Gallwch apelio os credwch:

  • Fod y bil wedi'i gyfeirio i'r person anghywir
  • Y dylai eich eiddo gael ei eithrio rhag talu Treth y Cyngor
  • Bod gennych hawl i ostyngiad ond na roddwyd gostyngiad i chi
  • Bod gennych hawl i ostyngiad ar gyfer yr anabl ond na roddwyd gostyngiad i chi
  • Na ddylai eich eiddo fod yn y dosbarthiadau penodedig o anheddau.

Dylech ysgrifennu yn y lle cyntaf at y Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael yn nodi beth yn union yw sail eich apêl. Caiff y sefyllfa ei hadolygu a chewch wybod beth fydd y penderfyniad. Os byddwch yn dal i deimlo'n anhapus â'r penderfyniad, bydd gennych hawl i apelio ymhellach gerbron Tribiwnlys Prisio.

Dylech anfon unrhyw ymholiadau sydd gennych ynglŷn â'r bil at y canlynol:

Swyddog Arweiniol Corfforaethol, Cyllid a Chaffael, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UE.

Ymholiadau Personol

Gellir gwneud ymholiadau drwy alw yn Canolfan Alun R Edwards, Queens Square, Aberystwyth, neu yn y Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid – Swyddfeydd Lleol.