Gyda chyflwyniad a datblygiad cyflym technolegau, yn gyflym, mae gallu manteisio ar fand eang cyflym iawn fforddiadwy a dibynadwy yn dod yn seilwaith ac yn gyfleustod hanfodol, fel trydan a dŵr.

Mae rhai cymunedau yng Ngheredigion yn darganfod nad oes ganddynt wasanaethau band eang digonol, ac mae hyn yn creu “rhaniad digidol” ymhlith y rhai y mae ganddynt fynediad a'r rhai heb fynediad.  Mae hyn yn bennaf o ganlyniad i'r ffaith bod ardaloedd gwledig yn fwy helaeth ac yn anodd darparu rhwydweithiau band eang datblygedig ynddynt.

Nod Cyngor Sir Ceredigion yw datrys y broblem hon trwy gynorthwyo prosiectau wedi'u hariannu gan y Llywodraeth a chan gyllid preifat ar draws y Sir, gan sicrhau bod cymaint o bobl ag y bo modd yn gallu manteisio ar fand eang cyflym iawn i gynorthwyo bywydau preswylwyr ac economi'r Sir.

Sut i wella'ch cysylltiad band eang

1: Ewch ati i ddarganfod pa gyflymder yr ydych yn ei gael ar hyn o bryd

Gallwch gynnal prawf cyflymder (Saesneg yn unig) neu ddefnyddio cyfleuster archwilio gwasanaeth band eang a symudol swyddogol Ofcom, a bydd hwn yn dweud wrthych pa gyflymder yr ydych yn ei gael ar hyn o bryd.

2: Ewch ati i ddarganfod pa wasanaeth band eang y gallech ei gael yn barod

Edrychwch i weld a ydych chi'n cael cysylltiad FTTC (cysylltiad ffeibr i'r cabinet) neu FTTP (cysylltiad ffeibr i'r adeilad) trwy gyfrwng Cyfleuster Archwilio Ffeibr Openreach (Saesneg yn unig). Efallai eich bod eisoes yn gallu cael band eang cyflymach, ond nad ydych yn ymwybodol o hyn efallai. Os ydych chi'n gallu manteisio ar fand eang ffeibr, trafodwch gyda Darparwr Gwasanaethau Rhyngrwyd (ISP) pa becynnau y gallent fod ar gael i wella'ch cyflymder.

3: Ewch ati i asesu eich dewisiadau

Os nad ydych chi'n gallu cael Band Eang Cyflym Iawn trwy rwydwaith ffeibr, efallai y bydd technolegau amgen a fydd yn eich galluogi i gael darpariaeth gyflym iawn. Mae'r rhain yn cynnwys – cysylltiad diwifr sefydlog, llwybrydd symudol/4G neu gysylltiad lloeren. Am wybodaeth bellach am dechnolegau amgen, trowch at wefan Llywodraeth Cymru.

Gallwch ddarganfod hefyd a yw eich eiddo wedi cael ei gynnwys mewn cynlluniau cyflwyno ffeibr yn y dyfodol trwy droi at wefan Llywodraeth Cymru. Yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud yw nodi eich cod post a chwilio am eich cyfeiriad yn y gwymplen.

Cyllid sydd ar gael i Wella'ch Band Eang

Mae nifer o gynlluniau a ariannir gan y Llywodraeth ar gael i fusnesau a phreswylwyr sydd â diddordeb mewn gwella cyflymder eu darpariaeth band eang gyfredol.

Mae cynlluniau ariannu sydd ar gael i'r rhai nad ydynt yn cael eu cynnwys yn y cynlluniau masnachol neu'r cynlluniau cyflwyno band eang cyflym iawn yn cynnwys:

Bydd Taleb Gigabit y DU yn darparu grantiau o hyd at £1,500 i aelwydydd a hyd at £3,500 i fusnesau yn yr ardaloedd gwledig anoddaf i'w cyrraedd er mwyn helpu i dalu'r gost o osod cysylltiadau newydd sy'n gallu cynnig gigabit pan fyddant yn rhan o gynllun grŵp.

Gall cartrefi a busnesau mewn lleoliadau gwledig sy'n bodloni'r meini prawf canlynol ddefnyddio talebau er mwyn helpu i dalu'r gost o osod cysylltiadau newydd sy'n gallu cynnig gigabit pan fyddant yn rhan o brosiect grŵp:

  • Mae cyflymder presennol eu band eang yn llai 100Mbps
  • Nid yw'n debygol y bydd rhwydwaith a fydd yn gallu cynnig gigabit yn cael ei adeiladu yn yr ardal honno dan drefniant masnachol
  • Ni fwriedir cynnal contract a ariannir gan y llywodraeth neu nid oes contract a ariannir gan y llywodraeth yn ei le i wella'r rhwydwaith

Gallwch archwilio a yw eich cartref neu'ch busnes chi yn gymwys ar dudalen Cael taleb (Saesneg yn unig), a gellir cael manylion pellach am y cynllun sydd ar gael ar wefan Cynllun Taleb Gigabit Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig).

Mae Openreach yn gweithio gyda chymunedau lleol i lunio datrysiad ffeibr pwrpasol er mwyn dwyn band eang ffeibr i gartrefi a busnesau.

Mae Openreach yn gweithredu trefniant ariannu ar y cyd, sy'n golygu eu bod yn cyfrannu rhai o'r costau a bydd y gymuned yn ariannu'r gweddill, y telir amdano trwy'r Cynllun Taleb Gigabit fel arfer.  Yna, bydd Openreach yn creu'r datrysiad mwyaf fforddiadwy er mwyn bodloni eich anghenion. Bydd Openreach yn rhoi cyngor am unrhyw grantiau y gallech eu cael er mwyn cynorthwyo'r prosiect.

Gellir gweld manylion ar wefan Partneriaethau Ffeibr Cymunedol Openreach (Saesneg yn unig).

Mae'r cynllun hwn yn darparu grantiau er mwyn ariannu (neu ariannu'n rhannol) y gost o osod cysylltiadau band eang newydd ar gyfer cartrefi a busnesau yng Nghymru. Nid yw'n cynnwys costau rhentu misol.

Rhaid i gysylltiadau newydd trwy'r cynllun hwn gynnig newid sylweddol o ran cyflymder – gan o leiaf ddyblu eich cyflymder lawrlwytho presennol ee rhaid i gysylltiad presennol o 10Mbps wella i o leiaf 20Mbps.

Bydd swm y cyllid y gallwch ei gael yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:

  • £400 ar gyfer 10Mbps a mwy
  • £800 ar gyfer 30Mbps a mwy

Gellir cael manylion pellach a chael gwybod sut i gofrestru'ch diddordeb ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os nad ydych chi'n cael cyflymder lawrlwytho o 10 Mbit/s a chyflymder lanlwytho o 1 Mbit/s, gallwch ofyn am gysylltiad wedi'i uwchraddio.  Gallwch gyflwyno'r cais hwn i BT, a fydd yn talu hyd at £3,400 o gost y cysylltiad hwn. Nid oes angen i chi fod yn gwsmer BT ar hyn o bryd er mwyn ymgeisio.

Gellir gweld manylion pellach am y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyffredinol ar wefan Ofcom ac ar wefan BT (Saesneg yn unig).

Mae rhaglen Cyflymu Cymru yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio darparu Band Eang Cyflym Iawn i gartrefi a busnesau yng Nghymru.  Os hoffech gael manylion pellach ac edrych i weld a gaiff eich eiddo chi ei gynnwys yn y rhaglen, trowch at wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd dros filiwn o gartrefi a busnesau anodd eu cyrraedd yn cael band eang gigabit y genhedlaeth nesaf yn ystod cam cyntaf prosiect seilwaith gan y llywodraeth a fydd yn costio £5 biliwn. Gellir gweld manylion pellach am y prosiect ar wefan Llywodraeth y DU (Saesneg yn unig).

Cwestiynau Cyffredin

Isod, cyflwynir rhestr o gwestiynau cyffredin a'r gobaith yw y byddant yn cynnig dealltwriaeth well o fand eang, beth y mae gwahanol fathau o gysylltiadau yn eu golygu a sut y gall gwahanol gyflymder gael effaith ar eich cysylltedd.

Cysylltiad rhyngrwyd cyflym iawn yw band eang, sy'n caniatáu i chi fwynhau popeth sydd gan y byd ar-lein i'w gynnig.

Cyn band eang, llwyddwyd i sicrhau mynediad i'r rhyngrwyd gyda chysylltiadau deialu 'band cul', yr oeddent yn araf iawn o'u cymharu gyda safonau heddiw.  Mae band eang yn llawer cyflymach ac mae modd ei ystyried fel darpariaeth sydd wastad ymlaen, gan waredu'r angen i 'ddeialu' bob tro y bydd angen i chi droi at y rhyngrwyd.

Mae band eang ffeibr yn fath o fand eang cyflym iawn.  Mae'n defnyddio ceblau ffeibr optig, sy'n trosglwyddo data yn well na cheblau copr safonol, sy'n golygu ei fod yn gyflymach ac yn fwy dibynadwy na mathau eraill o fand eang.  Mae band eang ffeibr yn bwysig wrth i'r galw a'r angen am wasanaethau ffrydio teledu, ffilmiau a chwarae gemau ar-lein gynyddu, yn ogystal â'r duedd gynyddol i weithio gartref.

Gellir darparu band eang ffeibr mewn dwy ffordd:  Cysylltiad ffeibr i'r Cabinet (FTTC) a Chysylltiad ffeibr i'r Adeilad (FTTP).

Caiff band eang cyflym iawn ei ddiffinio fel cyflymder lawrlwytho o 30Mbps o leiaf gan reolydd Telathrebu y DU, Ofcom.

Mae band eang gwibgyswllt yn cyfeirio at gyflymder lawrlwytho dros 100Mbps.

Safonol – 10Mbps:  Hanfodion band eang:  newyddion, cadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau, rhywfaint o siopa ar-lein.

Cyflym iawn – dros 30Mbps:  Hanfodion band eang + gwylio teledu a ffilmiau, a gwrando ar gerddoriaeth heb unrhyw amhariadau.

Gwibgyswllt – dros 100mbps a hyd at 300mbps:  Dyfeisiau lluosog ar yr un pryd – gweithio, ffrydio, chwarae gemau, galwadau fideo neu lanlwytho.

Band eang Gigabit – 1000mbps:  Cysylltiad rhyngrwyd sy'n cynnig cyflymder o 1 gigabit yr eiliad (1gbps)

FTTC ac FTTP yw'r ddau brif fath o fand eang ffeibr sydd ar gael yn y DU.

Mae'r ddau acronym hwn yn diffinio faint o gebl ffeibr optig sy'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad.

Mae FTTC yn defnyddio cebl ffeibr optig o'r gyfnewidfa i'r cabinet yn y stryd. Yna, defnyddir gwifrau ffôn copr sy'n bodoli eisoes i gysylltu'r cabinet gydag adeilad.  Yn gyffredinol, mae FTTC yn darparu cyflymder lawrlwytho o 80Mbps ar ei uchaf.  Mae'r cyflymder hwn yn lleihau wrth i hyd y cebl copr gynyddu a pho bellaf yw'r adeilad o'r gyfnewidfa neu'r cabinet.

Ystyr FTTP yw Ffeibr i'r Adeilad, sy'n golygu bod y cebl ffeibr optig yn cyrraedd yr holl ffordd i'ch cartref neu'ch busnes yn lle y cabinet yn unig.  Mae hyn yn golygu na ddefnyddir llinellau ffôn copr unrhyw le yn y cysylltiad, sy'n golygu bod y rhyngrwyd yn llawer cyflymach.

Full-fibre broadband: What is it and how does it work? (Saesneg yn unig)

Mae nifer o wefannau yn caniatáu i chi archwilio eich cyflymder lawrlwytho a lanlwytho presennol.

Dyma rai dolenni:

Gall y cyflymder amrywio ar wahanol adegau o'r dydd, gan ddibynnu ar eich cysylltiad band eang, felly argymhellir eich bod yn cynnal prawf ar wahanol adegau.

Gall dilyn y camau uchod gynnig cymorth mawr er mwyn deall y cysylltiad a'r gwasanaethau presennol sydd ar gael i chi.  Darparir manylion hefyd am gyllid posibl y gallai fod ar gael i wella'ch cysylltiad.

Dilynwch gyngor Ofcom er mwyn gweld sut y gallwch chi wella cyflymder eich band eang gartref.

Mae gwefan Increase Broadband Speed (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor defnyddiol hefyd.

Ceir nifer o resymau dros y ffaith na allwch uwchraddio i fand eang ffeibr efallai.  Efallai bod rhai adeiladau yn rhy bell i ffwrdd o'r cabinet ffeibr y maent yn cael eu gwasanaeth ganddo er mwyn gallu cael band eang cyflym iawn, neu efallai bod y cysylltiad rhyngddyn nhw a'r Gyfnewidfa yn defnyddio llinellau copr, felly nid ydynt yn gallu uwchraddio i fand eang ffeibr ar hyn o bryd.

Mae'r galw uchel am fand eang ffeibr yn golygu hefyd bod rhai cabinetau ffeibr yn llawn ac mae angen capasiti ychwanegol arnynt cyn y gall rhagor o bobl archebu.  Mae'n bosibl cael diweddariadau ynghylch pryd y bydd ffeibr ar gael i chi trwy nodi eich manylion yng nghyfleuster Archwilio Ffeibr Openreach (Saesneg un unig).

Dylech neilltuo amser i ystyried eich dewisiadau, gan ddewis y cynnig gorau i chi.  Wrth gymharu pecynnau, mae'n bwysig ystyried y canlynol:

Pris – Gall gwefannau cymharu prisiau fod o gymorth er mwyn darganfod y fargen orau i chi.  Awgrymir eich bod yn defnyddio gwefan gymharu fel Ofcom neu thinkbroadband.com (Saesneg un unig).

Cyflymder – Dylid archwilio hynny'n ofalus oherwydd bod rhai pecynnau band eang yn cyfyngu ar eich cyflymder lawrlwytho/lanlwytho yn gyfnewid am dariff rhatach.

Defnydd – Bydd rhai tariffau yn pennu cyfyngiad o ran uchafswm y gweithgarwch lawrlwytho/lanlwytho bob mis, a bydd rhai pecynnau yn cynnig defnydd digyfyngiad heb unrhyw gyfyngiadau.

Contract- Archwiliwch hyd y contract a gynigir i chi.  Mae'n bwysig nodi hyd y cyfnod y byddwch yn ymrwymo i gontract.  Fel arfer, bydd hwn yn 12 neu'n 18 mis.

Galwadau – Bydd nifer o ddarparwyr yn cynnig pecyn cyfunol sy'n darparu gwasanaeth ffôn law yn llaw â'ch cysylltiad band eang.  Efallai y byddwch yn gallu arbed arian fel hyn.  Mae gwasanaethau teledu yn agwedd arall y mae'n gyffredin iddynt gael eu cynnwys mewn pecynnau.

Cynigion arbennig – gallai'r rhain fod yn bethau fel cynigion i gwsmeriaid newydd a gwasanaethau ar ffurf pecyn.

Gallwch wneud hyn trwy droi at wefan Llywodraeth Cymru. Yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud yw nodi'ch cod post a chwilio am eich cyfeiriad yn y gwymplen.

Ni all y Cyngor gynnig cyngor ynghylch pa Ddarparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd yw'r un gorau i chi.

Gall gwefannau cymharu prisiau fod o gymorth er mwyn darganfod y fargen orau i chi. Awgrymir eich bod yn defnyddio gwefan cymharu prisiau fel Ofcom neu thinkbroadband.com (Saesneg yn unig).

Os nad ydych chi'n gallu dod o hyd i'r wybodaeth yr ydych chi'n chwilio amdani ar y wefan hon, cysylltwch â digidol@ceredigion.gov.uk, gan gynnwys eich cyfeiriad, er mwyn ein helpu i ddelio â'ch ymholiad.