.