
Grant Adleoli (DFG)
Ceir tybiaeth yn erbyn neilltuo Grant Cyfleusterau i’r Anabl lle nad yw’r eiddo yn addas i anghenion yr ymgeisydd yn y tymor hir.
Bydd yr Awdurdod hefyd yn cynnig cymorth tuag at adleoli person anabl mewn amgylchiadau priodol h.y. lle nad yw costau addasu eiddo yn rhesymol nac yn ymarferol, neu fel arall lle nad yw addasu'r eiddo presennol yn diwallu anghenion y person anabl na'i deulu/gofalwr yn ddigonol.
Er mwyn cynorthwyo'r person anabl i symud i eiddo mwy addas lle mae'n fwy cost-effeithiol na haddasu'r cartref presennol, rhoddir ystyriaeth i dalu costau cyfreithiol a chostau symud yn ogystal â chostau addasu drwy'r Grant Adleoli. Y grant uchaf yw £10,000.
Pa waith y mae hwn yn ei gynnwys?
Weithiau, efallai y bydd Therapydd Galwedigaethol yn nodi na ellir bodloni anghenion perchennog cartref yn eu cartref presennol. Efallai na fydd addasiadau mewn eiddo penodol yn ymarferol a chaiff y penderfyniad hwn ei wneud ar y cyd â’r gwasanaeth addasiadau i’r anabl.
Dan yr amgylchiadau hyn, efallai y bydd cleient yn gymwys i gael cymorth ariannol i symud o’u cartref presennol i eiddo mwy addas, a gaiff ei addasu i fodloni eu hanghenion, neu pan fydd addasiadau yn ymarferol.
Gwaith sy'n gymwys i gael cymorth dewisol
Ni fydd y grant a gynigir yn fwy na'r gost o addasu'r eiddo presennol.
Ar gyfer tenantiaid sector preifat, bydd cymorth gyda chostau symud yn cael ei ystyried mewn achosion o galedi.
Dim ond i dalu’r costau sy’n gysylltiedig â symud tŷ y gellir defnyddio’r grant, er enghraifft:
- ffioedd asiant tai
- ffioedd cyfreithiwr
- costau symud
- costau cysylltiad cyfleustodau hanfodol
- blaendal ar gyfer eiddo rhentu preifat
Mewn rhai achosion, efallai y byddwn hefyd yn ystyried helpu gyda chost carpedi a llenni ac ailosod offer penodol. Fodd bynnag, bydd hyn yn dibynnu ar amgylchiadau unigol pob achos.
Cynhelir asesiad o’r eiddo newydd gan y Therapydd Galwedigaethol er mwyn pennu a fyddai modd bodloni anghenion byw dyddiol yr unigolyn anabl yn yr eiddo hwnnw. Mewn cysylltiad â swyddog grant, gwneir penderfyniad am gost unrhyw addasiadau sy’n angenrheidiol yn yr eiddo newydd. Trowch hefyd at y dudalen Grant Cyfleusterau i’r Anabl - Gorfodol.
Dylech gysylltu â’r Therapydd Galwedigaethol yn y lle cyntaf, er mwyn iddynt allu cynnal asesiad llawn o’ch anghenion. Ffoniwch 01545 574000 i wneud ymholiadau.
Pwy fydd yn gymwys?
Ar gyfer perchen-feddianwyr, cynigir Grant Adleoli gyda DFG, a fydd yn destun yr un meini prawf cymhwystra, prawf modd ac amodau ar ôl cwblhau ag sy’n berthnasol i’r grant Cyfleusterau i’r Anabl gorfodol/dewisol.
Wrth bennu lefel y cymorth, ystyrir dichonolrwydd a chost addasu’r eiddo presennol ac arfaethedig, a gwerth pob eiddo ar y farchnad.
Byddai’r unigolyn anabl a’u cymar yn destun prawf o’u hadnoddau ariannol er mwyn pennu eu cyfraniad ariannol.
Mewn achosion lle y mae’r unigolyn anabl yn blentyn, bydd y rhieni neu’r gwarcheidwad y bydd ganddynt fudd perchennog yn yr eiddo yr adleolir iddo, yn destun y cyfrifiad prawf adnoddau.
Faint fyddaf yn ei gael?
Uchafswm y grant y bydd modd ei gael yw £10,000.
Sut fyddaf yn trefnu’r grant/gwaith?
Ni fydd yr Awdurdod Lleol yn eich cynorthwyo i sicrhau eiddo newydd i symud iddo. Ar ôl nodi eiddo, fodd bynnag, dylech gysylltu â’ch swyddog grantiau a’ch therapydd galwedigaethol i drafod y ffordd ymlaen.
Lle mae angen addasiadau i'r eiddo newydd, bydd yr addasiadau'n cael eu trefnu trwy wasanaethau gwasanaeth goruchwylio Mewnol Addasiadau'r Cyngor. Mae gan yr Awdurdod Lleol wasanaeth goruchwylio a fydd yn helpu ymgeiswyr i wneud cais am y grant, ar ôl i'r llety newydd gael ei nodi. Bydd y gwasanaeth goruchwylio yn cynnwys mesur yr eiddo newydd i gynhyrchu cynllun gwaith, gan gynnwys lluniadau lle bo angen, cael dyfynbrisiau ar gyfer y gwaith, gan gynnwys ar gyfer offer arbenigol, a datrys unrhyw faterion wrth iddynt godi. Byddant yn eich helpu i lenwi'r ffurflen gais a datrys y wybodaeth ariannol y gallai fod angen i chi ei darparu. Efallai bod y swyddog gwasanaeth goruchwylio eisoes wedi ymweld â'ch cartref blaenorol i drafod a yw addasiadau'n ymarferol, ac wedi costio cynllun.
Amodau’r grant, gan gynnwys ad-dalu
- Cyfnod yr amodau grant yw 10 mlynedd
- Rhaid bod yr ymgeisydd yn bwriadu byw yn yr eiddo fel eu hunig fan preswylio neu eu prif fan preswylio yn ystod cyfnod yr amodau grant neu am gyfnod byrrach ag y bydd eu hiechyd ac amgylchiadau perthnasol eraill yn caniatáu
- Dylid cwblhau’r gwaith cyn pen 12 mis o sicrhau’r gymeradwyaeth, oni bai yr awdurdodir fel arall
- Efallai bydd Prawf Statudol o Adnoddau Ariannol fel y’i cedwir ar gyfer Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl (HRGR 1996) yn berthnasol
- Bydd tâl yn cael ei gyflwyno i'r Gofrestrfa Tir ar yr eiddo newydd cyn gynted â phosibl ar ôl prynu'r eiddo
- Os bydd yr eiddo yn cael ei waredu, o fewn 10 mlynedd i dalu'r dyfarniad grant, bydd y grant yn ad-daladwy yn ei gyfanrwydd
Mewn achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll neu ddichell – Polisi yr awdurdod yw canlyn, nodi ac ymchwilio i achosion lle y ceir amheuaeth o dwyll a dichell mewn ffordd weithredol.