Mae Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn digwydd bob pedair blynedd. Roedd yr etholiadau i fod i ddigwydd yn 2020, fodd bynnag, oherwydd COVID-19, cafodd yr etholiadau eu gohirio tan 2021. Golyga hyn y bydd yr etholiadau eleni yn cael eu cynnal dair blynedd ar ôl y rhai diwethaf.

Mae Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn digwydd bob pedair blynedd. Roedd yr etholiadau i fod i ddigwydd yn 2020, fodd bynnag, oherwydd COVID-19, cafodd yr etholiadau eu gohirio tan 2021. Golyga hyn y bydd yr etholiadau eleni yn cael eu cynnal dair blynedd ar ôl y rhai diwethaf.

Cynrychiolwyr etholedig yw Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu sy’n goruchwylio sut yr ymdrinnir â throsedd mewn ardal heddlu.  Eu nod yw lleihau trosedd a sicrhau bod yr heddlu yn effeithiol.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r etholiad a’r ymgeiswyr, ewch i www.dewisfynghhth.org.uk

Cyngor Sir Ceredigion yw’r awdurdod arweiniol, ac felly Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion fydd Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu Dyfed-Powys, sy’n cynnwys Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.

Mae etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn defnyddio system y cyntaf i’r felin.

Dim ond dros un ymgeisydd y gallwch chi bleidleisio, a hynny drwy roi croes [X] yn y blwch nesaf at eich dewis.

Bydd pob awdurdod lleol yn cyfrif ei bleidleisiau ei hunan ac yn cyflwyno’r rhain i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu. Pan fydd yr holl ganlyniadau wedi’u casglu, bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn datgan pwy sydd wedi ei ethol ar gyfer ardal Heddlu Dyfed-Powys a chyhoeddir y canlyniad ar y wefan hon.  Bydd hyn yn digwydd ddydd Gwener, 3 Mai 2024.

Pwy sy’n cael pleidleisio yn yr Etholiad hwn?

 Ar gyfer Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae’n rhaid eich bod:

  • Wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ewch i https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
  • Yn 18 oed neu’n hŷn ar 2 Mai 2024.
  • Yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, yr Undeb Ewropeaidd neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad*.

* Dinesydd cymwys o’r Gymanwlad yw rhywun sydd â’r hawl i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros yn y Deyrnas Unedig neu rywun nad oes angen hawl o’r fath arno/arni.  Gellir dod o hyd i restr o’r gwledydd cymwys, Tiriogaethau Dibynnol ar Goron Prydain a Thiriogaethau Tramor Prydeinig ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Pleidleiswyr sy’n fyfyrwyr

Gall myfyrwyr addysg uwch fod yn gymwys i gofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriad cartref a’u cyfeiriad prifysgol/coleg os ydynt mewn dau awdurdod lleol gwahanol.  

Gallant bleidleisio mewn etholiadau lleol yn y ddwy ardal gan y byddent yn pleidleisio mewn dau etholiad gwahanol. Bydd angen iddynt ystyried a ydynt yn mynd i gofrestru yn y ddwy ardal ac a ydynt am wneud cais am bleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy, yn ôl yr angen. Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan y Comisiwn Etholiadol.  

Pwy na all bleidleisio?

Mae’r grwpiau canlynol wedi’u heithrio’n gyfreithiol rhag pleidleisio yng Nghymru:

  • Unigolyn sydd dan gollfarn (er y gall carcharorion ar remánd, carcharorion sydd heb eto gael eu collfarnu a charcharorion sifil bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholwyr).
  • Unrhyw un a gafwyd yn euog o fewn y bum mlynedd ddiwethaf o arferion llwgr neu anghyfreithlon sy’n gysylltiedig ag etholiad.

Dangos dogfen adnabod i bleidleisio

Ar 2 Mai 2024, bydd angen i etholwyr yng Nghymru, am y tro cyntaf erioed, ddangos ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod â llun cyn y gallant dderbyn papur pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Cafodd y newid hwn ei wneud gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig fel rhan o Ddeddf Etholiadau 2022.

Mae’r rhestr o’r dogfennau adnabod â llun sy’n dderbyniol yn eang iawn a gallwch chi lawrlwytho’r rhestr drwy fynd at gwefan y Comisiwn Etholiadol .Gall etholwyr hefyd ddefnyddio hen ddogfen adnabod â llun (hyd yn oed os nad ydyw’r ddogfen yn gyfredol) cyn belled â bod dal modd eu hadnabod o’r llun.

Dim ond y dogfennau gwreiddiol sy’n dderbyniol – ni fydd delweddau wedi’u sganio, lluniau ar ffonau symudol na chopïau yn cael eu derbyn.

Os nad yw’r Swyddog Llywyddu yn siŵr a yw’r llun ar y ddogfen adnabod yn edrych yn debyg i’r sawl sy’n cyflwyno’r ddogfen adnabod, gall wrthod rhoi papur pleidleisio i’r etholwr.

Os nad oes gennych chi unrhyw un o’r ffurfiau derbyniol o ddogfennau adnabod â llun gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar-lein ar wefan Gov.UK  Hefyd, gallwch wneud cais drwy’r post gan ofyn am ffurflen wedi’i hargraffu oddi wrth y gwasanaethau etholiadol drwy anfon e-bost at gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881.

Y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif ar gyfer yr etholiad ar 2 Mai yw 5pm ar ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024.

Dylai’r enw ar y ddogfen adnabod â llun sy’n cael ei dangos yn yr orsaf bleidleisio  fod yr un enw y mae’r etholwr wedi’i ddefnyddio i gofrestru i bleidleisio. Os yw’r enwau’n wahanol, mae’n bosib y bydd y staff yr orsaf bleidleisio yn gofyn am gael gweld dogfennau ychwanegol megis tystysgrif briodas, papurau ysgaru, gwaith papur sy’n ymwneud â gweithred newid enw, tystysgrif geni neu fil.

Gall Swyddog Llywyddu hefyd wrthod rhoi papur pleidleisio os oes ganddo / ganddi  amheuaeth resymol am ddilysrwydd unrhyw ddogfen adnabod â llun. Bydd yn dweud wrth yr etholwr am ddychwelyd â math arall o ddogfen adnabod â llun sy’n cael ei derbyn. Caiff y Swyddog Canlyniadau wybod am unrhyw achosion o ddogfennau adnabod yr amheuir eu bod wedi’u ffugio a gall gyfeirio’r rhain at yr heddlu.

Os bydd unrhyw etholwr yn gadael yr orsaf bleidleisio heb gael yr hawl i bleidleisio am nad oes ganddynt ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod â llun, gall ddychwelyd yn ddiweddarach ar ddiwrnod y bleidlais. Os byddant wedyn yn medru dangos ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod â llun, byddant yn derbyn papur pleidleisio.

Gall etholwyr ofyn am gael dangos eu dogfennau adnabod â llun mewn man preifat yn yr orsaf bleidleisio. Bydd hyn yn cynnwys etholwyr sy’n gwisgo unrhyw fath o orchudd wyneb. Bydd drych ar gael i’r etholwyr hyn fel y gallant ailosod eu gorchudd wyneb cyn dychwelyd i brif ran yr orsaf i bleidleisio.

Os bydd etholwyr yn gofyn i fenyw wirio’r ddogfen adnabod, gofynnir i aelod benywaidd o staff yr orsaf bleidleisio wneud hyn. Bydd y timau yn y gorsafoedd pleidleisio yn cynnwys aelodau benywaidd o staff lle bo hynny’n bosibl neu bydd modd iddynt gysylltu ag aelodau eraill o staff yr etholiad megis Arolygwyr y Gorsafoedd Pleidleisio. Bydd yr aelodau hyn o’r tîm wedi’u hawdurdodi i wirio dogfennau adnabod â llun a byddant ar gael i fynd i’r gorsafoedd pleidleisio ar fyr rybudd.

Bydd yn rhaid i ddirprwyon sy’n pleidleisio, sydd wedi’u hawdurdodi gan etholwr arall i bleidleisio ar eu rhan, ddangos ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod sy’n dangos eu llun nhw cyn y caniateir iddynt bleidleisio fel dirprwy. Nid oes angen iddynt ddangos dogfen adnabod ar gyfer y person y maent yn ddirprwy iddo.

Ni fydd angen i bleidleiswyr drwy’r post ddangos dogfen adnabod â llun fel rhan o’u cais. Bydd dal angen iddynt roi eu llofnod a darparu ffyrdd eraill o brofi pwy ydynt fel rhan o unrhyw gais am bleidlais absennol. Bydd dal angen eu llofnod ar y datganiad pleidleisio y byddant yn ei ddychwelyd fel rhan o’r pecyn pleidleisio drwy’r post a gwblheir ganddynt.

Newidiadau o ran hygyrchedd

Mae Deddf Etholiadau 2022 hefyd wedi gwneud newidiadau o ran y gefnogaeth a’r cymorth sydd ar gael i bleidleiswyr anabl.

Y prif newid yw’r ffaith y gall pleidleisiwr anabl yn awr ofyn am gymorth cydymaith. Gall y cydymaith fod yn rhywun dros 18 oed. Nid oes angen iddynt fod yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad.

Gall pleidleiswyr ddod â’u cyfarpar eu hunain neu anifail cymorth gyda nhw i’r orsaf bleidleisio.

Ni all staff yr orsaf bleidleisio eithrio unigolyn sydd wedi’i gofrestru fel etholwr neu sydd wedi’i gynnwys ar y rhestr ddirprwyon rhag pleidleisio am resymau sy’n ymwneud ag anabledd a galluedd meddyliol.

Cofrestru i bleidleisio

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio – dyddiad cau dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024

  • Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw 11:59pm ddydd Mawrth, 16 Ebrill.
  • Os ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio yn eich eiddo ac os nad ydych wedi symud ers i chi gofrestru, nid oes angen i chi ailgofrestru i bleidleisio.
  • Os ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar ac os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio yn eich cyfeiriad newydd, mae’n rhaid i chi wneud hynny erbyn 11:59pm ddydd Mawrth, 16 Ebrill
  • Gallwch wneud yn siŵr eich bod wedi cofrestru i bleidleisio drwy gysylltu â gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk
  • Cofrestrwch erbyn dydd Mawrth, 16 Ebrill neu ni fyddwch yn gallu pleidleisio ddydd Iau 2 Mai.
  • Mae’n cymryd llai na thair munud i gofrestru ar-lein. Byddai o gymorth i chi gael eich rhif Yswiriant Gwladol wrth law. Gallwch ddod o hyd iddo ar eich slip cyflog, P60, neu lythyron am drethi, pensiynau a budd-daliadau.
  • Gall pleidleiswyr gofrestru hefyd drwy ffonio 01545 570881.
  • Peidiwch â gadael cofrestru tan y funud olaf, rhag ofn y byddwch chi’n cael problemau.

Pleidleisio

Pleidleisio mewn Gorsaf Bleidleisio – 2 Mai 2024

  • Bydd y Gorsafoedd Pleidleisio ar agor rhwng 7.00am a 10.00pm.
  • Dim ond yn yr orsaf bleidleisio yr ydych chi wedi’i chofrestru iddi y gallwch chi fwrw pleidlais. Bydd y manylion wedi’u hargraffu ar eich cerdyn pleidleisio.
  • Nid oes angen i chi ddod â’ch cerdyn pleidleisio gyda chi er mwyn medru bwrw pleidlais, ond mae dangos y cerdyn yn cyflymu’r broses.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen eich cerdyn pleidleisio rhag ofn y bydd unrhyw newidiadau i leoliad eich gorsaf bleidleisio arferol.
  • Yn aml yr amserau prysur mewn gorsafoedd pleidleisio yw rhwng 7.00am a 9.30am, amser cinio, rhwng 3.30pm a 4.30pm a rhwng 6.00pm ac 8.00pm.
  • Wrth geisio osgoi’r amserau brig hyn, efallai y byddwch yn gorfod aros am lai o amser.
  • Efallai y bydd y gofyniad cyfreithiol newydd i wirio dogfennau adnabod â llun yn golygu y bydd yn rhaid i chi aros mwy o amser nag arfer i gael papur pleidleisio. Bydd staff yr Orsaf Bleidleisio yn sicrhau bod unrhyw giwiau yn symud cyn gyflymed ag y bo modd.
  • Os byddwch chi yn y ciw i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio erbyn 10.00pm, bydd dal modd i chi bleidleisio, cyn belled â’ch bod yn medru dangos ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod â llun.
  • Os byddwch chi’n mynd i’r orsaf bleidleisio heb ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod â llun, ni chaniateir i chi bleidleisio. Serch hynny, bydd modd i chi fynd yn ôl cyn i’r orsaf bleidleisio gau am 10.00pm os bydd gennych ffurf wahanol o ddogfen adnabod â llun sy’n cael ei dderbyn.

Er mwyn pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, rhaid i chi ddangos dogfen adnabod â llun. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â dogfen adnabod ar gyfer pleidleiswyr, gweler isod.

Dogfen adnabod ar gyfer pleidleiswyr – dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr - 5.00pm, ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024

  • O 2023 ymlaen, bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos dogfen adnabod â llun i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau. Bydd hyn yn berthnasol i’r canlynol:
    • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
    • Is-etholiadau Senedd y Deyrnas Unedig
    • Deisebau adalw
    • Etholiadau Cyffredinol y Deyrnas Unedig.
  • Os nad oes gennych chi ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod â llun, gallwch chi wneud cais am ddogfen adnabod rhad ac am ddim ar gyfer pleidleiswyr, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr.
    • Gallwch chi wneud cais ar-lein a bydd angen eich Rhif Yswiriant Gwladol arnoch a llun digidol sy’n bodloni’r canllawiau (yn debyg i lun pasbort)
    • Gallwch wneud cais drwy’r post drwy ofyn am ffurflen gais oddi wrth gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk a’i hanfon yn ôl gyda llun wedi’i argraffu sy’n bodloni’r canllawiau ar gyfer cyflwyno cais.
  • Y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr yw 5.00pm ddydd Mercher, 24 Ebrill
  • Os byddwch chi’n mynd i’r orsaf bleidleisio heb ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod â llun, ni chaniateir i chi bleidleisio. Serch hynny, bydd modd i chi fynd yn ôl cyn i’r orsaf bleidleisio gau am 10.00pm os bydd gennych ffurf wahanol o ddogfen adnabod â llun sy’n cael ei dderbyn.
  • Dim ond un ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod â llun fydd ei angen arnoch i fedru pleidleisio.
  • Rhaid i chi ddangos fersiwn wreiddiol y ddogfen adnabod â llun. Ni dderbynnir llungopi, ap na llun ar y ffôn.
  • Gallwch ddod o hyd i restr o’r ffurfiau derbyniol o ddogfennau adnabod â llun ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy gysylltu â ni (gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk neu 01545 570881)
  • Dylai’r enw ar y ddogfen adnabod â llun yr ydych chi’n ei dangos yn yr orsaf bleidleisio fod yr un enw yr ydych chi wedi’i ddefnyddio i gofrestru i bleidleisio. Os yw’r enwau’n wahanol, mae’n bosib y bydd y staff pleidleisio yn gofyn i chi ddangos dogfennau ychwanegol megis tystysgrif briodas, papurau ysgaru, gwaith papur sy’n ymwneud â gweithred newid enw, tystysgrif geni, neu fil.
  • Os byddai’n well gennych, gallwch ofyn am gael dangos eich dogfen adnabod â llun mewn man preifat neu fan caeedig yn yr orsaf bleidleisio.
  • Os ydych chi’n gwisgo unrhyw fath o orchudd wyneb:
    • Bydd staff yr orsaf bleidleisio yn gofyn i chi ddangos eich wyneb i gadarnhau ei fod yn cyd-fynd â’ch llun ar y ddogfen adnabod.
    • Bydd man preifat neu fan dynodedig yn yr orsaf bleidleisio ar gael i chi fel y gallwch chi ddiosg eich gorchudd wyneb.
    • Bydd drych ar gael fel y gallwch chi ailosod eich gorchudd wyneb cyn dychwelyd i brif ran yr orsaf i bleidleisio.
    • Gallwch chi ofyn i aelod benywaidd o staff yr orsaf bleidleisio wirio eich dogfen adnabod.
    • Bydd y timau yn y gorsafoedd pleidleisio yn cynnwys aelodau benywaidd o staff lle bo hynny’n bosibl neu bydd modd iddynt gysylltu ag aelodau eraill o staff yr etholiad megis Arolygwyr y Gorsafoedd Pleidleisio i ddod i’r gorsafoedd pleidleisio ar fyr rybudd. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen i chi aros am ychydig bach hyd nes iddynt gyrraedd.
  • Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosibl gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr Dros Dro.

Cysylltwch â gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk / 01545 570881 ar frys a heb fod yn hwyrach na 5.00pm ddydd Iau, 2 Mai 2024 os ydych yn credu bod angen Tystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr Dros Dro arnoch.

Pleidleiswyr drwy’r post – y dyddiad cau i wneud cais yw 5.00pm, ddydd Mercher, 17 Ebrill 2024

  • Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy’r post yw 5.00pm ddydd Mercher, 17 Ebrill.
  • Mae’n rhaid i’r sawl sy’n gwneud cais am bleidlais drwy’r post fod eisoes wedi cofrestru i bleidleisio. Gellir lawrlwytho ffurflenni o wefan Gov.UK neu drwy ffonio 01545 570881.
  • Dim ond pleidleisiau drwy’r post sy’n cael eu dychwelyd erbyn 10.00pm ar ddiwrnod y bleidlais fydd yn cael eu cyfrif.
  • Wedi anghofio anfon eich pleidlais bost yn ôl mewn pryd? Wedi i chi gwblhau eich pleidleisiau post a selio’r pecyn, gallwch eu gadael ar y diwrnod pleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio sydd yn yr un ardal bleidleisio, ond yn ddelfrydol yn eich gorsaf bleidleisio leol. Gallwch hefyd rhoi nhw i mewn yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron SA46 0PA.
  • Os ydych yn gadael eich pleidlais post mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu yn Neuadd Cyngor Ceredigion, fe fydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen a gallwch gyflwyno eich pleidlais bost eich hun, a phleidlais hyd at bump arall.
  • Wedi colli eich pleidlais bost neu’r bleidlais heb gyrraedd? Gellir rhoi pecynnau yn eu lle rhwng dydd Gwener, 26 Ebrill a 5.00pm ar 2 Mai 2024. Dim ond wyneb yn wyneb yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Ceredigion SA46 0PA y gellir derbyn pecynnau yn lle’r rhai sydd wedi eu colli neu heb gyrraedd.
    • Ffoniwch o flaen llaw os oes angen pecyn pleidlais bost yn lle un sydd wedi’i golli neu heb gyrraedd
    • Bydd angen i chi ddod â phrawf hunaniaeth gyda chi: dogfen â llun, er enghraifft pasbort neu drwydded yrru, neu ddwy ddogfen sy’n cadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad, er enghraifft datganiad banc, bil cyfleustod neu lythyr swyddogol.

Pleidleiswyr drwy ddirprwy– y dyddiad cau i wneud cais yw 5.00pm, ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024

  • Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5.00pm ddydd Mercher, 24 Ebrill.
  • Pleidleisiwr drwy ddirprwy yw rhywun yr ydych yn ymddiried ynddo ac yr ydych yn ei benodi i bleidleisio ar eich rhan.
  • Rhaid i chi fod eisoes wedi eich cofrestru i bleidleisio er mwyn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy. Gellir dod o hyd i ffurflenni a manylion llawn ynglŷn â chymhwysedd ar wefan y Comisiwn Etholiadol
  • Mae’n rhaid bod eich dirprwy yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad ac mae’n rhaid ei fod/ei bod yn gallu mynd i’ch gorsaf bleidleisio, neu mae angen iddo/iddi wneud cais i fwrw’r bleidlais drwy ddirprwy drwy’r post. Bydd eich dirprwy yn derbyn llythyr neu gerdyn pleidleisio a fydd yn cynnwys y manylion angenrheidiol a bydd yn ei dderbyn yn ei gyfeiriad/ei chyfeiriad.
  • Bydd yn rhaid i ddirprwyon sy’n pleidleisio, sydd wedi’u hawdurdodi gan etholwyr eraill i bleidleisio ar eu rhan, ddangos ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod sy’n dangos eu llun nhw cyn y caniateir iddynt bleidleisio fel dirprwy. Nid oes angen iddynt ddangos dogfen adnabod ar gyfer y person y maent yn ddirprwy iddo.
  • Nid yw pleidleiswyr drwy’r post yn gymwys i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy.
  • Mae modd cael pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng ar ôl y dyddiad cau am bleidlais drwy ddirprwy, a hynny hyd at 5.00pm ar 2 Mai 2024. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol penodol y gellir gwneud hyn. Gallwch gael manylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy ffonio 01545 570881

Pleidleiswyr drwy Ddirprwy mewn Argyfwng – gwnewch gais ar ôl 5.00pm, ddydd Mercher, 24 Ebrill 2024 ond cyn 5.00pm, ddydd Iau, 2 Mai 2024

  • Mae modd cael pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng ar ôl y dyddiad cau am bleidlais drwy ddirprwy, a hynny hyd at 5.00pm ar 2 Mai 2024. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol penodol y gellir gwneud hyn. Gallwch gael manylion ar wefan y Comisiwn Etholiadol neu drwy ffonio 01545 570881
  • Bydd yn rhaid i ddirprwyon sy’n pleidleisio mewn argyfwng, sydd wedi’u hawdurdodi gan etholwyr eraill i bleidleisio ar eu rhan, ddangos ffurf dderbyniol o ddogfen adnabod sy’n dangos eu llun nhw cyn y caniateir iddynt bleidleisio fel dirprwy. Nid oes angen iddynt ddangos dogfen adnabod ar gyfer y person y maent yn ddirprwy iddo.

Os oes gan un o’r ymgeiswyr neu’r asiantiaid gwestiynau’n ymwneud ag Etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, dylent fynd i’r dudalen Ymgeiswyr ac Asiantiaid.