Roedd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn caniatáu i Awdurdodau Bilio yng Nghymru godi Premiwm o hyd at 100% o 01/04/2015 ar gyfer â'r ddwy adran a nodir isod (12A a 12B). Ni chododd Ceredigion Premiwm rhwng 01/04/2015 a 31/03/2017. Ar 01/04/2017 cyflwynwyd premiwm o 25% ar gyfer y ddau ddosbarth.

Roedd newidiadau i'r Ddeddfwriaeth yn caniatáu cynyddu Treth y Cyngor i 400% (100% Treth y Cyngor a 300% premiwm) o 01/04/2023.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu, ar gyfer ag eiddo sy'n disgyn o dan adran 12A a 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 y bydd y premiymau canlynol yn gymwys o 01.04.2024 ymlaen:

12A: anheddau gwag hirdymor

Y meini prawf yw;

At ddibenion yr adran hon, mae annedd yn "annedd wag hirdymor" ar unrhyw ddiwrnod os am gyfnod di-dor o 1 flwyddyn o leiaf sy'n dod i ben â'r diwrnod hwnnw

  • mae heb ei ddefnyddio, ac
  • mae heb ei ddodrefnu’n sylweddol
  • 100% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn eiddo gwag hirdymor am hyd at a chan gynnwys 5 mlynedd
  • 150% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn eiddo gwag hirdymor ers dros 5 mlynedd a hyd at ac yn cynnwys 10 mlynedd
  • 200% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn eiddo gwag hirdymor ers dros 10 mlynedd

12B: anheddau a breswylir ynddynt o bryd i'w gilydd (a elwir weithiau'n ail gartrefi)

Y meini prawf yw;

  • nid oes preswylydd yn yr annedd, a
  • mae'r annedd wedi'i ddodrefnu'n sylweddol

Mae anheddau a breswylir ynddynt o bryd i'w gilydd (wedi'u dodrefnu ond heb breswylydd) yn cynnwys pob ail gartref a llety hunanarlwyo sy'n methu â bodloni meini prawf Ardrethi Annomestig.

  • 100% o 01/04/2024

Mae'r mathau canlynol o eiddo wedi'u heithrio rhag premiymau

Dosbarth 1 Anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu (uchafswm o 12 mis)
Dosbarth 2 Anheddau sy'n cael eu marchnata i'w rhentu (uchafswm o 12 mis)
Dosbarth 3 Annedd sy'n rhan o'r prif dŷ ac sy'n cael ei ddefnyddio gan breswylwyr y prif dŷ
Dosbarth 4 Anheddau gwag a fyddai'n brif gartref i rywun ond eu bod yn y lluoedd arfog
Dosbarth 5 Carafanau na breswylir ynddynt gan unrhyw un fel unig neu brif breswylfa ac angorfeydd cychod
Dosbarth 6 Anheddau gydag amodau cynllunio sy'n atal deiliadaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn. O 01.04.2023 mae hyn wedi'i ymestyn i gwmpasu'r caniatâd uchod a (b) sy'n pennu y gellir defnyddio'r annedd ar gyfer gwyliau tymor byr yn unig (c) sy’n atal deiliadaeth fel unig breswylfa neu brif breswylfa'r person
Dosbarth 7 Yn gysylltiedig â swydd

Mae'r Cyngor yn gweithredu i annog perchnogion i ddod ag anheddau gwag yn ôl i ddefnydd llawn amser ac rydym yn gallu eich cynorthwyo yn y ffyrdd canlynol:

  • cymorth ariannol drwy fenthyciad (di-log) i adnewyddu'r annedd
  • cymorth i ganfod gwaith sy'n ofynnol i sicrhau bod modd byw yn yr eiddo
  • cyngor ar y ffordd orau i drefnu unrhyw waith sydd ei angen ar yr eiddo
  • helpu i ddod o hyd i denantiaid ar gyfer yr eiddo gan gynnwys argaeledd cynlluniau prydlesu neu reoli
  • helpu i drefnu gwerthu'r annedd
  • llythyr i gefnogi cyfradd is o TAW ar gyfer gwaith a wnaed (Ar gyfer eiddo sy'n wag dros 2 flynedd, mae hyn yn cael ei ostwng i 5%)

Os hoffech gysylltu â'r Swyddog Eiddo Gwag i drafod ymhellach sut y gallwch ddychwelyd eich eiddo i'w ddefnyddio'n llawn amser, cysylltwch â'r Gwasanaeth Tai ar 01545 570881 neu drwy e-bost yn tai@ceredigion.gov.uk.

Gweler hefyd y dolenni canlynol am fwy o fanylion ewch i tudalennau Y Cynllun Cartrefi Gwag a Atgyweiriadau a Benthyciadau ni.