Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ralïau Moduron

Mae dau brif fath o rali foduron – rali ar ffordd gaeëdig a rali ar ffordd agored.

Rali ar ffordd gaeëdig

Gall ralïau moduron ffordd gaeëdig gael eu hawdurdodi ar gyfer priffyrdd cyhoeddus ar yr amod bod y ffyrdd dan sylw ar gau i’r cyhoedd drwy Orchymyn Traffig Dros Dro a wneir neu a awdurdodir gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae trefnwyr y math hwn o ddigwyddiad yn talu am gost hyn. Mae’r math hwn o ddigwyddiad yn caniatáu rasys neu dreialon cyflymder rhwng cerbydau modur a/neu yn erbyn y cloc.

Rali ar ffordd agored

Nid yw ralïau moduron ffordd agored yn caniatáu rasys neu dreialon cyflymder. Dyma’r sefyllfa o ran ralïau moduron ar y briffordd gyhoeddus:

  1. Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn awdurdodi’r math hwn o ddigwyddiad. Rhoddir caniatâd i ddigwyddiadau oddi ar y briffordd gyhoeddus lle mae’r trywydd yn defnyddio neu’n croesi hawl dramwy gyhoeddus (o dan Adran 33 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988).
  2. Ar yr amod bod cerbyd wedi’i drethu, ei yswirio, â thystysgrif MOT ddilys lle bo angen ac yn gymwys i fod ar yr heol, a bod y gyrrwr yn meddu ar drwydded yrru ddilys ac yswiriant, gall unrhyw aelod o'r cyhoedd, wrth gwrs, ddefnyddio unrhyw briffordd gyhoeddus ar unrhyw adeg. Mae pob aelod o'r cyhoedd yn gorfod dilyn y cyfyngiadau (e.e. terfynau cyflymder, system unffordd ac ati) a’r rheoliadau cyffredinol (e.e. ildio ar gyffordd, llinell wen ddwbl ar ganol y ffordd) ar unrhyw ran o’r briffordd gyhoeddus. Sylwer y byddai unrhyw achos posibl o dorri’r rheolau uchod yn fater i’r heddlu ei ystyried; nid oes gan Gyngor Sir Ceredigion unrhyw bŵer o ran gorfodi’r rhain.
  3. Mae Adran 12 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 yn nodi fod person sy’n hyrwyddo neu’n cymryd rhan mewn ras neu dreial cyflymder rhwng cerbydau modur ar briffordd gyhoeddus yn euog o drosedd.
  4. Serch hynny, mae’n bosib cyflwyno elfen gystadleuol i ralïau moduron ffordd agored a hynny drwy annog gyrwyr i gyrraedd man penodol erbyn amser penodol. Ni ddylid pennu amserlen neu gyflymder fyddai’n annog neu’n gofyn bod cystadleuwyr, wrth iddynt ddefnyddio priffordd sydd ar agor i’r cyhoedd, yn cyrraedd cyflymder cyfartalog rhwng dau bwynt a fyddai’n uwch na’r canlynol:
    1. 30mya yn achos pob priffordd oni bai am draffyrdd.
    2. cyfartaledd o hyd at 20mya yn achos rhannau sy’n rhedeg ar is-ffyrdd o dan 4m o led yng ngolau dydd.
    3. 25mya yn achos unrhyw ddosbarth o gerbyd sy’n destun terfyn cyflymder cenedlaethol is na char (e.e. fan).
    4. 20mya i geir ar rannau niwtral (ardaloedd sensitif, poblog) ar wahân i ffyrdd Dosbarth A neu B.
    5. rhaid peidio â rhoi bonws am fynd yn gyflymach na’r cyflymderau cyfartalog a nodir uchod. Rhaid rhoi’r holl wybodaeth angenrheidiol i’r cystadleuwyr i’w galluogi i gyfrifo - o flaen llaw - y cyflymder y gofynnir iddynt ei wneud ar gyfartaledd.

Ceisiadau am Ganiatâd Adran 33 ar gyfer ralïau oddi ar y briffordd gyhoeddus sy'n defnyddio neu'n croesi unrhyw hawl tramwy cyhoeddus.

Noder bod cost am asesu ceisiadau, sy'n daladwy cyn prosesu'r cais. Rhaid i geisiadau gynnwys map yn dangos pob rhan o hawliau tramwy cyhoeddus y bwriedir effeithio arnynt, ynghyd â thystiolaeth ffurfiol o gytundeb gan bob perchennog tir y mae unrhyw hawliau tramwy cyhoeddus yr effeithir arnynt yn croesi drosto. Mae hyn fel arfer ar ffurf rhestr o lofnodion a chyfeiriadau/arwyddion ynghylch y rhan o hawl tramwy cyhoeddus y mae'r caniatâd yn berthnasol iddi. Byddai manylion unrhyw Ddatganiadau Dull Asesiad Risg a gwblhawyd gan y Trefnydd (mae templedi ar gael ar wefan Motorsport UK), lleoliadau mannau marsialiaid, nifer y cerbydau cystadleuwyr (neu amcangyfrif lle nad yw'r niferoedd terfynol ar gael eto), ac amseroedd digwyddiadau a lleoliadau allweddol hefyd yn ddefnyddiol i gefnogi cais.

Asesir ceisiadau ar gyfer effeithiau amgylcheddol, ac efallai gosodir amodau ar Ganiatâd Adran 33. Noder nad yw Caniatâd Adran 33 yn rhoi'r hawl i gau unrhyw hawl tramwy cyhoeddus. Cyfrifoldeb trefnwyr y rali yw sicrhau bod unrhyw hawl tramwy cyhoeddus yn parhau i fod ar agor i'r cyhoedd i'w defnyddio'n ddiogel yn ystod unrhyw ddigwyddiad. Pan fo asesiad risg y trefnwyr ei hun yn awgrymu na ddylai'r llwybr fod yn hygyrch i'r cyhoedd yn ystod y digwyddiad, neu pan fo'r Cyngor o'r farn nad yw marsialiaid ar eu pennau eu hunain yn ddigonol i sicrhau diogelwch y cyhoedd, rhaid gwneud cais i gau'r hawl tramwy cyhoeddus dros dro. Mae angen tâl ychwanegol ar gyfer cau o'r fath.

Yn dibynnu ar lwybr a dyddiadau'r digwyddiad, efallai gosodir amodau amrywiol ar unrhyw Ganiatâd Adran 33, y mae'n rhaid cydymffurfio â nhw er mwyn i'r Caniatâd fod yn ddilys. Yn aml, ar gyfer llwybrau sy'n mynd trwy dir a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, neu sy'n mynd trwy neu ger Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA), efallai y bydd gofyn i'r trefnwyr ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru hefyd. Mae manylion lleoliadau SoDdGA ac ACA ar gael ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru ac ar Fap Data Cymru Llywodraeth Cymru. Efallai y bydd ymgeiswyr yn dymuno trafod eu llwybr gyda Chyfoeth Naturiol Cymru cyn gwneud cais i'r Cyngor am Ganiatâd Adran 33, a chaniatáu digon o amser arweiniol i gwblhau hynny.

Gellir dod o hyd i fanylion am gostau ar ein tudalen Ffioedd a Chostau

Dylai pob cais ganiatáu o leiaf 12 wythnos o amser arweiniol er mwyn asesu a, lle bo hynny'n berthnasol, rhoi Caniatâd.