Mae cyfyngiadau ar ran o’r traeth a’r promenâd yn y Borth, un sy’n gwahardd mynd â chŵn am dro ar y traeth ac un sy’n gwahardd mynd â chŵn am dro heb dennyn ar y promenâd. Mae arwyddion ger y traeth a’r promenâd sy’n egluro’r cyfyngiadau hyn. Gweithredir y cyfyngiadau hyn drwy Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus (PSPO).

Gorchymyn Gwahardd Cŵn (Ary Traeth, Borth) 2008

Gorchymyn Gwahardd Cŵn (Ary Promenâd, Borth) 2008

Beth yw Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus?

Yn Neddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014, disodlwyd y Gorchmynion Rheoli Cŵn blaenorol gyda Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ac mae’r rhain yn galluogi i awdurdodau lleol barhau i weithredu unrhyw gyfyngiadau a oedd mewn grym o dan y Gorchmynion Rheoli Cŵn blaenorol.

Mae’r pwerau hyn yn cynorthwyo’r Heddlu i fynd i’r afael â niwsans, aflonyddwch neu anhrefn, ac yn y Borth unrhyw broblemau sy’n gysylltiedig â chŵn ar y traeth neu gŵn heb dennyn ar y promenâd. Y nod yw cadw’r traeth yn fwy diogel a glân drwy wahardd cŵn ar y traeth a mynd i’r afael â’r broblem o ran cŵn sydd allan o reolaeth ac sy’n cael rhedeg yn rhydd heb dennyn ar y promenâd.

Beth yw man agored cyhoeddus?

Unrhyw le y mae’r cyhoedd yn medru mynd iddo, gan gynnwys strydoedd, ffyrdd, palmentydd, lleiniau glaswellt, mannau i gerddwyr, ardaloedd eistedd, mannau amwynder, parciau a meysydd parcio.

Ni fydd rhai mannau penodol byth yn dod yn fannau cyhoeddus gwarchodedig. Lleoedd yw’r rhain sydd wedi’u hawdurdodi drwy drwydded, gan gynnwys tafarndai a chlybiau. Caiff safleoedd sy’n destun Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro eu heithrio hefyd.

Pa bwerau sydd gan yr Heddlu yn yr ardal hon sy’n destun Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus?

Yn y Borth, caiff y Gorchymyn Gwarchod Mannau Agored Cyhoeddus ei dorri pan fo person sy’n gyfrifol am gi yn mynd â’r ci ar unrhyw dir lle y mae’r Gorchymyn ar waith neu os yw’r person yn caniatáu i’r ci fynd ar y tir neu aros arno (gydag eithriadau), neu os yw’r person yn methu â chadw’r ci ar dennyn ar dir lle y mae’r Gorchymyn ar waith (gydag eithriadau). Bydd y troseddwyr yn agored i euogfarn ddiannod a hyd at £500 o ddirwy.

Adolygu ac Ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus

Hysbysir drwy hyn fod y Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus yn y Borth, Aberystwyth, wedi’u hymestyn tan 20/10/2023. (Bydd y gorchmynion gwreiddiol sydd wedi bod mewn grym ers 2017 yn dod i ben ar 19/10/2020).