Partneriaeth ranbarthol a threfniant ymgysylltu yw Tyfu Canolbarth Cymru, rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus, a gyda Llywodraeth Cymru. Mae'r fenter yn ceisio cynrychioli buddiannau'r rhanbarth a lobïo o blaid ein blaenoriaethau ar gyfer gwella'r economi lleol.

Cefndir

Mae nifer o nodweddion unigryw i ranbarth Canolbarth Cymru, sy'n rhannol yn cynnwys terfynau gweinyddol Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys, ac mae hyn yn golygu bod tyfu'r economi lleol yn her oherwydd ei natur wledig, gorddibyniaeth ar Fentrau Bychain a Chanolig eu maint (SME) a'r ffaith ei bod ar y cyrion.

Ar y llaw arall, mae'r nodweddion hyn yn darparu sawl cyfle ar gyfer ehangu yn y dyfodol, diwylliant entrepreneuraidd a hunan-ddibynnol, lle i ehangu, gwelliannau i'r seilwaith, a'u tebyg.

Mae Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn dymuno dwyn ynghyd busnesau lleol, arweinwyr academaidd a llywodraeth leol i greu gweledigaeth ar gyfer twf Canolbarth Cymru yn y dyfodol, a hyrwyddo a dylanwadu ar ei hehangiad.

Ar draws y sector cyhoeddus, y trydydd sector a'r sector preifat yng Nghanolbarth Cymru, rydym yn cydnabod yr angen i ddatblygu consensws ar y blaenoriaethau ar gyfer ein rhanbarth, ynghyd â rhannu ein gweledigaeth i wneud cynnydd gyda swyddi, twf a'r economi lleol. Mae angen effeithiau cryfach a gwell canlyniadau trwy weithio gyda'n gilydd ar draws y rhanbarth, gydag adnoddau cyhoeddus sy'n crebachu.

Bydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn darparu arweinyddiaeth ranbarthol ar gyfer ein gweledigaeth, a bydd yn fecanwaith 'ysgafn' effeithiol a fydd yn craffu, yn herio, yn dod o hyd i gyfleoedd a gwendidau ac felly'n cychwyn ac yn cynnig ymyriadau a fydd yn cyflawni gwell canlyniadau a rhagor ohonynt ar gyfer ein rhanbarth.

Ein nod yw

  • annog rhyngweithio gyda busnesau, addysg bellach ac uwch, a gyda budd-ddeiliaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat
  • adnabod themâu a sectorau allweddol, a blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi
  • cefnogi arloesedd, menter a buddsoddiad sy'n cael ei arwain gan fusnesau yng Nghanolbarth Cymru
  • cefnogi cysyniadau Parthau Twf Lleol Powys, SIROLI a Pharth Twf Gwledig Dyffryn Teifi
  • ymgysylltu â Fforwm Economaidd Canol Cymru a Fforwm Twristiaeth Canolbarth Cymru
  • sicrhau gwaith cydweithredol a thrawswffurfiol ehangach gyda sefydliadau sy'n bartneriaid allweddol a'r gymuned fusnes
  • cytuno ar swyddogaethau, cyfrifoldebau a gwell trefniadau cyflwyno wrth hyrwyddo datblygiad economaidd.

Gweledigaeth ar gyfer Tyfu Canolbarth Cymru 

Cynllun Economaidd Strategol a Map Ffordd y Fargen Twf, Mai 2020

Tyfu Canolbarth Cymru