Ar 29/02/24, pennodd Cyngor Sir Ceredigion ei gyllideb ar gyfer 2024/25 ar £193.572m sydd wedi arwain at godiad o 11.1% yn Nhreth y Cyngor.  Mae'r codiad hwn yn cynrychioli codiad o 10.0% ar gyfer Gwasanaethau craidd y Cyngor ac 1.1% pellach er mwyn ariannu cynnydd yn ardoll Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer 2024/25. Mae'r cynnydd at ddibynion y Cyngor Sir (gan gynnwys yr ardoll Tan) yn golygu bod eiddo Band D yng Ngheredigion yn talu £1,726.05 - cynnydd o £172.45 (Mae hyn yn gyfwerth a £3.32 ychwanegol yr wythnos)

Cyfrifoldeb bob Awdurdod Lleol cyfansoddol yn y rhanbarth yw’r gwaith o ariannu Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer ei weithredu, gyda phob un yn ysgwyddo cyfran gymesur yn seiliedig ar boblogaeth.   Mae’r cyfraniad sydd ei angen gan Gyngor Sir Ceredigion (a elwir yn Ardoll Tân) wedi codi o £4.856m yn 2023/24 i £5.440m yn 2024/25 (a cynnydd o 12.0%).  Yn wahanol i gost Plismona sy’n Braesept ac a ddangosir ar wahân ar eich bil Treth y Cyngor, mae’r Ardoll Tân yn rhan o Gyllideb £193.572m y Cyngor.   Mae mwy o wybodaeth am y Gwasanaeth Tân ar gael yn www.mawwfire.gov.uk.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn agored mai ei Chyllideb ar gyfer 24/25 yw'r “un fwyaf cyfyng a phoenus ers datganoli”.  Yn dilyn cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 07/02/24 mae Ceredigion dal ond yn derbyn cynnydd o 2.8% yn ei gyllid craidd (14eg o blith y 22 Awdurdod Lleol).  Dyma felly yw Cyllideb fwyaf cyfyng Cyngor Sir Ceredigion hyd yn hyn ac mae’n waeth nag a ragwelwyd yn flaenorol.

Mae'r Cyngor hefyd yn casglu Treth y Cyngor ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys (codiad o 6.2%) a'r Cynghorau Tref a Chymuned (codiad cyfartalog o 9.1%).  Yn gyffredinol, cynyddodd bil Treth y Cyngor ar gyfer eiddo band D 10.25% (mae hyn yn cyfateb i £3.76 yr wythnos yn ychwanegol ar gyfer aelwydydd Band D).

Mae Llywodraeth Cymru yn gosod Asesiad o Wariant Safonol ar gyfer Cynghorau bob blwyddyn.  Mae Asesiad o Wariant Safonol Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2024/25 yn £186.4m.

Mae rhaglen o fuddsoddiad cyfalaf gwerth cyfanswm o £59.1m wedi’i chynllunio ar gyfer 2024/25 (£87.2m ar gyfer cyfnod y rhaglen gyfalaf aml-flwyddyn 2024/25 – 2026/27).

Cyd-Destun Y Gyllideb

Mae'r heriau ariannol y mae'r Cyngor yn eu hwynebu wedi'u gosod yng nghyd-destun yr heriau economaidd cenedlaethol ehangach y mae'r Deyrnas Unedig gyfan yn eu hwynebu.

Cyfanswm y pwysau o ran costau a wynebir gan y Cyngor ar gyfer 2024/25 yw £18m, sy'n cyfateb i ffactor chwyddiant penodol i Geredigion o 10%.   Mae hyn yn cymharu â chwyddiant cyffredinol o 4% (ffigur CPI Ionawr 2024).   Felly bu angen dod o hyd i ddiffyg yn y gyllideb o £14m o gyfuniad o Arbedion o £7.3m yn y Gyllideb ac ystyriaethau Treth y Cyngor.

Yn gyffredinol, nid yw'r meysydd lle gwelir pwysau o ran Costau yn unigryw i Geredigion.  Maent yn amrywio o Ddyfarniadau Cyflog uwch na'r arfer (a bennwyd yn genedlaethol) i chwyddiant Contractau i gynnydd yng nghostau'r ardoll Tân.   Mae'r galw ar gyllidebau sy'n ymwneud â Gofal Cymdeithasol yn parhau i gynyddu'n sylweddol, mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gweithwyr Gofal Cymdeithasol Cofrestredig yng Ngheredigion yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol (sydd wedi codi o £10.90 i £12.00 yr awr – cynnydd o 10.1%).

Yn dilyn penderfyniad y Cyngor Llawn ar 14/12/23 i gynyddu premiymau Treth y Cyngor y gellir eu codi ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Tymor Hir, roedd angen cydbwyso'r awydd i neilltuo holl arian premiymau Treth y Cyngor gyda sefyllfa ehangach y Gyllideb a'r gallu i leihau baich Treth y Cyngor ar holl drigolion Ceredigion. O ganlyniad, mae'r Cynllun Tai Cymunedol newydd yn parhau i fod ar gael i gefnogi preswylwyr yng Ngheredigion gyda llwybr at berchen cartref (mae rhagor o fanylion ar gael o dan y pennawd ‘Cynllun Tai Cymunedol - Cyngor Sir Ceredigion’, mae hwn yn cael ei ariannu gan 25% o arian Premiwm Treth y Cyngor. Mae'r 75% sy'n weddill o arian Premiwm Treth y Cyngor yn cynorthwyo gyda sefyllfa'r gyllideb gyffredinol er mwyn lleihau'r hyn a fyddai wedi bod yn fwy o faich o ran Treth y Cyngor ar drigolion Ceredigion.

Treth Y Cyngor

Beth yn hollol y mae elfen y Cyngor Sir o Dreth y Cyngor yn talu amdano?

Mae Treth y Cyngor yn dreth gyffredinol sy’n seiliedig ar werth eiddo ac nid yw’n gweithredu ar sail Gwasanaeth talu a defnyddio.   Bydd preswylwyr yn gweld ac yn defnyddio gwahanol wasanaethau’r Cyngor ar wahanol adegau yn eu bywydau:  

  • Bydd hyn yn dechrau gyda chofrestru genedigaeth ac yna’n symud ymlaen i gynnwys darparu a chludo i addysg Feithrin, Cynradd ac Uwchradd ac addysg Ôl-16 - boed hynny’n addysg chweched dosbarth neu’n hyfforddiant galwedigaethol. Darperir hefyd Wasanaethau Cerdd a Gwasanaethau Ieuenctid.
  • Fel oedolyn, gall hyn gynnwys defnyddio canolfannau Chwaraeon, defnyddio Llyfrgell, cerdded llwybr Arfordir Ceredigion (a hawliau tramwy cyhoeddus eraill), cofrestru i bleidleisio mewn Etholiad, cyflwyno cais Rheoliadau Cynllunio neu Adeiladu, bwyta mewn sefydliadau bwyd diogel a rheoledig, mynychu Amgueddfa neu Theatr y Cyngor, casglu eich sbwriel (ac yna ei waredu neu ei ailgylchu), defnyddio safle Gwastraff Cartref, gyrru ar Briffyrdd a Phontydd a gaiff eu cynnal a’u cadw (gan gynnwys graeanu’r ffyrdd dros y gaeaf), defnyddio gwasanaeth Bws cyhoeddus, goleuadau stryd ynghynn ar eich stryd a’r gallu i alw’r Gwasanaeth Tân ac Achub mewn argyfwng.
  • Yn ddiweddarach, bydd preswylydd yn elwa o brisiau tocynnau teithio rhatach, ond yn y pen draw efallai y bydd angen mynediad at wasanaethau Gofal a Chymorth (gan ddefnyddio staff gofal cymdeithasol gwerthfawr sy’n derbyn cyflog sydd o leiaf yn Gyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru). Gall hyn gynnwys cefnogaeth a chyfarpar er mwyn gallu byw’n Annibynnol, gofal yn y cartref a lle mewn Cartref Gofal Preswyl. Gall hefyd gynnwys, yn y pen draw, Gwasanaeth y Crwner o bosib a chofrestru marwolaeth.

Dadansoddiad Cyllideb

Beth mae pob Gwasanaeth yn ei gostio?

Mae’r Cyllidebau ar gyfer pob Gwasanaeth wedi’u crynhoi yn y tabl isod:

Gwasanaethau

2024/25
Rheoladwy

Gwasanaeth

Cyllidebau
£'000

Ychwanegu
Dyraniadau Mewnol/Talidau Cyfalaf
£'000

Llai
Ad-daliaadau Mewnol
£'000

2024/25

Cyllideb Net y Cyngor Sir (gan gynnwys Ardollau)
£'000

Cyswllt Cwsmeriaid, TGCh a Digidol

6,673

1,228

(6,388)

1,513

Gwasanaethau Democrataidd

5,187

800

(3,430)

2,557

Yr Economi ac Adfywio

3,724

3,227

(4,176)

2,775

Cyllid a Chaffael

21,417

1,455

(23,649)

(777)

Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol

20,025

7,102

-

27,127

Cyfreithiol a Llywodraethu

1,691

215

(1,259)

647

Pobl a Threfniadaeth

2,413

310

(2,024)

699

Polisi, Perfformiad a Diogelu’r Cyhoedd

2,518

687

(175)

3,030

Porth Cymorth Cynnar

4,066

4,669

-

8,735

Porth Cynnal

38,720

3,690

-

42,410

Porth Gofal

17,537

3,139

-

20,676

Ysgol a Diwylliant

58,068

14,227

-

72,295

Grŵp Arweiniol

5,454

352

-

5,806

Ardollau, Premiwm Treth y Cyngor a Chronfeydd Wrth Gefn

6,079

-

-

6,079

 

193,572

41,101

(41,101)

193,572

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Atodiad 3 adroddiad y Gyllideb a ystyriwyd gan y Cyngor Llawn ar 29/02/24 - Agenda Cyngor ar Ddydd Iau, 29ain Chwefror, 2024. Gellir dangos y costau uniongyrchol y gellir eu rheoli o ran Gwasanaethau'r Cyngor (ac eithrio unrhyw ailddyrannu o ran y Gwasanaethau Cymorth neu daliadau cyfalaf megis Dibrisio) ar gyfer 2024/25 fel hyn:

Bydd 75% o gyllideb y Cyngor yn cael ei wario ar Ysgolion a Dysgu Gydol Oes, Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gydol Oes, a Phriffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol. Ar ôl darparu ar gyfer costau sefydlog (ar y cyfan) eraill (sef Lwfansau’r Aelodau, Ardoll yr Awdurdod Tân, Costau Ariannu Cyfalaf a Chynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor), mae hyn yn gadael dim ond 14% (£27.2m) ar gyfer holl Wasanaethau eraill y Cyngor.

Gwneir Addasiadau ar gyfer y rhain:

* yn cynnwys Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir (o’r Grŵp Arweiniol), Ffioedd Cyfreithiol (o Gyfreithiol a Llywodraethu) a Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru (o Bobl a Threfniadaeth)
** yn cynnwys PFI Penweddig (o Gyllid a Chaffael)

Band

Gwerth Annedd o

Gwerth Annedd hyd at

Rhan o'r Dreth Sylfaenol

Cyngor Ceredigion

Heddlu Dyfed-Powys

£

£

£ c

£ c

 £ c  £ c

A

-

44,000

6ed/9

1,150.70

221.35

B

44,001

65,000

7fed/9

1,342.48

258.25

C

65,001

91,000

8fed/9

1,534.27

295.14

D

91,001

123,000

9fed/9

1,726.05

332.03

E

123,001

162,000

11eg/9

2,109.62

405.81

F

162,001

223,000

13eg/9

2,493.18

479.60

G

223,001

324,000

15fed/9

2,876.75

553.38

H

324,001

424,000

18fed/9

3,452.10

664.06

I

424,001

 -

21ain/9

4,027.45

774.74

Mae eitemau arbennig ychwanegol yn ddyledus i archebiannau Cynghorau Tref/Cymuned fel a gwelir ar y rhestr isod:

EITEMAU ARBENNIG TRETH Y CYNGOR 2024-2025

Tref neu Gymuned

Archebiant 2023-2024 Archebiant 2024-2025 Treth y Cyngor (Band D)
 

£ c

£ c

£ c

Aberystwyth

578,990.00

635,275.00

151.58

Aberaeron

42,592.00

46,824.00

58.24

Aberteifi

85,735.05

90,022.00

47.96

Llanbedr Pont Steffan

39,000.00

43,000.00

42.64

Cei Newydd

16,876.29

38,260.00

45.00

Borth

23,467.00

34,599.69

43.80

Ceulanamaesmawr

16,000.00

16,000.00

36.56

Blaenrheidol

4,525.00

4,706.00

22.43

Genau'r Glyn

9,500.00

10,000.00

27.22

Llanbadarn Fawr

43,281.00

49,281.00

55.17

Llangynfelin

7,000.00

8,250.00

29.48

Llanfarian

14,700.00

22,700.00

29.30

Llangwyryfon

3,668.00

4,500.00

17.17

Llanilar

7,000.00

7,200.00

14.77

Llanrhystud

8,600.00

11,600.00

24.98

Melindwr

7,000.00

7,500.00

13.94

Pontarfynach

3,500.00

3,500.00

13.69

Tirymynach

19,500.00

19,500.00

23.64

Trawsgoed

5,200.00

5,200.00

11.36

Trefeurig

13,000.00

18,000.00

22.41

Faenor

33,427.00

33,812.00

40.84

Ysgubor-y-Coed

3,500.00

3,850.00

22.92

Llanddewi Brefi

9,500.00

14,400.00

46.83

Llangeitho

5,500.00

5,500.00

14.62

Lledrod

2,321.00

2,553.00

7.93

Nantcwnlle

2,200.00

2,500.00

6.56

Tregaron

22,000.00

25,000.00

44.40

Ysbyty Ystwyth

3,000.00

2,500.00

11.49

Ystrad Fflur

7,213.00

7,574.00

23.89

Ystrad Meurig

2,184.52

2,410.66

14.00

Ciliau Aeron

6,000.00

6,000.00

13.89

Henfynyw

7,000.00

7,000.00

13.25

Llanarth

9,481.50

10,903.73

14.54

Llandysiliogogo

10,267.92

12,834.90

22.69

Llainfair Clydogau

3,500.00

7,000.00

23.03

Llanfihangel Ystrad

9,950.00

9,950.00

14.44

Llangybi

4,000.00

4,600.00

15.96

Llanllwchaearn

11,340.00

11,566.80

22.84

Llansantffraed

24,000.00

28,000.00

43.77

Llanwenog

15,000.00

15,000.00

25.08

Llanwnnen

3,465.00

3,568.95

16.20

Dyffryn Arth

14,720.00

14,550.00

24.12

Aberporth

41,100.00

46,298.66

39.32

Beulah

25,000.00

25,000.00

27.98

Llandyfriog

15,000.00

26,000.00

30.10

Llandysul

47,758.48

50,737.14

39.72

Llangoedmor

30,000.00

32,400.00

53.45

Llangrannog

10,500.00

10,500.00

23.16

Penbryn

12,000.00

12,500.00

16.00

Troedyraur

11,000.00

12,000.00

17.48

Y Ferwig

24,600.00

24,600.00

36.47

Cyfanswm

1,375,662.76

1,547,027.53