Ystyrir bod ci yn Gi Strae pan fydd rhywun yn dod o hyd iddo yn crwydro ar ei ben ei hun mewn lle cyhoeddus ac nad oes modd cysylltu â’r perchennog, neu ei leoli. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am gasglu cŵn strae a’u rhoi mewn llety cŵn.

Cŵn Coll

Os ydych chi wedi colli eich ci:

  • Cysylltwch â ni a rhowch ddisgrifiad manwl i ni o’ch ci. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i groesgyfeirio manylion y cŵn sydd eisoes yn ein gofal ac unrhyw adroddiad y gallwn fod wedi ei dderbyn ynghylch ci strae sydd wedi cael ei weld.
    • Ar-lein
    • Ffôn 01545 570881 (Dydd Llun i Ddydd Iau 08:45 - 17:00, Dydd Gwener 08:45 - 16:30)
  • Cysylltwch â’ch milfeddygfa leol. Mae’n bosibl bod rhywun wedi dod o hyd i’ch ci ac wedi mynd ag ef yno.
  • Edrychwch ar y cyfryngau cymdeithasol am unrhyw bostiadau ‘Dod o Hyd i Gi’.
  • Os ydych chi’n credu y gallai eich ci fod wedi cael ei ddwyn, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.
  • Os ydych chi wedi yswirio eich ci, rhowch wybod i’ch cwmni yswiriant bod eich ci ar goll.

Dod o Hyd i Gi

Os ydych chi wedi dod o hyd i gi strae:

  • Cysylltwch â ni. Rhowch ddisgrifiad manwl i ni o’r ci rhag ofn y bydd y perchennog wedi cysylltu â ni i adrodd bod ei gi ar goll.
    • Ar-lein
    • Ffôn 01545 570881 (Dydd Llun i Ddydd Iau 08:45 - 17:00, Dydd Gwener 08:45 - 16:30)
  • Bydd un o’n wardeiniaid yn trefnu i gasglu’r ci.

Cŵn Strae

Os yw’n rhesymol bosibl, bydd ein wardeiniaid yn chwilio am fanylion cyswllt ar goler y ci neu ar dag, neu o’i ficrosglodyn. Noder, o 16eg Ebrill 2016, mae Rheoliadau Microsglodynnu Cŵn (Cymru) 2015 yn nodi bod yn rhaid microsglodynnu cŵn a bod gwybodaeth benodol yn cael ei chofnodi ar gronfa ddata. Cyfrifoldeb y perchennog yw gwneud yn siŵr bod y wybodaeth hon yn cael ei chadw’n gyfredol.

Os nad oes modd dynodi’r perchennog, bydd y ci yn cael ei roi mewn llety cŵn am hyd at 9 niwrnod. Bydd y perchennog yn agored i dalu am holl gostau rhesymol cadw’r ci mewn llety cŵn cyn y gellir dychwelyd y ci iddo.