Crëwyd Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011, a chynhaliwyd yr etholiad cyntaf yn 2012 ac yna yn 2016. 

Cynhaliwyd yr etholiad diwethaf ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2021, ar ôl ei ohirio yn 2020 oherwydd y coronafeirws. Fel arfer mae tymor y swydd yn bedair blynedd, ond oherwydd i’r etholiad gael ei ohirio, mae'r tymor hwn wedi bod yn gyfnod o dair blynedd.

Mae pedair Ardal Heddlu yng Nghymru, gyda phob ardal yn ethol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Y pedair ardal heddlu yng Nghymru yw:

  • Dyfed-Powys
  • Gwent
  • Gogledd Cymru
  • De Cymru.

Rôl Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu

Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am y canlynol:

  • Dwyn yr Heddlu i gyfrif
  • Penodi Prif Gwnstabliaid a’u diswyddo (os bydd angen)
  • Pennu cyllidebau’r heddlu
  • Pennu faint o Dreth y Cyngor y bydd pobl yn ei thalu tuag at waith yr heddlu
  • Pennu blaenoriaethau’r heddlu ar gyfer yr ardal leol
  • Goruchwylio’r modd yr eir i’r afael â throseddu yn yr ardal a gosod targedau i sicrhau bod yr heddlu’n darparu gwasanaeth da
  • Cyfarfod ac ymgynghori’n rheolaidd â’r cyhoedd, er mwyn gwrando ar eu barn am waith yr heddlu
  • Creu Cynllun yr Heddlu a Throseddu sy’n amlinellu blaenoriaethau lleol yr heddlu
  • Penderfynu sut y caiff y gyllideb ei gwario.

Gair am yr etholiad

Mae Ardal Heddlu Dyfed-Powys yn cynnwys pedwar ardal bleidleisio ac mae Swyddog Canlyniadau Lleol ar gyfer pob un:

  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Sir Benfro
  • Powys.

Eifion Evans yw Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu Dyfed-Powys yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ym mis Mai 2024 ac mae’n gyfrifol am y modd y cynhelir yr etholiad, gan gynnwys y dyletswyddau canlynol:  

  • Cysylltu â’r Swyddogion Canlyniadau Lleol yn Ardal Heddlu Dyfed-Powys
  • Cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad
  • Gweinyddu’r broses enwebu
  • Cyhoeddi datganiad y sawl a enwebwyd a’r hysbysiad o bleidlais
  • Hybu cyfranogiad
  • Sicrhau bod cynnwys anerchiadau etholiadol yr ymgeiswyr a’r gweithdrefnau i gyflwyno’r anerchiadau hynny yn cydymffurfio â’r gofynion
  • Coladu a chyfrifo nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, a chyfrifo'r canlyniad
  • Datgan y canlyniad.

Mae pob Swyddog Canlyniadau Lleol yn gyfrifol am y materion canlynol yn ei ardal bleidleisio:

  • Hybu cyfranogiad
  • Darparu gorsafoedd pleidleisio
  • Argraffu papurau pleidleisio
  • Sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu’n effeithiol
  • Penodi staff ar gyfer gorsafoedd pleidleisio
  • Rheoli’r broses o bleidleisio drwy’r post
  • Rheoli’r broses ar gyfer dogfennau adnabod pleidleiswyr
  • Y prosesau ar gyfer dilysu a chyfrif pleidleisiau yn yr ardal bleidleisio
  • Trosglwyddo’r cyfansymiau lleol i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu.

Sefyll yn yr etholiad

Sesiwn Briffio ar gyfer Ymgeiswyr ac Asiantiaid

Cynhaliwyd sesiwn briffio ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar 27 Chwefror 2024, cyn cyhoeddi’r Hysbysiad o Etholiad. 

Briffio ymgeiswyr ac asiantiaid

Er mwyn cael gwybodaeth bellach, cysylltwch â ni drwy e-bostio RRO-PARO@ceredigion.gov.uk

Cynhelir sesiwn briffio arall ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar ôl dyddiad cau’r enwebiadau. Byddwch yn cael gwybod am y dyddiad a’r amser pan fyddwch chi’n ymgeisydd swyddogol. 

Canllawiau ac adnoddau ar gyfer ymgeiswyr a’u hasiantiaid

Mae gan y Comisiwn Etholiadol wybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol ar eich cyfer os ydych yn bwriadu sefyll yn yr etholiad, gan gynnwys eich cymhwysedd i sefyll etholiad. 

Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu | Electoral Commission

Papurau Enwebu

Mae papurau enwebu ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol.

Cwblhau eich papurau enwebu | Electoral Commission

Fe fydd rhaid i chi argraffu’r ffurflenni cyn eu cyflwyno a pan fo angen llofnodion, sicrhewch eich bod yn cyflwyno’r fersiwn wreiddiol a lofnodwyd ar gyfer pob papur a gwblhawyd. Ni ellir derbyn dogfennau heb lofnodion gwreiddiol.

Bydd angen i chi gyflwyno’r ffurflenni canlynol yn bersonol (drwy llaw):

  • Ffurflen enwebu
  • Ffurflen cyfeiriad cartref yr ymgeisydd
  • Cydsyniad ymgeisydd i enwebiad.

Os ydych yn sefyll fel ymgeisydd plaid, bydd angen i chi gyflwyno’r ffurflenni canlynol yn bersonol (drwy llaw) neu drwy’r post:

  • Tystysgrif awdurdodi
  • Cais am arwyddlun plaid

Fe fydd hefyd rhaid i chi gyflwyno’r ffurflenni canlynol yn bersonol (drwy llaw) neu drwy’r post:

  • Hysbysiad o asiant etholiad
  • Hysbysiad o is-asiant.

Gwirio Papurau Enwebu’n Anffurfiol

Byddwn yn cynnig gwirio papurau enwebu’r ymgeiswyr yn anffurfiol cyn i chi eu cyflwyno’n swyddogol. Darperir rhagor o wybodaeth yn y sesiwn briffio ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid.  

Argymhellir hyn yn gryf fel y gallwn wirio bod eich tanysgrifwyr wedi'u cofrestru i bleidleisio yn ardal bleidleisio Dyfed Powys (h.y. yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro neu Bowys) cyn i chi gyflwyno eich papurau enwebu yn ffurfiol.

Cyflwyno eich Papurau Enwebu

Dylid gwneud apwyntiad i gyflwyno’r papurau enwebu. Bydd apwyntiadau ar gael rhwng 10.00am a 4.00pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith rhwng 26 Mawrth a 5 Ebrill 2024.

Gellir gwneud apwyntiad drwy e-bostio RRO-PARO@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio 01545 570881.

Rhaid cyflwyno’r papurau enwebu i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion, SA46 0PA.

Wrth gyflwyno eich papurau enwebu, caniatewch 90 munud neu fwy i gynnal y gwiriadau tanysgrifiwr cyn yr apwyntiad enwebu ffurfiol.

Talu’r ernes

Gellir talu’r ernes ar gyfer pob ymgeisydd, sef swm o bum mil o bunnoedd (£5,000.00) i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu erbyn 4.00pm ddydd Gwener, 5 Ebrill 2024, drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol, drafft banc (banciau sy’n weithredol yn y Deyrnas Unedig yn unig) neu drwy arian parod (punnoedd Prydain yn unig).

Os ydych chi’n bwriadu talu drwy drosglwyddiad banc, bydd yn rhaid bod yr ernes wedi cyrraedd y cyfrif banc cyn y gall Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu dderbyn eich enwebiad.

Rhagor o wybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid

Bydd rhagor o wybodaeth yn dilyn cyn bo hir ynglŷn â’r sesiynau agor pleidleisiau drwy’r post, y gweithdrefnau dilysu a chyfrif ac ati.

Dyddiadau pwysig

Digwyddiad

Nifer y dyddiau gwaith cyn yr etholiad (yr amser cau fydd hanner nos oni nodir yn wahanol)

Dyddiad (yr amser cau fydd hanner nos oni nodir yn wahanol)

Cyhoeddi hysbysiad o etholiad

Heb fod yn fwy na 25 diwrnod

Dydd Llun, 25 Mawrth 2024

Cyflwyno papurau enwebu

Rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad o etholiad tan 4pm ar y pedwerydd diwrnod ar bymtheg cyn y diwrnod pleidleisio

Rhwng dydd Mawrth, 26 Mawrth – 4pm, dydd Gwener, 5 Ebrill 2024

Y dyddiad cau ar gyfer dosbarthu papurau enwebu

19 diwrnod (4pm)

Dydd Gwener, 5 Ebrill 2024

Cyflwyno gwrthwynebiadau i bapurau enwebu

19 diwrnod (rhwng 10am a 5pm), yn amodol ar y canlynol:

Rhwng 10am a 12 canol dydd, gellir cyflwyno gwrthwynebiadau i bob enwebiad a gyflwynwyd


Rhwng 12 canol dydd a 5pm dim ond i enwebiadau a gyflwynwyd ar ôl 4pm, 20 diwrnod cyn yr etholiad, y gellir cyflwyno gwrthwynebiadau



Rhwng 10am 12 canol dydd ar ddydd Gwener, 5 Ebrill 2024

Rhwng canol dydd a 5pm ar ddydd Gwener, 5 Ebrill 2024

Y dyddiad cau ar gyfer tynnu’n ôl

19 diwrnod (4pm)

4pm dydd Gwener, 5 Ebrill 2024

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiant etholiadol wedi’i benodi

19 diwrnod (4pm)

4pm dydd Gwener, 5 Ebrill 2024

Cyhoeddi’r hysbysiad interim cyntaf o newid i etholiad

19 diwrnod

Dydd Gwener, 5 Ebrill 2024

Cyhoeddi datganiad o’r bobl a enwebwyd

Dim hwyrach na 18 diwrnod (4pm)

Dim hwyrach na 4pm, dydd Llun, 8 Ebrill 2024

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau i gofrestru

12 diwrnod

Dydd Mawrth, 16 Ebrill 2024

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais drwy ddirprwy drwy’r post, ac am newidiadau i bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy sy’n bodoli eisoes

11 diwrnod (5pm)

5pm dydd Mercher, 17 Ebrill 2024

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau newydd i bleidleisio drwy ddirprwy (nid pleidlais drwy ddirprwy drwy’r post na phleidlais argyfwng drwy ddirprwy)

6 diwrnod (5pm)

5pm dydd Mercher, 24 Ebrill 2024

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr

6 diwrnod (5pm)

5pm dydd Mercher, 24 Ebrill 2024

Cyhoeddi’r ail hysbysiad interim o newid i etholiad

Rhwng 18 diwrnod a 6 diwrnod

Rhwng dydd Llun, 8 Ebrill a dydd Mercher, 24 Ebrill 2024

Cyhoeddi hysbysiad o bleidlais

Dim hwyrach na 6 diwrnod

Dim hwyrach na dydd Mercher, 24 Ebrill 2024

Cyhoeddi’r hysbysiad olaf o newid i etholiad

5 diwrnod

Dydd Iau, 25 Ebrill 2024

Y dyddiad cau ar gyfer hysbysu bod asiantiaid pleidleisio, asiantiaid cyfrif ac is-asiantiaid wedi’u penodi

5 diwrnod

Dydd Iau, 25 Ebrill 2024

Y dyddiad cyntaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a gollwyd

4 diwrnod

Dydd Gwener, 26 Ebrill 2024

Diwrnod pleidleisio

 

0 (rhwng 7am a 10pm)

Rhwng 7am a 10pm dydd Iau, 2 Mai

Y tro olaf y gall etholwyr wneud cais am bleidlais bost newydd yn lle pleidlais bost a ddifethwyd neu a gollwyd

0 (5pm)

5pm dydd Iau, 2 Mai

Y dyddiad cau am geisiadau am bleidlais argyfwng drwy ddirprwy

0 (5pm)

5pm dydd Iau, 2 Mai

Y tro olaf y gellir newid y gofrestr o ganlyniad i wall clerigol neu apêl gan y llys

0 (9pm)

9pm dydd Iau, 2 Mai