Skip to main content

Ceredigion County Council website

Difa Plâu

GWYBODAETH PWYSIG

Yn dilyn penderfyniad a wnaed gan Aelodau Etholedig ar 29 Chwefror 2024, nid yw'r awdurdod bellach yn darparu gwasanaeth rheoli pla.

Nid oes dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaeth o’r fath ac yn yr un modd â llawer o awdurdodau lleol eraill, rydym wedi gorfod gwneud dewisiadau anodd ond angenrheidiol am ba wasanaethau rheng flaen i’w gadw.

O dan ddarpariaethau Deddf Atal Difrod gan Blâu 1949 mae perchnogion/meddianwyr yn gyfrifol am gadw eu tir eu hunain yn rhydd rhag llygod mawr/llygod, nid y Cyngor.

Rydym yn eich cynghori i gysylltu â chwmni rheoli plâ preifat yn hytrach na cheisio trin y broblem yn uniongyrchol eich hunain.