Crëwyd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, a chynhaliwyd yr etholiad cyntaf yn 2012 ac yna yn 2016.
Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2021, ar ôl ei ohirio yn 2020 oherwydd y coronafeirws. Fel arfer mae tymor y swydd yn bedair blynedd, ond oherwydd i’r etholiad gael ei ohirio, mae'r tymor hwn wedi bod yn gyfnod o dair blynedd.
Mae pedair Ardal Heddlu yng Nghymru, gyda phob ardal yn ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Y pedair ardal heddlu yng Nghymru yw:
- Dyfed-Powys
- Gwent
- Gogledd Cymru
- De Cymru.
Rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am y canlynol:
- Dwyn yr Heddlu i gyfrif
- Penodi Prif Gwnstabliaid a’u diswyddo (os bydd angen)
- Pennu cyllidebau’r heddlu
- Pennu faint o Dreth y Cyngor y bydd pobl yn ei thalu tuag at waith yr heddlu
- Pennu blaenoriaethau’r heddlu ar gyfer yr ardal leol
- Goruchwylio’r modd yr eir i’r afael â throseddu yn yr ardal a gosod targedau i sicrhau bod yr heddlu’n darparu gwasanaeth da
- Cyfarfod ac ymgynghori’n rheolaidd â’r cyhoedd, er mwyn gwrando ar eu barn am waith yr heddlu
- Creu Cynllun yr Heddlu a Throseddu sy’n amlinellu blaenoriaethau lleol yr heddlu
- Penderfynu sut y caiff y gyllideb ei gwario.
Gair am yr etholiad
Mae Ardal Heddlu Dyfed-Powys yn cynnwys pedwar ardal bleidleisio ac mae Swyddog Canlyniadau Lleol ar gyfer pob un:
- Sir Gâr
- Ceredigion
- Sir Benfro
- Powys.
Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu Dyfed-Powys yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024 ac mae’n gyfrifol am y modd y cynhelir yr etholiad, gan gynnwys y dyletswyddau canlynol:
- Cysylltu â’r Swyddogion Canlyniadau Lleol yn Ardal Heddlu Dyfed-Powys
- Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad
- Gweinyddu’r broses enwebu
- Cyhoeddi datganiad y sawl a enwebwyd a’r hysbysiad o bleidlais
- Hybu cyfranogiad
- Sicrhau bod cynnwys anerchiadau etholiadol yr ymgeiswyr a’r gweithdrefnau i gyflwyno’r anerchiadau hynny yn cydymffurfio â’r gofynion
- Coladu a chyfrifo nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a chyfrifo'r canlyniad
- Datgan y canlyniad.
Mae pob Swyddog Canlyniadau Lleol yn gyfrifol am y materion canlynol yn ei ardal bleidleisio:
- Hybu cyfranogiad
- Darparu gorsafoedd pleidleisio
- Argraffu papurau pleidleisio
- Sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu’n effeithiol
- Penodi staff ar gyfer gorsafoedd pleidleisio
- Rheoli’r broses o bleidleisio drwy’r post
- Rheoli’r broses ar gyfer dogfennau adnabod pleidleiswyr
- Y prosesau ar gyfer dilysu a chyfrif pleidleisiau yn yr ardal bleidleisio
- Trosglwyddo’r cyfansymiau lleol i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.
Sefyll yn yr etholiad
Sesiwn Briffio ar gyfer Ymgeiswyr ac Asiantiaid
Cynhaliwyd sesiwn briffio ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar 27 Chwefror 2024, cyn cyhoeddi’r Hysbysiad o Etholiad.
Briffio ymgeiswyr ac asiantiaid
Er mwyn cael gwybodaeth bellach, cysylltwch â ni drwy e-bostio RRO-PARO@ceredigion.gov.uk
Cynhelir sesiwn briffio arall ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar ôl dyddiad cau’r enwebiadau. Byddwch yn cael gwybod am y dyddiad a’r amser pan fyddwch chi’n ymgeisydd swyddogol.
Canllawiau ac adnoddau ar gyfer ymgeiswyr a’u hasiantiaid
Mae gan y Comisiwn Etholiadol wybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol ar eich cyfer os ydych yn bwriadu sefyll yn yr etholiad, gan gynnwys eich cymhwysedd i sefyll etholiad.
Papurau Enwebu
Mae papurau enwebu ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Cwblhau eich papurau enwebu | Electoral Commission
Fe fydd rhaid i chi argraffu’r ffurflenni cyn eu cyflwyno a pan fo angen llofnodion, sicrhewch eich bod yn cyflwyno’r fersiwn wreiddiol a lofnodwyd ar gyfer pob papur a gwblhawyd. Ni ellir derbyn dogfennau heb lofnodion gwreiddiol.
Bydd angen i chi gyflwyno’r ffurflenni canlynol yn bersonol (drwy llaw):
- Ffurflen enwebu
- Ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd
- Cydsyniad ymgeisydd i enwebiad.
Os ydych yn sefyll fel ymgeisydd plaid, bydd angen i chi gyflwyno’r ffurflenni canlynol yn bersonol (drwy llaw) neu drwy’r post:
- Tystysgrif awdurdodi
- Cais am arwyddlun plaid
Fe fydd hefyd rhaid i chi gyflwyno’r ffurflenni canlynol yn bersonol (drwy llaw) neu drwy’r post:
- Hysbysiad o asiant etholiad
- Hysbysiad o is-asiant.
Gwirio Papurau Enwebu’n Anffurfiol
Byddwn yn cynnig gwirio papurau enwebu’r ymgeiswyr yn anffurfiol cyn i chi eu cyflwyno’n swyddogol. Darperir rhagor o wybodaeth yn y sesiwn briffio ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid.
Argymhellir hyn yn gryf fel y gallwn wirio bod eich tanysgrifwyr wedi'u cofrestru i bleidleisio yn ardal bleidleisio Dyfed Powys (h.y. yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Bowys) cyn i chi gyflwyno eich papurau enwebu yn ffurfiol.
Cyflwyno eich Papurau Enwebu
Dylid gwneud apwyntiad i gyflwyno’r papurau enwebu. Bydd apwyntiadau ar gael rhwng 10.00am a 4.00pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith rhwng 26 Mawrth a 5 Ebrill 2024.
Gellir gwneud apwyntiad drwy e-bostio RRO-PARO@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.
Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA.
Wrth gyflwyno eich papurau enwebu, caniatewch 90 munud neu fwy i gynnal y gwiriadau tanysgrifiwr cyn yr apwyntiad enwebu ffurfiol.
Talu’r ernes
Gellir talu’r ernes ar gyfer pob ymgeisydd, sef swm o bum mil o bunnoedd (£5,000.00) i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4.00pm ddydd Gwener, 5 Ebrill 2024, drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol, drafft banc (banciau sy’n weithredol yn y Deyrnas Unedig yn unig) neu drwy arian parod (punnoedd Prydain yn unig).
Os ydych chi’n bwriadu talu drwy drosglwyddiad banc, bydd yn rhaid bod yr ernes wedi cyrraedd y cyfrif banc cyn y gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu dderbyn eich enwebiad.
Rhagor o wybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid
Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn cyn bo hir ynglŷn â’r sesiynau agor pleidleisiau drwy’r post, y gweithdrefnau dilysu a chyfrif ac ati.
Dyddiadau pwysig
Digwyddiad |
Nifer y dyddiau gwaith cyn yr etholiad (yr amser cau fydd hanner nos oni nodir yn wahanol) |
Dyddiad (yr amser cau fydd hanner nos oni nodir yn wahanol) |
Cyhoeddi hysbysiad o etholiad |
Heb fod yn fwy na 25 diwrnod |
Dydd Llun, 25 Mawrth 2024 |
Cyflwyno papurau enwebu |
Rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad tan 4pm ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn y diwrnod pleidleisio |
Rhwng dydd Mawrth, 26 Mawrth – 4pm, dydd Gwener, 5 Ebrill 2024 |
Y dyddiad cau ar gyfer dosbarthu papurau enwebu |
19 diwrnod (4pm) |
Dydd Gwener, 5 Ebrill 2024 |
Cyflwyno gwrthwynebiadau i bapurau enwebu |
19 diwrnod (rhwng 10am a 5pm), yn amodol ar y canlynol: Rhwng 10am a 12 canol dydd, gellir cyflwyno gwrthwynebiadau i bob enwebiad a gyflwynwyd
|
Rhwng canol dydd a 5pm ar ddydd Gwener, 5 Ebrill 2024 |
Y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl |
19 diwrnod (4pm) |
4pm dydd Gwener, 5 Ebrill 2024 |
Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi |
19 diwrnod (4pm) |
4pm dydd Gwener, 5 Ebrill 2024 |
Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiad |
19 diwrnod |
Dydd Gwener, 5 Ebrill 2024 |
Cyhoeddi datganiad o’r bobl a enwebwyd |
Dim hwyrach na 18 diwrnod (4pm) |
Dim hwyrach na 4pm, dydd Llun, 8 Ebrill 2024 |
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru |
12 diwrnod |
Dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024 |
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais drwy ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes |
11 diwrnod (5pm) |
5pm dydd Mercher, 17 Ebrill 2024 |
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidlais drwy ddirprwy drwy’r post na phleidlais argyfwng drwy ddirprwy) |
6 diwrnod (5pm) |
5pm dydd Mercher, 24 Ebrill 2024 |
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr |
6 diwrnod (5pm) |
5pm dydd Mercher, 24 Ebrill 2024 |
Cyhoeddi’r ail hysbysiad interim o newid i etholiad |
Rhwng 18 diwrnod a 6 diwrnod |
Rhwng dydd Llun, 8 Ebrill a dydd Mercher, 24 Ebrill 2024 |
Cyhoeddi hysbysiad o bleidlais |
Dim hwyrach na 6 diwrnod |
Dim hwyrach na dydd Mercher, 24 Ebrill 2024 |
Cyhoeddi’r hysbysiad olaf o newid i etholiad |
5 diwrnod |
Dydd Iau, 25 Ebrill 2024 |
Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio, asiantiaid cyfrif ac is-asiantiaid wedi’u penodi |
5 diwrnod |
Dydd Iau, 25 Ebrill 2024 |
Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwyd |
4 diwrnod |
Dydd Gwener, 26 Ebrill 2024 |
Diwrnod pleidleisio
|
0 (rhwng 7am a 10pm) |
Rhwng 7am a 10pm dydd Iau, 2 Mai |
Y tro olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd |
0 (5pm) |
5pm dydd Iau, 2 Mai |
Y dyddiad cau am geisiadau am bleidlais argyfwng drwy ddirprwy |
0 (5pm) |
5pm dydd Iau, 2 Mai |
Y tro olaf y gellir newid y gofrestr o ganlyniad i wall clerigol neu apêl gan y llys |
0 (9pm) |
9pm dydd Iau, 2 Mai |