Beth yr ydym yn ei wneud a sut yr ydym yn gweithredu
Gweledigaeth gyffredinol Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Ceredigion yw "Defnyddiwr Hyderus, Masnachwyr yr Ymddiriedir ynddynt" a'n prif nod yw sicrhau y cydymffurfir â safonau bwyd ac amaeth, pwysau a mesurau, masnachu teg a deddfwriaethau diogelwch, a hynny er lles defnyddwyr ynghyd â masnachwyr teg a gonest.
Rydym yma i warchod ...
- Defnyddwyr rhag iddynt gael eu twyllo gan fasnachwyr diegwyddor a thwyllodrus
- Masnachwyr rhag iddynt gael eu niweidio gan gystadleuaeth annheg ac anghyfreithlon
Yr hyn y gallwn a'r hyn na allwn ei wneud
Gall ein gwasanaeth eich helpu chi mewn sawl ffordd. Gallwn:-
- rhoi cyngor diduedd ar gyfraith defnyddwyr a'ch hawliau
- awgrymu camau y gallwch eu cymryd
- ymchwilio a aed yn groes i'r gyfraith droseddol o fewn cylch gorchwyl y Safonau Masnach
Yn anffodus, cyfyngir ar y cymorth y gallwn ei roi i chi o ganlyniad i'r pwerau a roddir inni gan ddeddfwriaethau. Er enghraifft, NI ALLWN:-
- cau lawr busnesau
- weithredu ar eich rhan fel canolwyr rhyngoch chi a masnachwr er mwyn sicrhau ad-daliad neu ddatrysiad arall mewn achos o dorri cytundeb
- gweithredu pan na thorrwyd yr un gyfraith droseddol
- argymell busnes
- dweud wrthych chi pa fusnes i osgoi
Ein ffordd o weithio
Y mae swyddogion yr Adain Safonau Masnach yn cyflawni eu dyletswyddau drwy:
- Archwilio eiddo masnach er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â chyfreithiau o ran mesureg gyfreithiol, safonau ansawdd, diogelwch cynnyrch a masnachu teg
- Ymchwilio i gwynion ynghylch nwyddau a gwasanaethau
- Samplu a phrofi cynnych a gwasanaethau - ee casglu samplau bwyd er mwyn profi eu bod yn cwrdd â safonau cyfansoddol a labelu; profi diogelwch cynnyrch, teclynnau trydanol, teganau, cynhyrchion cosmetig; cymryd samplau o fwydydd anifeiliaid a gwrtaith amaethyddol er mwyn dadansoddi eu cyfansoddiad, ac ati
- Cynnal prosiectau ac arolygon o gynnyrch ac arferion masnach amrywiol
- Trefnu cyflwyniadau ac arddangosfeydd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r Gwasanaeth Safonau Masnach
- Cymryd camau gorfodi - pan fydd swyddogion yn ymchwilio i achosion o dorri deddfwriaeth. Yn aml, caiff troseddwyr eu herlyn yn y llysoedd troseddol
Nid yw'r Gwasanaeth Safonau Masnach yn gweithredu ar ei ben ei hun. O gofio nad yw ffiniau daearyddol yn rhwystro trafodion masnachol, y mae'r swyddogion yn aml mewn cysylltiad â gwasanaethau Safonau Masnach eraill drwy'r Deyrnas Unedig. Mae'r swyddogion hefyd yn cysylltu ag asiantaethau gorfodi eraill megis Heddlu Dyfed Powys a Thollau Tramor a Chartref EM, ynghyd ag Adrannau'r Llywodraeth.
Crynodeb fyr o cyfrifoldebau craidd y wasanaeth Safonau Masnach Masnach
Mae'r Gwasanaeth Safonau Masnach yn gyrfifol am nifer o feysydd cyfreithiol craidd, sef:
- Sicrhau bod cyfarpar pwyso a mesur a ddefnyddir ar gyfer masnachu yn gywir ac yn gyfreithlon
- Atal gwerthiant nwyddau sy'n brin o ran pwysau a maint
Nod y ddeddfwriaeth hon yw sicrhau y caiff yr holl nwyddau a werthir yn ôl eu pwysau, cyfaint neu hyd eu gwerthu'n gywir. Caiff y rhan fwyaf o gyfarpar masnach ei reoleiddio, ac y mae Archwilwyr Pwysau a Mesurau yn profi ystod o gyfarpar pwyso a mesur fel mater o drefn, a hynny er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth. Enghreifftiau o'r rhain yw tafol mewn siopau, pympiau petrol, mesuryddion a welir ar danceri tanwydd swmp, optigau mewn tafarndai a gwydrau cwrw ynghyd â mathau eraill o gyfarpar a ddefnyddir gan fusnesau er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi'r mesur cywir ee peiriannau pwyso.
- Sicrhau y caiff bwyd ei labelu a'i ddisgrifio'n gywir
- Sicrhau y caiff bwyd anifeiliaid a gwrtaith ei labelu a'i ddisgrifio'n gywir ac nad yw'n cynnwys elfennau afiach, peryglus neu annymunol
Safonau Bwyd
Ein cyfrifoldebau o ran safonau bwyd yw sicrhau bod y bwyd yn y gadwyn fwyd yn cwrdd â safonau penodol o ran cyfansoddiad, y caiff ei labelu'n gywir ac na chaiff ei gamddisgrifio neu ei lygru mewn unrhyw fodd.
Rydym yn cynnal rhaglen samplu bwyd bob blwyddyn er mwyn sicrhau y caiff pob math o fwydydd a gyflenwir o ystod eang o werthwyr bwyd megis archfarchnadoedd, bwytai a siopau 'pryd i fynd' eu disgrifio'n gywir ac nad oes ynddynt gynhwysion anghyfreithlon. Yn ogystal, cynhelir archwiliadau er mwyn sicrhau na werthir bwyd wedi'r dyddiad olaf defnyddio.
Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau ar bob math o eiddo sy'n gwerthu bwyd (siopau adwerthu, cyfanwerthwyr a chynhyrchwyr bwyd) er mwyn sicrhau eu bod yn cwrdd â safonau bwyd.
Safonau Amaeth
Y cynnyrch cyntaf mewn unrhyw gadwyn fwyd yw'r bwyd a roddir i'r anifail sy'n cael ei dewhau er mwyn ei ladd neu'r gwrtaith a chwistrellir ar y cnydau. Ein cyfrifoldebau o ran safonau amaethyddol yw sicrhau bod cyfansoddiad a'r labeli ar rai bwydydd, gwrtaith a phlaleiddiad yn gywir a gwireddwn hyn drwy gymryd samplau arferol o'r fath gynhyrchion.
Rydym hefyd yn cynnal archwiliadau o fasnachwyr a chynhyrchwyr amaethyddol, yn ogystal ag archwilio ffermydd cofrestredig sy'n cymysgu eu bwyd anifeiliaid eu hunain, a hynny er mwyn sicrhau nad yw'r bwyd anifeiliaid a ddefnyddir i fwydo anifeiliaid a fwriedir ar gyfer y gadwyn fwyd ddynol yn cynnwys sylweddau afiach, peryglus neu annymunol. Felly, y mae rheoli bwydydd anifeiliaid, gwrtaith, plaleiddiad a lefelau ychwanegion yn elfen bwysig o ddiogelwch bwyd.
- Sicrhau bod nwyddau a werthir i ddefnyddwyr yn ddiogel (diogelwch cynhyrchion)
- Gwerthiant a gyfyngir yn ôl oedran
- Sicrhau y caiff ffrwydron, gan gynnwys tân gwyllt, eu storio'n ddiogel
Gwerthu dan oedran
Drwy'r Deyrnas Unedig, mae gan y Safonau Masnach gyfrifoldeb dros weithredu deddfwriaeth gwerthu dan oedran sy'n cyfyngu ar yr oedran y gall pobl ifanc brynu rhai nwyddau, megis sigaréts, fideos a DVD'au, tân gwyllt, cyllyll ac alcohol.
Y mae gwerthu alcohol dan gyfyngiad oedran yn gyfrifoldeb sy'n cael ei rannu gan Safonau Masnach a'r heddlu. Y mae'r heddlu yn gyfrifol am weithredu'r gyfraith yng nghyswllt gwerthu alcohol a gyfyngir yn ôl oedran mewn eiddo trwyddedig, ee tafarndai a chlybiau, ac y mae Safonau Masnach yn gyfrifol am werthu alcohol mewn Siop Drwyddedig.
Rydym yn cynnal archwiliadau rheolaidd ac rydym y rhoi cyngor a chanllawiau i fusnesau. Rydym hefyd yn profi nwyddau drwy eu prynu er mwyn sicrhau bod busnesau yn gweithredu o fewn y gyfraith ac nad ydynt yn gwerthu cynhyrchion a gyfyngir yn ôl oedran i blant dan oed.
Sut y gallaf adrodd gwerthiannau dan oed o nwyddau cyfyngedig i blant?
Mae'n rhwystredig ar gyfer busnesau sy'n parchu'r gyfraith i weld eraill yn ôl pob golwg yn diystyru'r gyfraith.
Os ydych yn credu bod gwerthiant dan oed yn digwydd mewn mannau eraill, gallwch roi gwybod am y mater i ni yn gyflym ac yn ddienw drwy gysylltu â Gwasanaethau i Ddefnyddwyr gan Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 05.
Trwy ddarparu'r wybodaeth angenrheidiol (hy enw siop, lleoliad, pan fydd y gwerthiant ddigwyddodd, ayyb), bydd y wybodaeth yn cael ei throsglwyddo atom ni i edrych mewn i'r peth ymhellach.
Oedran Ieuengaf I Brynu Cynhyrchion Penodol
Validate UK - cynllun profi eich oedran
Mae VALIDATE UK yn gynllun profi oedran gwirfoddol i bobl ifanc 12-18 ac yn hun. Y mae Gwasanaeth Safonau Masnach Cyngor Sir Ceredigion, yn hollol gefnogol i'r cynllun VALIDATE UK i bobl ifanc yng Ngheredigion. Mae llwyddiant VALIDATE UK yn dibynnu ar weithio mewn partneriaeth ynghyd ag ymrwymiad adwerthwyr, ysgolion, yr awdurdod lleol a phobl ifanc a'u teuluoedd.
Os ydych am ragor o wybodaeth am y cynllun profi oedran VALIDATE UK, cysylltwch â Iechyd a Lles, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA, ffôn: 01545 572105 neu e-bost envhealth@ceredigion.gov.uk neu drwy ffonio ValidateUK ar 01434 634996 neu drwy validateuk.co.uk.
Diogelwch Cynnyrch
Os y'u bwriedir ar gyfer llogi neu eu gwerthu yn newydd neu ail law, y mae'n rhaid i gynhyrchion fod yn ddiogel. Ceir ystod eang o Reoliadau sy'n rheoli diogelwch cynhyrchion i ddefnyddwyr, o deganau, dodrefn, nwyddau trydanol a hyd yn oed deunyddiau adeiladau. Mae swyddogion yn ymweld ag eiddo cynhyrchu, cyfanwerthu ac adwerthu er mwyn archwilio nwyddau a chymryd samplau i'w profi er mwyn sicrhau bod yr eitemau yn ddiogel. Rydym hefyd yn cynnal hapwiriadau mewn gwerthiannau cist car a marchnadoedd Sul.
O fewn ein cylch gorchwyl diogelwch defnyddwyr, y mae hefyd gennym gyfrifoldeb dros:
Storio Ffrwydron a Gwenwyn
Rydym yn cynnal archwiliadau er mwyn sicrhau y caiff tân gwyllt a ffrwydron tebyg eraill, e.e. cetris drylliau, eu storio'n ddiogel mewn eiddo adwerthu a bod ganddynt drwydded i wneud hynny.
- Atal honiadau ffals am gynhyrchion a gwasanaethau
- Sicrhau y ceir awyrgylch fasnach deg i bob busnes
- Sicrhau na chaiff credyd ei gynnig ond gan fasnachwyr trwyddedig
Y mae'r maes hwn o weithredu'r gyfraith yn ymdrin ag ystod eang iawn o faterion sy'n ymwneud â thwyllo defnyddwyr gan gynnwys nwyddau a gwasanaethau nad ydynt wedi eu disgrifio'n gywir, problemau credyd defnyddwyr, prisiau camarweiniol a ffugio. Y mae unrhyw arferion masnachu y cânt eu hystyried yn dwyllodrus neu annheg hefyd yn syrthio i'r categori hwn.
Rydym yn cadw golwg ar y farchnad, cynnal archwiliadau, ymchwilio i gwynion a rhoi cyngor i fusnesau er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth.
Disgrifiadau Masnach
Mae'r ddeddfwriaeth hon yn sicrhau y caiff unrhyw nwyddau neu wasanaethau eu disgrifio'n gywir. Y mae'n cwmpasu popeth, o wyliau na ddisgrifiwyd yn gywir i fasnachwr yn cymryd arnynt eu hunain i fod yn aelodau o gymdeithas fasnachu benedol.
Nwyddau Ffug
Ymddengys eu bod yn fargeinion, ond y mae nwyddau ffug, megis copïau o Gryno Ddisg siartiau neu feddalwedd cyfrifiadurol, heb eithriad, o ansawdd is na'r cynnyrch gwreiddiol. Yn achos persawrau a theganau ffug, ymddengys y gall y rhain fod yn beryglus hefyd.
Prisiau
Nod y ddeddfwriaeth hon yw sicrhau bod y pris a nodir ar gyfer nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys gostyngiadau mewn prisiau yn cael ei esbonio'n glir ac nad ydynt yn gamarweiniol.
Credyd
Y mae'n rhaid i'r sawl sy'n cynnig credyd, e.e. benthycwyr arian a broceriaid, feddu ar drwydded credyd defnyddwyr a roddwyd gan y Swyddfa Masnachu Teg (OFT) ac y mae'n rhaid i unrhyw gytundebau credyd y gallant eu cynnig gydymffurfio â deddfwriaeth gredyd benodol. Y mae'n rhaid i unrhyw hysbysed gredyd gydymffurfio â deddfwriaeth benodol ac ni ddylai fod yn gamarweiniol.
I Ddefnyddwyr
Mae Safonau Masnach yn dymuno gweld defnyddwyr hyderus a gwybodus sy'n gwybod sut i chwilio am y fargen orau i gael yr hyn maent yn dymuno ei gael am y pris cywir a sut i osgoi masnachwyr twyllodrus. Mae cyngor a gwybodaeth dda yn hanfodol, yn ogystal â gwybod at bwy i droi am help.
Os oes gennych chi broblem fel defnyddiwr/wraig y teimlwch y dylem fod yn ymwybodol ohoni, neu os oes angen arnoch gyngor, yn syml iawn, er mwyn ceisio datrys problem o'ch pen a'ch pastwn eich hun ond nid ydych yn si r iawn beth yw eich hawliau fel defnyddiwr/wraig, gallwch gysylltu â ni mewn sawl ffordd.
Darparir cyngor i ddefnyddwyr yng Ngheredigion gan Cyngor ar Bopeth bellach. Fodd bynnag, byddant yn cyfeirio ymholiadau cymhleth neu'r rhai y mae angen cymryd camau pellach yn eu cylch, ymlaen at Safonau Masnach Ceredigion.
Cyswllt dros y Ffôn - Os hoffech siarad â chynghorydd am fater sy'n ymwneud â defnyddwyr, ffoniwch 0808 223 1133.
Gall siaradwyr Cymraeg gysylltu â Chyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.
Am daflenni cyngor defnyddiol i ddefnyddwyr, ewch i tudalennau cyngor ar ein gwefan ni.
I Fusnesau
Os ydych yn fusnes sydd wedi hen sefydlu neu os ydych yn ystyried sefydlu busnes, efallai y bydd angen cyngor fel y byddwch yn gwybod beth yw’r ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud a meysydd megis cyfreithlonrwydd cynhyrchion, gwasanaethau, pecynnu, labeli a hysbysebu (gweler yr adrannau am Fesureg Gyfreithiol, Masnachu Teg, Amddiffyn Defnyddwyr a Diogelwch Cynhyrchion, Safonau Bwyd ac Amaeth).
Os ydych yn fusnes yng Ngheredigion sy’n chwilio am gyngor neu gwybodaeth ynglyn â sut i gydymffurfio gyda’r gyfraith, oherwydd prinder staff, ni allwn ddarparu’r gwasanaeth cynghori yma ar hyn o bryd.
Fodd bynnag, efallai y cewch y cyngor neu’r gwybodaeth sydd ei hangen arnoch trwy ein gwefan Cyngor i Fusnesau neu ar gwefan Business Companion.
Os oes angen cyngor arnoch ynglyn âg anghydfod sifil, gallwch gael cyngor gan Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth (gweler manylion uchod).