Cewch wneud amrywiol daliadau trwy'r wefan ddiogel yma gan ddefnyddio'r rhan fwyaf o'r prif gardiau credyd neu ddebyd.

Taliad Ar-lein

Gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol drwy eich Cyfrif Banc neu Gymdeithas Adeiladu.

Rhoddir rhybudd o 14 diwrnod i chi yn nodi'r swm i'w ddebydu neu'n rhoi gwybod i chi am unrhyw newid a wnaed yn y swm neu'r dyddiadau talu

  • Os gwneir camgymeriad, cewch ad-daliad llawn yn ddi-oed gan eich cangen
  • Gallwch ganslo'r Debyd Uniongyrchol ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu at eich Banc neu Gymdeithas Adeiladu. Defnyddiwch brint bras ar y ffurflen Debyd Uniongyrchol

Gallwch gofrestru ar gyfer Debyd Uniongyrchol ar-lein. Drwy gofrestru ar gyfer Cyswllt gallwch weld eich Treth Cyngor, Budd-daliadau neu gyfrifon Trethi Busnes ar-lein. Gyda cyfrif Cyswllt gallwch weld eich hysbysiadau, weld eich balans, newid eich manylion Debyd Uniongyrchol a llawer mwy. Cliciwch ar y cyswllt Cyswllt / E-Bilio ar y chwith i gofrestru.

Gallwch ddefnyddio un o'r dulliau isod i dalu:

Rhaid i'r cerdyn rhandaliadau gael ei ddangos gyda'r tâl.

Drwy'r Post Dylai sieciau neu Archebion Post gael eu gwneud yn daladwy i "Gyngor Sir Ceredigion" a'u croesi.
(Ysgrifennwch eich cyfeirif ar gefn y siec neu'r archeb bost.)
Dylai arian parod gael ei anfon drwy'r Post Cofrestredig yn unig.
Anfoner at: Y Cyfarwyddwr Cyllid, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.
Dros Y Ffôn neu yn bersonol yn unrhyw un o Swyddfeydd y Cyngor a restir yn y llyfryn. Gallwch hefyd wneud taliadau drwy ffôn dôn gyffwrdd Ffoniwch 0845 6071012 a dilyn y cyfarwyddiadau.
Swyddfeydd Post a safleoedd 'Payzone' Mae eich nodyn hawlio yn cynnwys côd bar y gellir ei ddefnyddio i wneud taliad mewn Swyddfa Bost neu safle 'Payzone' gan ddefnyddio cerdyn debyd, arian parod neu siec. Bydd angen i chi gyflwyno nodyn hawlio wrth wneud y taliad. Dewch o hyd i'ch 'Payzone' agosaf yn Ceredigion.

Mae oriau agor gwasanaethau cwsmeriaid wyneb i wyneb fel a ganlyn:

  • Dydd Llun: 09:00-13:00 / 14:00-16:30
  • Dydd Mawrth: 09:00-13:00 / 14:00-16:30
  • Dydd Mercher: 09:00-13:00 / 14:00-16:30
  • Dydd Iau: 09:00-13:00 / 14:00-16:30
  • Dydd Gwener: 09:00-13:00 / 14:00-16:00

 Wyneb i wyneb

Aberystwyth
Canolfan Alun R Edwards
Sgwar y Frenhines
Aberystwyth
SY23 2EB


Llanbedr Pont Steffan
Swyddfeydd y Cyngor
Stryd y Farchnad
Llanbedr Pont Steffan
SA48 7DS


Aberaeron
Neuadd y Sir
Stryd y Farchnad
Aberaeron
SA46 OAT


Aberteifi
Swyddfeydd y Cyngor
Stryd Morgan
Aberteifi
SA43 1DG


Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid - Mae’r Swyddfeydd Lleol ar gau dydd Sadwrn a dydd Sul ac ar wyliau banc a chyhoeddus.

Mae'r taliadau'n ddyledus ar y 1af o bob mis rhwng mis Ebrill a mis Ionawr. Fel arall, fe allwch ddewis gwneud un taliad ar Fai 1af neu ddwywaith y flwyddyn ar Fai 1af a Hydref 1af. Fedrwch hefyd ddewis i dalu dros 12 mis. Cysylltwch a'r Adran Drethi Lleol i dreffnu hyn. Os dewyswch i dalu drwy debyd Uniongyrchol, fedr hyn hefyd gael ei dreffnu ar 1af, 15ed neu 22ain o'r mis.