Ymunwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr i gael:
- cylchgrawn y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr rheolaidd
- gwybodaeth ddefnyddiol a fydd yn cael ei theilwra i ateb eich gofynion chi am bethau fel gwasanaethau, cymorth, deddfwriaeth ac ati
- gwybodaeth am y Fforwm Gofalwyr sy’n cwrdd yn rheolaidd i roi cymorth, i rannu gwybodaeth ac i feithrin cyfeillgarwch
- gwybodaeth am ddigwyddiadau i Ofalwyr
- gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi perthnasol
- gwybodaeth am ymgyngoriadau ar faterion lleol a chenedlaethol – eich cyfle chi i leisio’ch barn ar faterion sy’n effeithio ar Ofalwyr
Gallwch chi ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr i gael y buddion uchod. Gallwch ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr AM DDIM.
Os hoffech chi ymuno â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr i gael y manteision a restrir uchod, cysylltwch â ni dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy lythyr, neu llenwch y ffurflen isod a’i hanfon i’r Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol:
Ffurflen Gofrestru ar gyfer Y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr
Post:
Tîm Gofalwyr a Chymorth Cymunedol
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE
Ffôn:
01545 574200
Ebost: