
Digartrefedd
Os ydych chi'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, gall y Cyngor ddarparu cymorth i atal neu liniaru eich sefyllfa.
Gall pobl sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sydd eisoes yn ddigartref gynnwys y rhai sy’n cael eu heffeithio gan y canlynol;
- Methu â thalu'r rhent ar amser
- Byw heb lety sefydlog
- Eiddo nad yw’n addas ar gyfer yr anghenion
- Cysgu ar soffa ffrind neu deulu
- Gadael ystâd neu sefydliad neu leoliad diogel arall
- Tenantiaeth sy’n gysylltiedig â’r gwaith yn dod i ben
- Wedi derbyn hysbysiad troi allan, p’un a ydynt ar fai ai peidio
- Cysgu allan
Dim ond rhai enghreifftiau yw’r rhain. Os ydych yn ansicr neu’n meddwl bod angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni.
Yr hyn y gallwn ei wneud
Ein blaenoriaeth gyntaf fydd eich helpu i atal eich sefyllfa bosibl o fod yn ddigartref rhag troi’n realiti. Bydd angen i ni ymchwilio’n drylwyr i’ch amgylchiadau, gan gynnwys siarad ag eraill am eich sefyllfa fel eich teulu, landlord neu weithwyr proffesiynol y gallech fod ymwneud â nhw. Mae angen i ni wneud hyn oherwydd mae angen i ni wirio eich amgylchiadau ac archwilio ffyrdd o atal digartrefedd. Os oes unrhyw faterion sensitif megis cam-drin, byddwn yn eu hystyried ac yn addasu ein dull o weithredu yn unol â hynny.
Efallai y byddwn yn gofyn i eraill eich cynorthwyo, megis ein tîm safonau tai os yw eich eiddo mewn cyflwr gwael neu os ydych yn profi aflonyddwch, neu weithiwr cymorth tai i’ch helpu i wneud cais am fudd-daliadau ac i ddod o hyd i lety.
Os na lwyddwn i’ch atal rhag bod yn ddigartref, byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i le arall i fyw. Bydd angen i chi helpu hefyd drwy ddilyn unrhyw lwybrau posibl, ein cynorthwyo i archwilio’ch sefyllfa ariannol a gweithio gydag asiantaethau cymorth i wella'ch sefyllfa. Byddwn yn gweithio gyda chi i lunio Cynllun Tai Personol sy’n nodi’r camau y gallwch eu cymryd.
Cysylltiad Lleol
Yn ystod ein hymchwiliad, byddwn hefyd yn gwirio a oes gennych gysylltiad lleol â’r ardal. Os nad ydych wedi byw yma ers sbel, neu os ydych yma dros dro yn unig, efallai y byddwn yn ceisio eich ailgysylltu â’ch Awdurdod Lleol cartref. Gallwch barhau i gael cyngor ac arweiniad heb gysylltiad lleol, ond efallai na fydd y gwasanaethau llawn ar gael i chi.
Llety Dros Dro
Os bydd angen, byddwn yn cynnig llety dros dro i chi. Yn anffodus, nid ydym bob amser yn gallu cynnig llety mewn ardal o’ch dewis oherwydd ein cyflenwad cyfyngedig. Rydym yn ceisio sicrhau bod eich cyfnod mewn llety dros dro mor fyr â phosib.
Nid yw llety dros dro yn rhad ac am ddim, a bydd yn rhaid i chi dalu rhent ac unrhyw filiau yn yr eiddo.
Bwriadoldeb
Er y byddwn yn darparu cymorth am gyfnod i bawb sy’n cael eu nodi fel ‘digartref’, (yn ôl ein hasesiad dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014), byddwn yn cynnal asesiad pellach o ran bwriadoldeb ar ôl 8 wythnos.
Byddwn yn asesu a fu’ch digartrefedd yn ganlyniad i’ch gweithredoedd neu ddiffyg gweithredu ac a allai fod wedi’i osgoi pe baech wedi gweithredu’n wahanol. Mae'r math o bethau sy'n gallu arwain at benderfyniad eich bod yn ddigartref yn fwriadol yn cynnwys, er enghraifft, a oedd gennych ôl-ddyledion rhent y gellid bod wedi’u hosgoi, a oeddech wedi ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol, neu wedi dewis gadael eich llety yn wirfoddol.
Os caiff ei benderfynu eich bod yn ddigartref yn fwriadol, gall ein cyfrifoldeb i barhau i’ch cynorthwyo - gan gynnwys darparu llety - ddod i ben. Os nad ydych yn ddigartref yn fwriadol, byddwn yn parhau i’ch cynorthwyo.
Gweler isod y wybodaeth am y prawf bwriadoldeb a phwy y mae’n berthnasol iddynt.
Mae'r Hysbysiad hwn yn eich hysbysu y bydd Cyngor Sir Ceredigion, o ddydd Gwener 26 Mai 2023, yn cymhwyso'r "Prawf Bwriadoldeb" i'r categorïau canlynol o bobl sydd ag angen blaenoriaethol.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir Ceredigion yn asesu bwriadoldeb a bydd yn parhau i wneud hynny ar gyfer yr holl grwpiau cleientiaid a nodir isod.
- Menyw feichiog neu unigolyn sy’n byw gyda hi neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gyda hi
- Unigolyn sy’n byw gyda phlentyn dibynnol neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gyda’r plentyn hwnnw
- Unigolyn sy’n agored i niwed oherwydd rhyw reswm penodol (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu unigolyn sy’n byw gyda’r person hwnnw, neu y gellid disgwyl yn rhesymol ei fod yn byw gydag ef/hi
- Unigolyn sy'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu unigolyn sy’n byw gyda’r person hwnnw neu y gellid disgwyl yn rhesymol ei fod yn byw gydag ef/hi
- Unigolyn sy’n 16 neu 17 oed
- Unigolyn sydd yn ddigartref oherwydd cam-drin domestig, neu rywun (ac eithrio’r sawl sy’n cam-drin) sy’n byw gydag ef/hi neu y gellid disgwyl yn rhesymol ei fod yn byw gydag ef/hi
- Unigolyn sydd eisoes wedi troi’n 18 oed (ond heb gyrraedd 21) ar adeg gwneud cais i’r awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gael neu gadw llety, sy’n wynebu risg benodol o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu sy’n byw gyda’r unigolyn hwnnw (ac eithrio’r ecsbloetiwr neu’r ecsbloetiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol ei fod yn byw gyda’r person hwnnw
- Unigolyn sydd eisoes wedi troi’n 18 oed (ond heb gyrraedd 21) ar adeg gwneud cais i’r awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gael neu gadw llety, a oedd wedi derbyn gofal, llety neu a gafodd ei faethu ar unrhyw adeg pan oedd dan 18 oed
- Unigolyn sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog rheolaidd y Goron ac sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd, neu sy’n byw gyda’r person hwnnw neu y gellid disgwyl yn rhesymol ei fod yn byw gyda’r person hwnnw
- Unigolyn sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod lleol ac sy’n agored i niwed o ganlyniad i un o’r rhesymau canlynol -
- bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000
- bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan orchymyn llys
- bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, neu berson y mae person o’r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
- Person sy'n ddigartref ac ar y stryd (o dan adran 71(2)), neu berson y mae person o’r fath yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
Cysylltwch â Ni
Gallwch gysylltu â'r gwasanaeth tai drwy ffonio'r ganolfan gyswllt ar 01545 570881 neu drwy e-bostio housingoptions@ceredigion.gov.uk.