Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Caru'ch Cymuned 2025

Mae ceisiadau ar agor ar gyfer categori newydd yng Ngwobrau Caru Ceredigion 2025.

Bydd gwobrau Caru'ch Cymuned yn cydnabod ac yn dathlu gwaith cymunedol trefi a phentrefi ledled Ceredigion wrth gadw eu cymuned yn daclus, trefnu digwyddiadau a darparu gwasanaethau i bobl yr ardal. Mae cymunedau mawr a bach yn cael eu hannog i gyflwyno cais drwy lanw’r ffurflen datgan diddordeb.

Nod ymgyrch Caru'ch Cymuned yw meithrin a dathlu ymdeimlad o falchder mewn cymunedau ledled y sir, tra'n annog pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau a mentrau sy'n gwella'r amgylchedd, cefnogi busnesau lleol, a chryfhau cydlyniant a gwytnwch cymunedol.

Mae tri chategori yn y gystadleuaeth ar gyfer Gwobrau 2025.

Tabl o'r categorïau yn y gystadleuaeth
Pentref bach Pentrefi sydd â llai na 5 o gyfleusterau
Pentref Pentrefi unigol, ardal benodol o fewn ardal Cymuned neu Gyngor Tref sydd â 5 neu fwy o gyfleusterau
Tref Trefi Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, Cei Newydd, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a Thregaron yn unig. h.y. trefi sydd â chynllun tref

Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno'r Ffurflen Mynegi Diddordeb cyn cyflwyno Ffurflen Gais Lawn.

Y dyddiad cau i gyflwyno'r Ffurflen Mynegi Diddordeb yw Dydd Llun, 7fed o Orffennaf 2025 am 23:59.

Y dyddiad cau i gyflwyno'r Ffurflen Gais Lawn yw Dydd Llun, 8fed o Fedi 2025 am 23:59. Cofiwch ddarllen y Canllawiau cyn cychwyn gweithio ar y Ffurflen Gais Lawn.

Cynhelir y beirniadu ym mis Medi a Hydref 2025 gan banel o feirniaid arbenigol gyda'r rhestr fer yn cael ei chyhoeddi cyn i'r enillwyr gael eu datgelu yn y seremoni ar 11eg o Ragfyr 2025.

Os oes gan ymgeiswyr unrhyw ymholiad yn ystod y broses, cysylltwch â thîm Cynnal y Cardi drwy e-bost at ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.