Gwybodaeth a Rheolau ar Adnabod Gwartheg

Bydd yn ofynnol i bob llo newydd-anedig feddu ar dag mewn bob clust yn nodi ei rif adnabod unigryw. Bydd y rhif yma'n cynnwys:

  • Rhif/ nod y fuches
  • Rhif yr anifail

Dylid tagio lloi o fewn yr amserau canlynol:

  • Ffermwyr llaeth - bydd yn rhaid i chi osod un tag yng nghlust y llo o fewn 36 awr o'i enedigaeth. Bydd yn rhaid i chi osod yr ail dag o fewn 20 niwrnod o enedigaeth y llo
  • Ffermwyr cig eidion – bydd gennych hyd at 20 niwrnod o enedigaeth y llo i osod y ddau dag. Bydd yn ofynnol i chi osod y ddau dag cyn i'r anifail gael ei gludo oddi ar y daliad lle bu iddo gael ei eni, hyd yn oed cyn iddo fod yn 20 niwrnod oed

Gelwir y tagiau a ddefnyddir ar gyfer tagio dwbl yn brif dag ac ail dag.

  • Gellir rhoi'r 'prif dag' yn y naill glust

Ers Ebrill 1998 bydd yn ofynnol i brif dagiau fod yn felyn.

  • Bydd yn rhaid i'r ail dag gynnwysyr un wybodaeth a'r prif dag, fodd bynnag mi all hefyd gynnwys gwybodaeth rheoli. Bydd yn rhaid i'r ail dag fod mewn clust gwahanol i'r prif dag. Gallwch ddefnyddio nifer o wahanol fathau o ail dagiau, er enghraifft, tagiau metel, plastig neu dagiau botwm

Os bydd tagiau'n mynd ar goll neu'n annarllenadwy bydd yn rhaid i chi osod rhai eraill yn eu lle cyn gynted â phosib heb fod yn fwy na 28 niwrnod wedi i chi sylwi eu bod ar goll.

Gwartheg cafodd eu geni ar 15 Hydref 1990 neu wedi hynny a chyn 1 Ebrill 1995 - rhaid iddynt feddu ar dag clust cymeradwy neu datŵ(neu'r ddau).

Gwartheg cafodd eu geni ar 1 Ebrill 1995 neu wedi hynny a chyn 1 Ionawr 1998 - rhaid iddynt feddu ar dag cymeradwy, yn y glust dde sy'n nodi'r rhif alffaniwmerig unigryw (llythyrau a rhifau).

Gwartheg cafodd eu geni ar 1 Ionawr 1998 neu wedi hynny - rhaid meddu ar dag clust cymeradwy ym mhob clust. Bydd yn rhaid i'r ddau feddu ar yr un rhif alffaniwmerig unigryw. Bydd y rhif adnabod yma'n aros gyda'r anifail am weddill ei oes.

Gwartheg cafodd eu geni ar 1 Gorffennaf 2000 neu wedi hynny - rhaid iddynt feddu ar dag clust cymeradwy ym mhob clust. Cyflwynwyd tagiau niwmerig ar 1 Ionawr 2000 gan fod yn orfodol ar 1 Gorffennaf 2000. Bydd yn rhaid i anifeiliaid feddu ar dag dwbl a bydd yn ofynnol i'r ddau dag nodi'r un rhif unigryw. Bydd y rhif adnabod yma'n aros gyda'r anifail am weddill ei oes.

Bydd yn ofynnol i'r holl wartheg cafodd eu geni ar ôl 1 Ebrill 1998 feddu ar rif adnabod unigryw drwy osod tag clust ym mhob clust. Dylid cymryd gofal i sicrhau y caiff unrhyw wartheg sy'n gadael eich eiddo gael eu hadnabod yn y modd cywir gyda thag ym mhob clust.

Am wybodaeth a rheolau ar adnabod gwartheg o'r wefan Llywodraeth Cymru cliciwch ar y linc canlynol:

Adnabod Gwartheg Llywodraeth Cymru