Ffurf ar drethi lleol yw Treth y Cyngor sy'n cael ei godi gan gynghorau lleol ar bobl sydd naill ai'n byw mewn eiddo domestig neu'n berchen ar eiddo.

Caiff yr union swm ei gyfrif drwy adio'r hyn sydd ei angen ar Sir Ceredigion, Awdurdod Heddlu Dyfed Powys a Chynghorau Tref a Chymuned. Bydd yr arian a gaiff ei gasglu o fwy na 30,000 o gartrefi, ynghyd â grantiau gan y Llywodraeth, yn cael ei ddefnyddio i ddarparu nifer o wahanol wasanaethau yn y sir.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gyfrifol am ddarparu nifer o wasanaethau sy'n cynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, llyfrgelloedd, cynnal a chadw priffyrdd, goleuadau ar y stryd, rheoli adeiladu, cynllunio a datblygu economaidd, rhaglenni tocynnau teithio mantais, cludiant teithwyr, mynwentydd, safonau masnach, rheoli gwastraff, tai cyngor, cymorth i'r digartref, canolfannau hamdden, parciau, meysydd chwarae, marchnadoedd, budd-dal tai, iechyd a diogelwch, hylendid bwyd, canolfannau gwybodaeth, rheoli plâu a gwasanaethau cysylltiedig. Mae 50% o'r dreth yn seiliedig ar yr eiddo ei hun ac mae'r 50% arall yn seiliedig ar elfennau personol a chaiff ei hawlio ar gyfer pob cartref a fflat o fewn ffiniau'r awdurdod ar y dybiaeth bod 2 oedolyn yn byw mewn pob eiddo. Fodd bynnag, os mai un oedolyn yn unig a fydd yn byw yn yr eiddo, mae'n bosib y bydd gostyngiad o 25% ar gael. Tra gall Treth y Cyngor gael ei hawlio ar gyfer eiddo gwag, bydd rhai eithriadau yn gymwys hefyd.

Roedd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn caniatáu i Awdurdodau Bilio yng Nghymru godi Premiwm o hyd at 100% o 01/04/2015 ar gyfer adrannau 12A a 12B. Ni chododd Ceredigion Premiwm rhwng 01/04/2015 a 31/03/2017. Ar 01/04/2017 cyflwynwyd premiwm o 25% ar gyfer y ddau ddosbarth.

Roedd newidiadau i'r Ddeddfwriaeth yn caniatáu cynyddu Treth y Cyngor i 400% (100% Treth y Cyngor a 300% premiwm) o 01/04/2023.

Nodwch y newidiadau i Premiymau Treth y Cyngor o 01/04/2024 ar ein tudalen Premiwm Treth y Cyngor ar Eiddo a fu'n wag am dymor hir neu Ail Gartref.