Roedd pedwar ysgol uwchradd o Geredigion ar y blaen mewn Twrnamaint Pêl-fasged Parth Cynhwysol yr Urdd. Teithiodd Ysgolion Uwchradd Aberteifi, Ysgol Gyfun Aberaeron, Ysgol Penglais a Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig i Gaerdydd i gystadlu ar ddydd Iau, 5 Rhagfyr 2019.

Mae Pêl-fasged Parth Cynhwysol yn gymysgedd o bêl-fasged rhedeg a chadair olwyn. Mae’r cwrt yn cael ei rannu i dri parth gyda dau yn erbyn dau mewn cadair olwyn yn chwarae yn y parth canol, a un yn erbyn un yn y ddau barth allanol. Mae’r gamp yma yn galluogi plant gyda anabledd i chwarae wrth ochr plant sydd heb anabledd o fewn yr un gêm. I gymryd rhan, does dim rhaid i gyfranogwyr gael anabledd i’r goes o dan y ben-glin, neu fod mewn cadair olwyn. Felly, gall bob plentyn fod yn rhan o’r gamp.

Chwaraeodd ysgolion Ceredigion yn arbennig o dda. Daeth Ysgol Aberteifi yn bedwerydd, a Ysgol Gyfun Aberaeron yn maeddu Ysgol Uwchradd Penglais yn y ffeinal. Bydd Ysgol Gyfun Aberaeron nawr yn cynrychioli Cymru yn y rownd nesaf sy’n cael ei gynnal yn Nottingham.

Dywedodd Gemma Cutter, Swyddog Chwaraeon Anabl dros Gymru, “Mae staff Ceredigion Actif wedi gweithio’n galed ar y prosiect Pêl-fasged Parth Cynhwysol dros y blynyddoedd diwethaf i wneud yn siŵr bod cynnig ar gyfer pob disgybl yng Ngheredigion. Mi wnaeth pob ysgol yn wych ac roedd pawb wir wedi mwynhau’r cyfle i gymryd ran mewn cystadleuaeth safonol dros ben – ymlaen i gynrychioli Cymru!”

Yn y gorffennol, mae un ysgol wedi cynrychioli Ceredigion. Gan bod yr Urdd yn rhedeg y gystadleuaeth am y tro cyntaf eleni, newidiwyd i fod yn gystadleuaeth agored. Cymerodd 32 o blant o Geredigion ran yn y twrnamaint gyda tua 60 o blant yn chwarae yn aml mewn sesiynau ysgol wythnosol.

Mae sesiynau wythnosol yn cael eu cynnal yn y pedwar ysgol, yn ogystal a Ysgol Bro Pedr, Llambed.

Llun: Ysgol Gyfun Aberaeron yn ennill Twrnamaint Pêl-fasged Parth Cynhwysol yr Urdd.

 

 

13/12/2019