Pam dod yn Llywodraethwr?

Mae Llywodraethwyr yn gwneud cyfraniad cadarnhaol a buddiol tuag at helpu Cyrff Llywodraethu i fod yn fwy effeithiol gan arwain at wella ysgolion. Mae hefyd yn caniatáu i Lywodraethwyr ddefnyddio eu sgiliau proffesiynol mewn cyd-destun gwahanol ac i ennill profiadau ar lefel eang.

Mae Cyrff Llywodraethu yn dwyn ynghyd ac yn defnyddio sgiliau a phrofiadau pobl o sectorau a diwydiannau amrywiol. Mae’r sgiliau proffesiynol y gallai Cyrff Llywodraethu eu cael yn werthfawr yn cynnwys rheolaeth ariannol a chyfrifyddiaeth; rheoli newid sefydliadol; y gyfraith; adnoddau dynol; rheoli eiddo ac ystadau; gwasanaethau caffael a chontractio; rheoli prosiectau; cyfleoedd cyfartal; diogelu a gofal; rheoli risg; iechyd a diogelwch; marchnata a chysylltiadau cyhoeddus; yn ogystal â TGCh.

Mae dod yn Llywodraethwr gwirfoddol yn gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc ac yn rhoi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.

Nid oes angen profiad neu ddealltwriaeth flaenorol o addysg i fod yn Llywodraethwr oherwydd darperir hyfforddiant a chefnogaeth. Yr hyn sydd ei angen yw rhywun sydd â'r sgiliau, y meddylfryd a'r amser angenrheidiol i gyfrannu.

Y manteision o fod yn Llywodraethwr:

Gall bod yn Llywodraethwr Ysgol fod yn rôl sy'n rhoi boddhad. Dyma rai manteision y mae eraill wedi'u canfod:

  • gwybod eich bod yn helpu ysgolion a disgyblion
  • y boddhad o roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned
  • ymdeimlad o bwrpas a chyflawniad
  • sgiliau newydd y gellir eu trosglwyddo i feysydd eraill
  • ehangu gorwelion
  • ffrindiau a chyfeillion newydd
  • hyfforddiant a chymorth er mwyn eich helpu i gyflawni eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau

Mae’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddod yn llywodraethwr yn cynnwys:

  • ymrwymiad a diddordeb yn nyfodol ein plant a gwella deilliannau addysgol
  • natur chwilfrydig i ddarllen gwaith papur, ei ddadansoddi a’i gwestiynu
  • y gallu i gymhathu gwybodaeth, llunio barn a gwneud penderfyniadau
  • sgiliau rhyngbersonol da a'r gallu i weithio’n rhan o dîm
  • amser
  • cyfrinachedd

Y dewisiadau sydd ar gael:

Mae dau lwybr yn bodoli ar gyfer dod yn Llywodraethwr:

1. Dod yn Llywodraethwr Tymor Llawn lle bydd disgwyl i chi gyflawni'r dyletswyddau llawn fel y disgrifir isod

neu

2. Dod yn Llywodraethwr Cyswllt lle byddech yn cael eich penodi i fod yn rhan o bwyllgorau neu brosiectau penodol yn y tymor byr, lle bydd eich sgiliau yn dylanwadu ar ddatrys materion. Ni fyddai disgwyl i chi fod yn bresennol ym mhob un o gyfarfodydd y Corff Llywodraethu na chyfarfodydd Pwyllgorau, nac ymgymryd â lefel y gwaith a ddisgwylir gan lywodraethwr tymor llawn.

Rôl a Chyfrifoldebau’r Corff Llywodraethu:

Mae Llywodraethwyr Ysgol yn dîm o bobl sy’n gweithio'n agos gyda'r Pennaeth i wneud penderfyniadau allweddol sy'n effeithio’n uniongyrchol ar addysg a lles y plant.

Mae pwerau a dyletswyddau corff llywodraethu yn cynnwys:

  • Darparu golwg strategol – gosod y fframwaith a ddefnyddir gan y pennaeth a'r staff i redeg yr ysgol; gosod nodau ac amcanion, cytuno ar bolisïau, targedau a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni'r amcanion hyn; monitro a gwerthuso
  • Gweithredu fel ffrind beirniadol – darparu cymorth a her i'r pennaeth a'r staff, mynnu gwybodaeth ac eglurhad
  • Sicrhau atebolrwydd – esbonio penderfyniadau a chamau gweithredu'r corff llywodraethu i unrhyw un sydd â diddordeb cyfreithlon

Daw Llywodraethwyr ag ystod eang o sgiliau ac arbenigedd o'u bywydau proffesiynol i'r corff llywodraethu ac mae ysgolion yn elwa'n fawr o weithio gyda gwirfoddolwyr medrus. Gall llywodraethwr sy’n meddu ar wybodaeth yn ymwneud â busnes drawsnewid y ffordd y caiff ysgol ei rhedeg.

Beth a ddisgwylir gan Lywodraethwr?

Mae addysg yn ymwneud â newid pethau er gwell yn barhaus ac fel llywodraethwyr, rydych chi'n chwarae rhan bwysig iawn yn y gwaith o sicrhau'r newidiadau hynny. Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch – mae angen gwirfoddolwyr â chyfoeth o brofiadau bywyd ar ysgolion.

I fod yn llywodraethwr, rhaid i chi fod:

  • yn barod ac yn gallu paratoi ar gyfer cyfarfodydd. Os na allwch baratoi ar gyfer cyfarfodydd, a'u mynychu, ni fyddwch yn gallu helpu'r ysgol yn effeithiol
  • yn gallu bod yn bresennol a chymryd rhan mewn cyfarfodydd: rhaid i'r corff llywodraethu gyfarfod o leiaf unwaith y tymor, ond mae'n debyg y bydd gofyn i chi wasanaethu ar fwy nag un Pwyllgor. Mae’n amrywio pa mor aml y mae’r pwyllgorau hyn yn cyfarfod, ond nid yw'n anarferol i un Pwyllgor gyfarfod bob hanner tymor
  • ar gael i fynychu cyfarfodydd a gynhelir yn gynnar fin nos yn bennaf neu yn ystod y dydd
  • cymryd rhan weithredol mewn cyfarfodydd a gofyn cwestiynau priodol i’r Pennaeth er mwyn sicrhau bod yr ysgol yn cael ei rhedeg yn strategol gywir
  • monitro a gwerthuso perfformiad yr ysgol, gan ddarparu her adeiladol a chefnogol i'r Pennaeth a’r tîm sy’n arwain/rheoli’r ysgol

Ymrwymiad o ran amser:

Ar gyfer Llywodraethwr Llawn, rydym yn cynghori oddeutu 20 awr y tymor (bob 4 mis), yn aml fin nos. Ar gyfer Llywodraethwr Cyswllt, bydd hyn yn llawer llai gan y byddwch yn ymwneud â rhai materion yn unig.

Mae gan Gyrff Llywodraethu y rhyddid i drefnu eu strwythur eu hunain ond efallai y byddwch yn ymwneud â:

  • darllen gwaith papur a pharatoi cwestiynau o flaen llaw cyn cyfarfodydd
  • mynychu cyfarfodydd llawn o’r corff llywodraethu a/neu bwyllgorau
  • ymweld â'r ysgol
  • prosiectau arbennig
  • recriwtio staff
  • adolygu polisïau a chyllideb yr ysgol
  • hyfforddiant

Cyfnod yn y Swydd:

Mae pob llywodraethwr yn gwasanaethu am gyfnod o bedair blynedd o’r adeg y caiff ei ethol neu’i benodi, ond gall ef neu hi ymddiswyddo ar unrhyw adeg trwy roi rhybudd ysgrifenedig i Glerc y Corff Llywodraethu. Gall llywodraethwr gael ei ail-ethol neu’i ail-benodi am dymor pellach. Fodd bynnag, dylai rhiant lywodraethwyr fod yn ymwybodol na allant sefyll i gael eu hail-ethol neu’u hail-benodi oni bai eu bod yn rhiant i ddisgybl sydd wedi’i gofrestru yn yr ysgol. Mae’r Awdurdod Lleol yn gofyn bod Llywodraethwyr penodol yn cael gwiriad datgelu a gwahardd (DBS) yn unol â’i bolisi.

Amser i ffwrdd o’r Gwaith:

O dan y gyfraith cyflogaeth, rhaid i gyflogwyr roi "amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith" i weithwyr sy'n llywodraethwyr ysgol er mwyn iddynt gyflawni eu dyletswyddau. Mae'n rhaid i'r gweithiwr a'r cyflogwr gytuno ar yr hyn yw “amser rhesymol i ffwrdd o’r gwaith”.

Peidiwch â phoeni a theimlo eich bod yn cael eich gorlethu â gofynion y rôl; bydd y cymorth a'r hyfforddiant a ddarperir yn rhoi'r ddealltwriaeth a'r hyder i chi chwarae eich rhan yn sicrhau y bydd ein hysgolion bob amser yn ymdrechu i ddarparu'r addysg orau bosibl i'n plant.

Y Camau Nesaf:

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn llywodraethwr, cwblhewch y Ffurflen Mynegi Diddordeb neu cysylltwch â ni am sgwrs. Bydd unrhyw wybodaeth y gallwch ei rhoi am eich diddordebau, eich sgiliau a'ch arbenigedd, yn ddefnyddiol dros ben. Ni ddylech gyfyngu hyn i wybodaeth am eich cyflogaeth yn unig, a dylai gynnwys gwybodaeth am unrhyw waith gwirfoddol, diddordebau ac unrhyw glybiau a chymdeithasau yr ydych yn perthyn iddynt neu wedi bod yn perthyn iddynt.